Kate Morris - 23 Chwefror 2024
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mawrth 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 20 i 23 Chwefror 2024, wedi canfod bod honiad o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ wedi’i brofi yn erbyn yr athrawes addysg bellach a’r athrawes ysgol, Kate Morris.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef bod Ms Morris:
- rhwng oddeutu mis Medi 2021 a mis Chwefror 2022, heb sicrhau bod cofrestrau’n cael eu cwblhau’n gywir yn yr ystyr ei bod hi wedi:
- marcio bod dysgwyr wedi mynychu gwers wyneb yn wyneb pan gynhaliwyd y wers ar-lein.
- marcio bod dysgwyr yn bresennol ar-lein pan nad oedd y dysgwr wedi mynychu’r wers.
- marcio bod dysgwyr yn bresennol mewn gwersi pan nad oedd y dysgwyr hyn yn ymgymryd â’r rhaglen.
- heb addysgu’r cwrs Mynediad at Addysg Uwch (AHE) Iechyd am y cyfan a/neu ran o’r cyfnod a amserlennwyd trwy:
- ddechrau gwersi’n hwyr a/neu orffen gwersi’n gynnar.
- newid amserau dechrau a gorffen.
- canslo gwersi.
- symud gwersi ar-lein heb ganiatâd ei rheolwr llinell.
- Heb roi cymorth a/neu adborth digonol i ddysgwyr yn yr ystyr nad oedd hi wedi:
- dychwelyd gwaith i ddysgwyr mewn modd amserol.
- sicrhau bod ffurflenni UCAS yn cael eu cyflwyno mewn modd amserol.
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Ms Morris fel athrawes addysg bellach ac athrawes ysgol am gyfnod o 2 flynedd (o 23 Chwefror 2024 tan 23 Chwefror 2026). Fel y cyfryw, bydd Ms Morris yn gallu gweithio fel cofrestrai (athrawes addysg bellach) sy’n darparu gwasanaethau penodol mewn sefydliad addysg bellach yng Nghymru neu ar ei gyfer. Bydd hefyd yn gallu gweithio fel cofrestrai (athrawes ysgol) mewn ysgol a gynhelir neu ysgol arbennig nas cynhelir yng Nghymru.
Mae gan Ms Morris hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.