CGA / EWC

About us banner
Newyddion CGA Chwefror 2024
Newyddion CGA Chwefror 2024

Gwnewch yn siŵr bod eich staff wedi cofrestru

Dylai cyflogwyr wirio statws cofrestru eu staff gan ddefnyddio mynediad ar-lein i'r Gofrestr. Mae hyn yn cynnwys unrhyw weithwyr sy'n ymweld, fel staff cyflenwi, athrawon peripatetig, staff sy'n cael eu talu fesul awr, a gweithwyr sy'n ymweld (fel tiwtoriaid cerddoriaeth, hyfforddwyr chwaraeon, ac ati).

Cofrestru a rheoleiddio

Newidiadau cofrestru ar gyfer AB ac addysg oedolion

O 1 Ebrill 2024, bydd nifer o newidiadau yn dod i rym ar gyfer y rheiny sy'n gweithio mewn addysg bellach (AB) ac addysg oedolion ledled Cymru. Bydd hyn yn golygu newidiadau i ofynion ar gyflogwyr. Darllen mwy am y newidiadau hyn.

Dweud eich dweud ar osod ein cyfeiriad

Rydym yn ymgynghori ar ein Cynllun Strategol drafft 2024-27, a'n Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 ar hyn o bryd. Rydym yn gofyn am farn rhanddeiliaid, yn enwedig y rheiny o gefndiroedd amrywiol, ac sydd wedi byw bywydau amrywiol.

Penodi aelodau i Fwrdd Achredu AGA

Oes profiad helaeth gyda chi yn y sector addysg yng Nghymru ac yn edrych am gyfle datblygu gwych? Rydym yn chwilio am unigolion talentog i ymuno â'n Bwrdd Achredu AGA.

Newidiadau i sefydlu ar gyfer athrawon ysgol

Bydd gan ANGau sydd wedi cael statws athro cymwys (SAC) rhwng 1 Ebrill 2003 a 6 Tachwedd 2022, bum mlynedd o 7 Tachwedd 2022 i gwblhau sefydlu. Bydd gan ANGau sydd wedi cael SAC o 7 Tachwedd 2022 ymlaen, bum mlynedd o ddyddiad y rhoddwyd y SAC i gwblhau sefydlu. Darllen mwy am sefydlu athrawon yng Nghymru ar ein gwefan.

Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol CGA

Fel cyflogwr, mae'n bwysig eich bod chi, a'r cofrestreion yr ydych yn eu cyflogi, yn ymwybodol o'r Cod, a'r disgwyliadau sydd ynddo. Mae'r Mae'r animeiddiad byr yma'n rhoi trosolwg i chi o beth sydd angen i chi wybod.

Ry'n ni hefyd wedi datblygu cyfres o ganllawiau arfer da, sy'n cynnig cyngor defnyddiol ar sut gall cofrestreion fewnosod egwyddorion y Cod i'w harfer o ddydd i ddydd.

Canllawiau, adnoddau, a gwasanaethau proffesiynol

Addysgwyr Cymru

Addysgwyr Cymru (a gyllidir gan Llywodraeth Cymru a'i ddarparu gan CGA) yw'r wefan ar gyfer rheiny sy'n postio'r swyddi diweddaraf. Mae am ddim i ysgolion a cholegau addysg bellach, darparwyr dysgu'n seiliedig ar waith ac addysg oedolion, sefydliadau gwaith ieuenctid, a mwy. Gallai postio eich hysbyseb ar Addysgwyr Cymru arbed miloedd i chi bob blwyddyn.

Llwythwch eich swydd wag ar y wefan fwyaf ar gyfer y sector addysg yng Nghymru, heddiw.

Templedi PDP arbennig

Rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau i ddatblygu templedi arbennig yn y PDP fel bod staff yn gallu cofnodi eu dysgu proffesiynol.

Os oes diddordeb gyda chi yn gweithio gyda ni, This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

Ydy eich staff yn gwybod bod ganddynt fynediad am ddim i EBSCO?

Mae'n llyfrgell ar-lein sy'n llawn adnoddau i gefnogi eu dysgu proffesiynol, neu adnoddau addysgol gan gynnwys e-lyfrau, newyddiaduron, ac erthyglau.

Gwahodd ni i roi gweithdy

Gall ein sesiynau gynnwys nifer o bynciau gan gynnwys y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol, a'r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP). Gallwch hefyd ein gwahodd ni i gymryd rhan mewn prif areithiau, sesiynau panel, neu farchnadoedd.

Sgwrsio gyda CGA

Os nad ydych wedi cael cyfle i wrando ar ein podlediad eto, gallwch wrando yn ôl. Yn ystod yr wythnosau nesaf byddwn yn croesawu Comisiynydd y Gymraeg i drafod y Gymraeg yn y gweithlu addysg. Tanysgrifiwch nawr i fod y cyntaf i gael y penodau newydd wrth iddynt gael eu rhyddhau.

Siarad yn Broffesiynol 2024

Os ddaethoch chi i'n digwyddiad Siarad yn Broffesiynol ym mis Ionawr, diolch am gyfrannu i ddigwyddiad mor ddiddorol. Os na lwyddoch chi fod yna, bydd recordiad o'r digwyddiad, ac adnoddau ar gael cyn hir.

Hysbysu polisi

Ein hymateb: newidiadau arfaethedig i'r flwyddyn ysgol

Darllenwch ein hymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, ac ymgynghoriadau eraill, ar ein gwefan.

Rhag ofn i chi ei fethu

Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru (MAGI)

Rydym wedi bod yn dathlu rhai o dderbynwyr diweddaraf MAGI dros y misoedd diwethaf. Mae mwy o wybodaeth yn ein hadran newyddion diweddaraf.

Cyfarfod y Cyngor

Bydd cyfarfod nesaf y Cyngor yn cael ei gynnal yn ein swyddfeydd yng Nghaerdydd, ddydd Iau 14 Mawrth. Mae croeso i unrhyw un sydd am ddod i arsylwi'r cyfarfod.