CGA / EWC

Registration banner
Mehefin 2022
Mehefin 2022

How to Create Kind Schools: 12 extraordinary projects making schools happier and helping every child fit in – Jenny Hulme

How to create kind schools coverYn dathlu 30 mlynedd o Kidscape, mae'r llyfr unigryw yma'n dod â 12 o elusennau adnabyddus (a'u cefnogwyr enwog) ynghyd i rannu casgliad o brosiectau arloesol sy'n hyrwyddo cynhwysiant, goddefgarwch a charedigrwydd.

Mae pob stori yn rhoi cipolwg ar y prosiectau creadigol ac arloesol sy'n cael eu cynnal mewn ysgolion i gefnogi dysgwyr - o fodel rôl hoyw i fentor cyfoed, gweithdy dawns i glwb garddio, llysgennad awtistiaeth i grŵp theatr Sipsiwn sy'n teithio.

Bydd y llyfr yn ysbrydoliaeth i addysgwyr sy'n chwilio am ffyrdd dychmygus ond ymarferol i gefnogi'r dysgwyr hynny sydd weithiau'n teimlo nad ydyn nhw'n ffitio.

 

Teaching Happiness and Well-Being in Schools: Learning to Ride Elephants – Ian Morris

Teaching happiness and well being in schools coverMae'r llyfr hwn yn gafael yn y dychymyg, sy'n cynnwys cyngor defnyddio a chanllawiau ar gyfer addysgwyr sydd a, ddatblygu a rhoi rhaglen lles ar waith yn eu lleoliad.

Fe wnaeth yr awdur, Ian Morris weithio o dan Anthony Seldon yng Ngholeg Wellington, sy'n adnabyddus am ei gwricwlwm lles a hapusrwydd.

Yn ogystal â bod yn gyflwyniad i'r theori o seicoleg gadarnhaol, mae'r llyfr yn cynnwys ymdriniaethau addysgu o ran lles, ac yn argymell cynnwys i hysbysu eich rhaglen lles eich hun.