CGA / EWC

About us banner
CGA yn arddangos enghreifftiau o waith rhagorol ym maes gwaith ieuenctid ledled Cymru
CGA yn arddangos enghreifftiau o waith rhagorol ym maes gwaith ieuenctid ledled Cymru

Heddiw mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi lansio ei dudalen we ‘Marc Ansawdd – enghreifftiau o ymarfer da’.

Mae’r dudalen yn cynnwys nifer o astudiaethau achos oddi wrth sefydliadau sydd wedi’u hachredu â’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.  Mae pob un yn rhoi enghreifftiau go iawn o’r ffordd mae sefydliadau ledled Cymru yn gweithio i gyflwyno canlyniadau gorau i bobl ifanc.

Dyma rai o’r sefydliadau sy’n cael sylw:

  • Gwobr Dug Caeredin
  • Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gaerfyrddin
  • YMCA Caerdydd
  • Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru
  • Rhondda Cynon Taf – Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogi Ieuenctid
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wrth siarad am y lansiad, dywedodd Andrew Borsden MBE, Swyddog Datblygu Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid gyda CGA, “Mae’r enghreifftiau hyn o ymarfer da yn caniatáu inni ddathlu creadigrwydd a gwaith gwych ein gweithwyr ieuenctid a’n sefydliadau ieuenctid ledled Cymru.

“Maen nhw hefyd yn dangos yn glir yr effaith mae’r Marc Ansawdd yn ei chael ar bobl ifanc ledled y wlad”.

I gyd-fynd â’r enghreifftiau o ymarfer da mae blog a ysgrifennwyd gan Paul Glaze, Prif Weithredwr Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS). Yn ei flog, o’r enw ‘Ymarfer da ym maes gwaith ieuenctid a pham mae’n bwysig ei rannu’, mae Paul yn sôn am y ffordd mae grymuso’r gweithlu i fynd ati’n barhaus feithrin sgiliau, rhannu dysgu a gwreiddio diwylliant o wella yn caniatáu inni ddiwallu anghenion bythol gyfnewidiol ein pobl ifanc.

Mae’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn cefnogi ac yn cydnabod safonau sy’n gwella yn narpariaeth, ymarfer a pherfformiad sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau ieuenctid – gan arddangos a dathlu rhagoriaeth eu gwaith.

Hyd yn hyn, mae 24 o sefydliadau gwaith ieuenctid ledled Cymru wedi cael y Marc Ansawdd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn trefnu i’ch sefydliad gael ei achredu â’r Marc Ansawdd, ewch i wefan CGA.