CGA / EWC

Accreditation banner
Mawrth 2022
Mawrth 2022

Creating Learning without Limits - Mandy Swann, Alison Peacock, Susan Hart a Mary Jane Drummond

Creating learning without limitsMae'r llyfr diddorol ac ysbrydoledig hwn yn adrodd hanes sut y creodd ysgol gynradd, a oedd ar un adeg ag angen mesurau arbennig, amgylchedd dysgu sy'n 'gynhwysol, yn drugarog ac yn galluogi pawb'.

Mae Creating Learning without Limits yn adeiladu ar ymchwil flaenorol ar arfer yn yr ystafell ddosbarth gan yr awduron, ac yn archwilio sut y gellir gwella gallu dysgu pob plentyn drwy greu amgylchedd ystafell ddosbarth sy'n gynhwysol ac yn rhydd o labeli 'gallu'.

Mae hwn yn llyfr y dylai unrhyw addysgwr sy'n credu ym photensial di-derfyn pob dysgwr a pherson ifanc ei ddarllen.

 Nid yw’r cyhoeddiad yma ar gael ar EBSCO bellach. Efallai y gallwch ddod o hyd iddo mewn ffynhonellau eraill.

 

Motivation to Learn: Transforming classroom culture to support student achievement - Michael Middleton a Kevin Perks

Motivation to learnP'un a ydych yn athro newydd gymhwyso, neu'n ymarferydd profiadol, un o'r heriau mwyaf ar gyfer unrhyw addysgwr yw sut i ysgogi dysgwyr.

Mae ‘Motivation to Learn: Transforming Classroom Culture to Support Student Achievement’ yn darparu strategaethau pendant i helpu addysgwyr greu amgylchedd dysgu sy’n cynyddu ymgysylltiad myfyrwyr i'r eithaf.

Yn ogystal ag adolygu'r seicoleg y tu ôl i gymhelliant, mae'r llyfr hwn yn darparu cyfleoedd ar gyfer hunanfyfyrio, astudiaethau achos bywyd go iawn a syniadau ymarferol y gellir eu gweithredu ar unwaith yn yr ystafell ddosbarth.