Dyddiad cyhoeddi: 20 Rhagfyr 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 17-19 Rhagfyr 2024, wedi canfod bod honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol a throsedd berthnasol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach, Anthony Morris.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiadau canlynol wedi eu profi yn erbyn Mr Morris:
- ar neu o gwmpas Tachwedd 2022, wedi cael cyswllt corfforol amhriodol gyda Chydweithiwr A gan iddo dapio eu pen ôl
- rhwng Awst 2022 a Mai 2023, dangos diffyg gallu i gadw amser, ar fwy nag un achlysur fe wnaeth:
- gyrraedd y Coleg yn hwyrach na'r amser ar ei gontract
- adael y coleg yn gynt na'r amser ar ei gontract
- rhwng Awst 2022 a Mai 2023, dangos diffyg gallu cynnal a chadw'r gweithdy, ar fwy nag un achlysur fe wnaeth adael peiriannau'n anniben
- ar 3 Mehefin 2022, cyflwynodd gais i gofrestru gyda CGA yn y categori gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach, a nododd yn y datganiad nad oedd ganddo unrhyw euogfarnau, pan nad oedd hyn yn gywir
- ar 2 Hydref 2023, cyflwynodd gais i gofrestru gyda CGA fel ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith, a nododd nad oedd ganddi unrhyw euogfarnau yn yr adran datganiadau, pan nad oedd hyn yn gywir
- ar 21 Ebrill 2017, fe'i cafwyd yn euog yn Llys yr Ynadon Conwy o ddinistrio neu ddifrodi eiddo, yn erbyn adrannau 1(1) a 4 Deddf Niwed Troseddol 1971. O ganlyniad i'r drosedd, ar 28 Ebrill 2017, cafodd ddedfryd o Orchymyn Cymunedol a'r gofyn i wneud 250 awr o waith di dâl erbyn 27 Hydref 2018. Fe'i gorchmynnwyd hefyd i dalu £281.75 mewn iawndal
- ar 21 Ebrill 2017, fe'i cafwyd yn euog yn Llys yr Ynadon Conwy o ddinistrio neu ddifrodi eiddo, yn erbyn adrannau 1(1) a 4 Deddf Niwed Troseddol 1971. O ganlyniad i'r drosedd, ar 28 Ebrill 2017, cafodd ddedfryd o Orchymyn Cymunedol a'r gofyn i wneud 250 awr o waith di dâl erbyn 27 Hydref 2018
- ar 21 Ebrill 2017, fe'i cafwyd yn euog yn Llys yr Ynadon Conwy o ddinistrio neu ddifrodi eiddo, yn erbyn adrannau 1(1) a 4 Deddf Niwed Troseddol 1971. O ganlyniad i'r drosedd, ar 28 Ebrill 2017, cafodd ddedfryd o Orchymyn Cymunedol a'r gofyn i wneud 250 awr o waith di dâl erbyn 27 Hydref 2018. Fe'i gorchmynnwyd hefyd i dalu £458 mewn iawndal
- ar 21 Ebrill 2017, fe'i cafwyd yn euog yn Llys yr Ynadon Conwy o ddinistrio neu ddifrodi eiddo, yn erbyn adrannau 1(1) a 4 Deddf Niwed Troseddol 1971. O ganlyniad i'r drosedd, ar 28 Ebrill 2017, cafodd ddedfryd o Orchymyn Cymunedol a'r gofyn i wneud 250 awr o waith di dâl erbyn 27 Hydref 2018
- ar 22 Rhagfyr 2017, fe'i cafwyd yn euog yn Llys yr Ynadon gogledd Cymru am fethu â chydymffurfio gyda gofynion Gorchymyn Cymunedol a wnaed ar 28 Ebrill 2017 drwy fethu â mynd i apwyntiad ar 27 Tachwedd 2017, yn erbyn Rhan 2 Atodlen 8 Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003. O ganlyniad i'r drosedd, ar 22 Rhagfyr 2017, roedd y gofyniad i wneud gwaith di dâl i barhau, ac roedd Mr Morris yn destun gofyniad cyrffyw electronig o ddwy wythnos drwy fonitro electronig.
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor bod ymddygiad Mr Morris ym mharagraff 4 a 5 uchod yn anonest, ac yn arddangos diffyg hygrededd.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan dynnu Mr Morris oddi ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg am gyfnod penagored yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach, ac ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith.
Penderfynnodd hefyd na fyddai Mr Morris yn cael gwneud cais i'w adfer i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn bod cyfnod o ddwy flynedd wedi treiglo. Os na wnaiff Mr Morris wneud cais llwyddiannus ar gyfer cymhwyster i'w adfer i'r Gofrestr ar ôl 19 Rhagfyr 2026, bydd wedi ei wahardd am gyfnod penagored.
Mae gan Mr Morris yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.