Teresa Annette Scutt - 22 Chwefror 2024
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 20, 21 a 22 Chwefror 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith, Teresa Annette Scutt.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei bod wedi ei chyflogi fel tiwtor ymgysylltu ieuenctid yn COPA (North Wales Training) fe wnaeth Miss Scutt:
- ar 5 Medi 2022, rannu gwybodaeth sensitif, gyfrinachol gyda Chydweithiwr A ym mhresenoldeb Cydweithiwr B a Dysgwr B.
- ar 24 Chwefror 2021, fynychu Gwrandawiad Llys yn ystod oriau gwaith, heb awdurdod blaenorol ar gyfer yr absenoldeb gan ei rheolwr llinell.
- ar 26 Hydref 2020, yfed alcohol yn ystod oriau gwaith.
- ar 26 Hydref 2020, fethu ag arllwys alcohol i ffwrdd pan ofynnwyd iddi gan Gydweithiwr C.
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, fe wnaeth y Pwyllgor hefyd benderfynu bod ymddygiad Miss Scutt ym mharagraff 2 uchod yn anonest.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan dynnu Miss Scutt oddi ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg am gyfnod penagored yng nghategori ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith. Penderfynodd hefyd na fyddai Miss Scutt yn cael gwneud cais i'w hadfer i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn bod cyfnod o 3 blynedd wedi treiglo. Os na wnaiff Miss Scutt wneud cais llwyddiannus i'w hadfer i'r Gofrestr ar ôl 22 Chwefror 2027, bydd wedi ei gwahardd am gyfnod penagored.
Mae gan Miss Scutt yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.