Mae Llywodraeth Cymru wedi ailgomisiynu Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), mewn partneriaeth ag ETS Cymru, i gyflwyno a datblygu’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru, a gydnabyddir yn genedlaethol, hyd nes mis Mawrth 2025.
Mae’r Marc Ansawdd yn ddyfarniad cenedlaethol sy’n cefnogi ac yn cydnabod gwelliant mewn safonau yn narpariaeth a pherfformiad sefydliadau sy’n cyflwyno gwasanaethau gwaith ieuenctid. Er mwyn derbyn yr achrediad, mae’n rhaid i sefydliadau gwaith ieuenctid asesu eu hunain yn erbyn set o safonau ansawdd, a phasio asesiad allanol.
Ers dyfarnu’r contract iddynt yn wreiddiol yn 2020, mae CGA wedi:
- cwblhau 60 o asesiadau
- hyfforddi 297 o weithwyr ieuenctid/gweithwyr cymorth ieuenctid
- hyfforddi grŵp o 46 o aseswyr
Meddai Andrew Borsden, Swyddog Datblygu CGA ar gyfer y Marc Ansawdd “Mae datblygu’r Marc Ansawdd dros y pedair blynedd diwethaf wedi bod yn bleser gwirioneddol. Yn ystod y cyfnod hwn, mae CGA wedi cael y fraint o fod yn dyst i enghreifftiau rhagorol o waith ieuenctid, ac mae cydnabod y cyflawniadau hyn yn ffurfiol trwy ddyfarniad mor fawreddog yn foddhaol tu hwnt”.
Fel corff dyfarnu, bydd CGA yn parhau i weithio gyda 37 deiliad presennol y Marc Ansawdd, a sefydliadau newydd, i barhau i ddatblygu a thyfu’r broses wobrwyo.
Meddai Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr CGA “Mae contract y Marc Ansawdd wedi bod yn brosiect heriol ond cyffrous i Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA) ymwneud ag ef.
“Fel rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol y gweithlu addysg yng Nghymru, mae’n wych gallu arddangos a chydnabod y sefydliadau hynny sy’n arddangos safonau ymddygiad ac ymarfer uchel.
“Edrychwn ymlaen at weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod y sector gwaith ieuenctid yn parhau i ffynnu a chael effaith gadarnhaol ar fywyd pobl ifanc ar draws y wlad”.
Dywedodd Steve Drowely, Cadeirydd ETS "Ry'n ni wrth ein bodd bod y contract ar gyfer Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith ieuenctid yng Nghymru wedi ei roi i CGA unwaith eto.
"Ry'n ni yn ETS wedi gweithio mewn partneriaeth hapus gyda'n cydweithwyr yn CGA am y tair blynedd diwethaf. Ry'n ni wedi gweld twf yn y Marc Ansawdd mewn sefydliadau sector a gynhelir a gwirfoddol, a'r effaith gadarnhaol mae hyn yn ei gael ar hyrwyddo safonau uchel er budd pobl ifanc Cymru.
"Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio'n agos gyda CGA yn ystod cam nesaf y Marc Ansawdd i sicrhau bod gwaith ieuenctid o'r safon uchaf ar gael i bobl ifanc ym mhob cwr o Gymru."
Cewch ddysgu rhagor am y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid ar wefan CGA.