CGA / EWC

About us banner
CGA yn lansio ei fideos corfforaethol cyntaf yn Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
CGA yn lansio ei fideos corfforaethol cyntaf yn Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Am y tro cyntaf, mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi dau o’i fideos corfforaethol allweddol yn Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Mae’r ddau fideo yn darparu gwybodaeth allweddol am:

  • CGA a’i rôl yn cofrestru a rheoleiddio’r gweithlu addysg ar draws Cymru
  • Y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol, sef dogfen allweddol i’r rhai sydd wedi cofrestru gyda CGA.

Trwy gynnig y rhain mewn BSL, nod y rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol, yw ymgysylltu’n well â’r gymuned pobl fyddar a phobl y mae BSL yn brif iaith iddynt.

Mae’r fenter hon yn adeiladu ar yr ymrwymiadau yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol CGA, i gyflwyno gwasanaethau hygyrch i gofrestreion a rhanddeiliaid.

Wrth lansio’r fideos, dywedodd y Prif Weithredwr, Hayden Llewellyn, “Rydym wedi cymryd camau bras ymlaen dros y blynyddoedd diwethaf wrth wneud ein cyfathrebu’n fwy hygyrch, gan gynnwys ailddylunio ein gwefan yn llawn, gyda hygyrchedd yn ganolog iddi. Mae cyhoeddi’r fideos hyn mewn BSL yn nodi carreg filltir bwysig arall i ni fel sefydliad, ac mae’n amlygu’r pwys a rown ar feithrin diwylliant o gynhwysiant.

“Ond, er ei fod yn gam i’r cyfeiriad cywir, rydym yn gwybod bod mwy i’w wneud o hyd. Mae hygyrchedd yn flaenoriaeth barhaus ac rydym yn ymrwymo i wella ymhellach gyda help ein cofrestreion a’n rhanddeiliaid.”

Mae’r ddau fideo ar gael i’w gwylio nawr trwy sianel YouTube CGA.sianel YouTube CGA.

I roi adborth ar y fideos hyn, ynghyd â gwasanaethau eraill CGA, ewch i’r wefan.