CGA / EWC

About us banner
CGA yn amlinellu ei weledigaeth at y dyfodol
CGA yn amlinellu ei weledigaeth at y dyfodol

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei Gynllun Strategol 2025-28 a Chynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 wedi ei adnewyddu, gan osod ei flaenoriaethau a'i ymrwymiadau am y blynyddoedd nesaf.

Fel rheoleiddir proffesiynol annibynnol y gweithlu addysg, mae diogelu'r cyhoedd, cynnal proffesiynoldeb, a gwella safonau wrth graidd gwaith CGA. Mae'r manylion hyn yn dangos sut fydd CGA yn parhau i gyflawni ei swyddogaethau statudol yn effeithiol, effeithlon, ac yn gynaliadwy, gyda chydraddoldeb, tegwch, a phroffesiynoldeb wrth galon ei ymdriniaeth.

Mae'r Cynllun Strategol 2025-28 yn amlinellu blaenoriaethau ac amcanion CGA am y tair blynedd nesaf, yn unol â'r cylch gorchwyl statudol. Ynghyd â  hyn, mae'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed hyd heddiw, a sut fydd CGA yn hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant, trwy bum amcan strategol uchelgeisiol.

Wrth gyhoeddi'r cynllun, dywedodd Prif Weithredwr CGA, Hayden Llewellyn, "Mae gwaith CGA yn hanfodol i amddiffyn y cyhoedd, diogelu dysgwyr a phobl ifanc, a chynnal hygrededd y proffesiwn addysg yng Nghymru.

"Mae'r cynlluniau'n gosod cyfeiriad clir o ran sut byddwn yn parhau i wneud hyn drwy reoleiddio a chofrestru gwydn, yn ogystal â rhoi canllawiau ac adnoddau i'n cofrestreion, hyrwyddo gyrfaoedd trwy fentrau fel Addysgwyr Cymru, a chryfhau ein presenoldeb ar grwpiau a phwyllgorau cenedlaethol allweddol, i gynnig cyngor a thystiolaeth."

Datblygwyd y cynlluniau mewn ymgynghoriad â chofrestreion, rhanddeiliaid ar draws y sector addysg ehangach, y cyhoedd, ac aelodau Cyngor y CGA a staff.

Gallwch eu darllen nawr, ynghyd â'r holl ddogfennau corfforaethol, ar wefan CGA.