CGA / EWC

About us banner
CGA i arwain ar adolygiad o'r Safonau proffesiynol ar gyfer AB a dysgu seiliedig ar waith
CGA i arwain ar adolygiad o'r Safonau proffesiynol ar gyfer AB a dysgu seiliedig ar waith

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg wedi cychwyn ar adolygiad o’r Safonau proffesiynol ar gyfer athrawon addysg bellach ac ymarferwyr seiliedig ar waith.

Mae’r prosiect, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn canolbwyntio ar ddatblygu offerynnau ymarferol newydd i helpu ymarferwyr wrth ymgysylltu â’r safonau. Bydd hefyd yn cynnwys adolygiad ysgafn o’r safonau eu hun.

Byddwn yn rhoi golwg ar yr arfer orau mewn AB a dysgu seiliedig ar waith mewn gwledydd eraill fel rhan o’r adolygiad, ac yn ystyried gwersi a ddysgwyd gan sectorau eraill. Yn ogystal, byddwn yn gwrando ar ein cofrestreion, eu cyflogwyr a rhanddeiliaid eraill er mwyn dysgu sut caiff y safonau eu defnyddio ar hyn o bryd a sut y gellid eu gwella.

Rydym eisioes wedi anfon holiaduron at holl athrawon AB ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith cofrestredig er mwyn ein helpu i ddeall eu hanghenion. Bydd eu llais yn allweddol wrth siapio’r adnoddau newydd a bydd yn hysbysu ein cyngor i Lywodraeth Cymru ar adfywio’r safonau. Byddwn yn cynnal cyfweliadau wyneb yn wyneb a chyfres o grwpiau ffocws yn hwyrach yn y flwyddyn.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru’r Safonau proffesiynol ar gyfer ymarferwyr AB yn 2007. Yna, caswon nhw eu diweddaru yn 2017 i weinyddu dros 7,000 o ymarferwyr yn y sector AB a dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru.

Rydym yn croesawu’r gwahoddiad i arwain ar y gwaith hyn, sy’n gyfle pwysig i ni helpu gwella safonau addysgu ac ansawdd dysgu yng Nghymru.

Dysgwch fwy am yr adolygiad.