CGA / EWC

Induction banner
Dyranu gwirwyr allanol
Dyranu gwirwyr allanol

Ni chaiff gwiriwr allanol (GA) ei ddyrannu ichi ond os byddwn naill ai wedi cael y ffurflen hysbysu Sefydlu oddi wrth eich ysgol neu, os ydych yn cyflawni cyfnod sefydlu trwy waith cyflenwi, y ffurflen hysbysu Sefydlu fel athro cyflenwi byrdymor.

Ni sy'n gyfrifol am gadw cofnod canolog o’r holl ddyraniadau GA. Ar ôl i GA gael ei ddyrannu, bydd ei enw i’w weld ar eich cofnod ymarferydd cofrestredig ar-lein.

Os ydych wedi’ch cyflogi mewn ysgol, bydd eich GA yn cysylltu â’ch ysgol er mwyn trefnu amser cyfleus i gyfarfod â chi a’ch mentor sefydlu.

Os ydych yn cyflawni cyfnod sefydlu trwy waith cyflenwi byrdymor, bydd eich GA yn cysylltu â chi’n uniongyrchol trwy e-bost. Os oes unrhyw newidiadau i’r cyfeiriad e-bost a roesoch ar y ffurflen hysbysu, dylech This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

Dyraniadau Gwirwyr Allanol yn ôl Consortia Rhanbarthol

Awdurdod LleolConsortiwmDyrannu gwirwyr allanol
Ynys Môn GwE Ar ran y consortia, rydym yn dyrannu GA i ANG yn unol â’r meini prawf paru y cytunwyd arnynt gyda’r consortiwm. Ar ôl iddo gael eu dyrannu bydd eu henw i’w weld trwy eich mynediad ar-lein.
Gwynedd
Conwy
Sir Ddinbych
Sir y Fflint
Wrecsam
Sir Penfro Partneriaeth   Ar ran y consortia, rydym yn dyrannu GAi ANG yn unol â’r meini prawf paru y cytunwyd arnynt gyda’r consortiwm. Ar ôl iddynt gael eu dyrannu bydd eu henw i’w weld trwy eich mynediad ar-lein.   
Sir Gâr
Abertawe
Pen-y-bont ar Ogwr Consortiwm Canolbarth y De (CCD) Byddwn yn dyrannu GA i gynorthwyo â rhoi cymorth i chi trwy eich rhaglen sefydlu. Bob wythnos rydym yn darparu rhestr i’r consortiwm o’r ANG y mae arnynt angen cymorth GA. Ar ôl i GA gael eu dyrannu bydd eu henw i’w weld trwy eich mynediad ar-lein.
Bro Morgannwg
Rhondda Cynon Taff
Merthyr Tudful
Caerdydd
Caerffili Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) Byddwn yn dyrannu GA i gynorthwyo â rhoi cymorth ichi trwy eich rhaglen sefydlu. Bob wythnos rydym yn darparu rhestr i’r consortiwm o’r ANG y mae arnynt angen cymorth GA. Ar ôl i GA gael eu dyrannu bydd eu henw i’w weld trwy eich mynediad ar-lein.
Blaenau Gwent
Torfaen
Sir Fynwy
Casnewydd
Powys Dim consortiwm Rydym yn dyrannu GA i ANG yn unol â’r meini prawf paru y cytunwyd arnynt gyda’r consortiwm. Ar ôl iddynt gael eu dyrannu bydd eu henw i’w weld trwy eich mynediad ar-lein.    
Ceredigion
Castell-nedd Port Talbot

Mae manylion Cydgysylltydd Sefydlu yr Awdurdod Lleol i’w gweld yma.