11 Mawrth 2025, 10:30-11:45, ar Zoom, digwyddiad am ddim
Am y tro cyntaf, rydym yn rhannu ein gwybodaeth a’n cipolygon o fwy na 25 mlynedd o waith rheoleiddio, gan ddefnyddio’n profiad o fwy na 5,000 o achosion.
Nod y digwyddiad hwn yw cynorthwyo uwch arweinwyr, cyflogwyr, asiantaethau cyflenwi a llywodraethwyr i ennill cipolwg gwell i’n gwaith a sicrhau gwybodaeth a fydd yn helpu gyda rhyngweithiadau yn y dyfodol â CGA, ac atgyfeiriadau atom.
Yn y digwyddiad newydd sbon hwn, byddwn yn rhoi cyfle i chi:
- ddysgu o enghreifftiau go iawn sy’n rhychwantu 25 mlynedd, bob un ohonynt yn amlygu arfer da neu arfer drwg i fynychwyr fyfyrio arnynt ac er datblygiad mynychwyr
- cael eich tywys trwy broses benderfynu CGA o ran priodoldeb i ymarfer, atal dros dro ac asesiadau addasrwydd i gofrestru, gan eich helpu i sicrhau dealltwriaeth fanylach o sut gwneir penderfyniad ar y canlyniad
- cael gwybodaeth berthnasol a defnyddiol i’ch cynorthwyo ag unrhyw ymchwiliadau yn y dyfodol, a rhyngweithio â CGA
- clywed manylion am newidiadau i’n deddfwriaeth a Chod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol diwygiedig
- gofyn cwestiynau am eich cyfrifoldeb i atgyfeirio atom ni
Mae’r digwyddiad hwn, sydd am ddim, yn hanfodol i uwch arweinwyr ar draws addysg, cyflogwyr, asiantaethau cyflenwi a llywodraethwyr.
Peidiwch â cholli’r cyfle, cadwch eich lle nawr.