CGA / EWC

About us banner
Canmol prosiect ieuenctid yn Sir Gaerfyrddin am fod yn enghraifft o arfer da
Canmol prosiect ieuenctid yn Sir Gaerfyrddin am fod yn enghraifft o arfer da

Mae prosiect ieuenctid, sy’n cael ei redeg gan Wasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gâr, wedi cael ei ganmol am fod yn enghraifft o arfer da gan aseswyr y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.  

Nod prosiect ‘Arweinyddiaeth Iau’, a amlygwyd yn ystod asesiad Sir Gâr ar gyfer achrediad y Marc Ansawdd, yw cynnig cyfleoedd i bobl ifanc ennill cymhwyster cydnabyddedig ‘cyflwyniad i waith ieuenctid’ yn eu dewis iaith. 

Mae’r Marc Ansawdd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’i weinyddu gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA), yn cefnogi ac yn cydnabod safonau sy’n gwella yn narpariaeth, arfer a pherfformiad sefydliadau sy’n cyflwyno gwasanaethau ieuenctid – gan arddangos a dathlu rhagoriaeth eu gwaith.

Dyfarnwyd Marc Ansawdd Aur ar gyfer Gwaith Ieuenctid i Wasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gâr yn dilyn asesiad ar ddiwedd 2022.

Meddai Aeron Rees, Pennaeth Strategaeth a Rhaglenni Dysgwyr, Adran Addysg a Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Gâr, “Rydym wrth ein bodd bod Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gâr wedi derbyn cydnabyddiaeth eto am ei arfer da. Mae hyn yn adeiladu ar ennill y Marc Ansawdd Aur ar gyfer Gwaith Ieuenctid yn ddiweddar.

“Llongyfarchiadau gwresog i bawb sydd ynghlwm, gan obeithio bod pobl ifanc yn Sir Gâr yn gallu mwynhau blas ar waith ieuenctid, tra’n darparu cymwysterau priodol a llwybr gyrfaol cyffrous hefyd i’r rhai sy’n dymuno datblygu ymhellach i’r cyfeiriad hwn.” 

Mae CGA yn hyrwyddo enghreifftiau o arfer da yn rheolaidd ymhlith deiliaid y Marc Ansawdd ar ei wefan. Mae’r sefydliadau eraill sy’n cael sylw yn cynnwys:

  • Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen
  • Gofalwyr Ifanc Abertawe
  • Gwobr Dug Caeredin
  • RhCT – Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Meddai Prif Weithredwr CGA, Hayden Llewellyn, “Fel gweinyddwyr y Marc Ansawdd, mae’n bwysig i ni adnabod a chydnabod yr arfer da y mae aseswyr y Marc Ansawdd yn ei weld wrth ymgymryd â’u rôl.

“Nododd y bobl a gynhaliodd asesiad Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gâr fod prosiect Arw