Richard Coombs - 23 Mai 2024
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mehefin 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 21, 22 a 23 Mai 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn athrawes ysgol, Richard Coombs.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiadau canlynol wedi eu profi, bod Mr Coombs:
- rhwng Mehefin 2021 a Mawrth 2022, wedi ymddwyn mewn modd amhriodol a/neu ddefnyddio grym gorfodol yn erbyn Person A, ar fwy nag un achlysur fe wnaeth:
- gydio ym mraich/breichiau a/neu arddwrn/arddyrnau Person A
- daflu a/neu wthio Person A
- ddal a/neu gydio yn llwnc a/neu wddf Person A
- gwthio a/neu wasgu Person A ar ochr eu pen
- slapio Person A ar eu hwyneb a/neu eu trwyn
- pinio a/neu ddal Person A ar y llawr
- ar neu gwmpas Awst 2021, anfon neges destun at Person A oedd yn dweud "hoffwn i fod wedi dy bwnsho mor galed na fyddet ti wedi deffro"
- rhwng Medi 2021 ac Ionawr 2022, anfon neges(euon) testun oedd yn hiliol a/neu'n ymosodol yn eu natur
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan dynnu Mrs Coombs oddi ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg am gyfnod penagored yng nghategori athro ysgol. Penderfynodd hefyd na ddylai Mr Coombs gael y cyfle i adfer ei gymhwyster i gofrestru hyd nes bod cyfnod o dair blynedd wedi mynd heibio. Os na wnaiff Mr Coombs wneud cais llwyddiannus ar gyfer cymhwyster i'w adfer i'r Gofrestr ar ôl 23 Mai 2027, bydd wedi ei wahardd am gyfnod penagored.
Mae gan Mr Coombs yr hawl i apelio i Is-adran Mainc y Brenin yn yr Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.