Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2023
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 22 – 26 Mai a 23 – 27 Hydref 2023, wedi canfod bod honiad o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ wedi’i brofi yn erbyn yr athrawes ysgol, Linda FRAME.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef, tra oedd yn cael ei chyflogi fel Pennaeth yn Ysgol Gynradd Llangiwg:
- O ran y ddarpariaeth feithrin gofleidiol Red Dragon Child Care (“y ddarpariaeth gofleidiol”), nad oedd hi wedi sicrhau:
- bod y ddarpariaeth wedi’i chofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGC) fel yr oedd bryd hynny; a
- bod y ddarpariaeth yn cydymffurfio â’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir.
- O ran rheolaeth ariannol y ddarpariaeth gofleidiol, nad oedd hi wedi sicrhau:
- bod cyfrifon cywir yn cael eu cadw o incwm a threuliau; a
- bod arian parod a dderbyniwyd oddi wrth rieni’n cael ei fancio’n briodol neu o gwbl, ac yn cael ei gofnodi yng nghyllideb yr Ysgol.
- O ran talu staff yn y ddarpariaeth gofleidiol, ei bod hi wedi caniatáu i staff gael eu talu gydag “arian mewn llaw” heb ystyried treth ac yswiriant gwladol.
- Nad oedd Ms Frame wedi sicrhau bod yr ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) yn yr ysgol yn cydymffurfio â Chod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (2002), yn yr ystyr nad oedd hi’n:
- cadw cofnodion digonol o ddogfennau AAA; ac
- yn sicrhau bod Cynlluniau Addysg Unigol dysgwyr yn cael eu diweddaru;
- Nad oedd Ms Frame wedi sicrhau bod dysgwyr ag Anghenion Addysgol Arbennig yn cael eu cyflwyno ar gyfer asesiad a/neu gymorth mewn modd amserol, gan gynnwys:
- Dysgwr A; a
- Dysgwr C; a
- Dysgwr M; a
- Dysgwr L; a
- Dysgwr D; a
- Dysgwr G; a
- Dysgwr F; a
- Dysgwr E.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod ymddygiad Ms Frame ym mharagraffau 2(a), 2(c) a 3 yn dangos diffyg uniondeb.
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Cofrestru Amodol ar gofrestriad Ms Frame fel athrawes ysgol yn effeithiol o 27 Hydref 2023.
Atodiad i benderfyniad y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer
Ar 6 Rhagfyr 2023, cofnododd a chyflwynodd Mrs Frame (yr Apelydd) apêl i CGA (yr Ymatebydd) o dan a.32 Deddf Addysg (Cymru) 2014 yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer a roddwyd yn ffurfiol ar 8 Tachwedd 2023.
Ar 15 Mawrth 2024, ceisiodd yr Apelydd a’r Ymatebydd orchymyn cydsyniad i benderfynu ar yr apêl yn unol â Pharagraff 6.4 CPR PD 52A ar y sail bod rhesymau da a digonol dros wneud hynny. Telerau’r gorchymyn cydsyniad cyfyngedig a gytunwyd rhwng y partïon oedd:
"Caiff Hysbysiad o Benderfyniad yr Ymatebydd, dyddiedig 8 Tachwedd 2023, i gymhwyso Gorchymyn Cofrestru Amodol, ei amrywio drwy hyn yn yr ystyr bod y Gorchymyn Cofrestru Amodol yn cael ei ddiddymu ac, yn ei le, mae’r Ymatebydd yn gosod drwy hyn Gerydd am gyfnod o 2 flynedd (o 8 Tachwedd 2023 tan 7 Tachwedd 2025)."
Mae CGA wedi cytuno i benderfynu ar yr apêl trwy gydsyniad, yn unol â’r telerau a amlinellir uchod, am y pedwar rheswm canlynol:
- Nid oedd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer wedi esbonio ei resymau dros osod Gorchymyn Cofrestru Amodol (CRO), na’r amodau a oedd yn ffurfio’r CRO, na sut oedd gosod CRO er lles y cyhoedd;
- Mae’r amodau a osodwyd yn ymwneud yn unig â’r elfennau Anghenion Addysgol Arbennig/Anghenion Dysgu Ychwanegol o’r ffeithiau y penderfynwyd eu bod wedi’u profi, ac nid ag elfennau eraill yr honiad y penderfynodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer eu bod wedi’u profi;
- Roedd yr Apelydd wedi egluro na fyddai’n bosibl iddi gydymffurfio ag amodau ymarfer oherwydd ei bod wedi ymddeol ers mis Medi 2017.
- Mae Cerydd o fewn yr ystod o gosbau priodol er lles y cyhoedd ac er mwyn osgoi ymgyfreitha hirfaith.
Er mwyn osgoi amheuaeth, mae’r Gorchymyn Cydsyniad yn penderfynu ar yr apêl, ac mae’r Apelydd yn cytuno i beidio â mynd ar drywydd y seiliau eraill a osodwyd yn seiliau apêl yr Apelydd. Nid yw’r apêl a’r gorchymyn cydsyniad a luniwyd gan y partïon yn effeithio ar unrhyw un o ganfyddiadau eraill y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer a amlinellwyd yn ei benderfyniad a roddwyd ar 8 Tachwedd 2023, heblaw am y rhai hynny sy’n ymwneud â’r ‘Gorchymyn Disgyblu’.