CGA / EWC

About us banner
Cydnabod rhagoriaeth dau sefydliad ieuenctid
Cydnabod rhagoriaeth dau sefydliad ieuenctid

Gwasanaeth Ieuenctid Sir y Fflint a Gwasanaeth Ieuenctid Bro Morgannwg yw'r sefydliadau diweddaraf i gael cydnabyddiaeth ffurfiol am ansawdd eu darpariaeth, gan gael y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI) efydd ac aur.

Mae'r Marc Ansawdd (a gyllidir gan Lywodraeth Cymru ac a weinyddir gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA)), yn wobr genedlaethol sy'n arddangos ardderchowgrwydd sefydliad. I gael achrediad, mae'n rhaid i sefydliadau hunanasesu yn erbyn set o safonau ansawdd, a phasio asesiad allanol.

Drwy gael y MAGI efydd, mae Sir y Fflint wedi dangos eu bod wedi sefydlu seiliau hanfodol ar gyfer gwaith ieuenctid o ansawdd uchel. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu gyda phobl ifanc i lunio'r ddarpariaeth, dealltwriaeth gref o anghenion y rheiny y maent yn eu cefnogi, a pholisïau, gweithdrefnau, a chanllawiau gwydn i sicrhau ymdriniaeth ddiogel ac effeithiol.

Wrth gael y MAGI aur, mae Bro Morgannwg wedi dangos cryfder cydweithio gyda phartneriaid, defnyddio gwybodaeth rheoli yn effeithiol, a defnyddio adnoddau i fodloni anghenion pobl ifanc mewn modd creadigol. Mae'r wobr hefyd yn cydnabod a dathlu cyraeddiadau pobl ifanc, a'r effaith mae gwaith ieuenctid a gweithwyr ieuenctid wedi ei gael ar eu siwrneiau personol.

Dywedodd Tara Reddy, Swyddog Datblygu'r Marc Ansawdd gyda CGA, "Llongyfarchiadau enfawr i'r ddau sefydliad ar y llwyddiannau yma.

"Dyma'r MAGI cyntaf i Sir y Fflint. Yn aml, y cam cyntaf yw'r anoddaf, ac rwyf wrth fy modd bod eu gwaith caled wedi ei gydnabod yn ffurfiol.

"I Fro Morgannwg, mae cael y wobr aur, ar ôl cael yr efydd a'r arian, yn gamp enfawr. Mae'n dangos bod MAGI yn helpu sefydliadau o bob cwr o Gymru i dyfu a gwella'r gwasanaethau y maent yn eu cynnig i'n pobl ifanc."

Gan siarad ar ôl cyflwyno'r wobr, dywedodd Martin Dacey, Swyddog Arweiniol ar gyfer Cynhwysiant a Lles Cymdeithasol ym Mro Morgannwg: "Mae hwn yn gyflawniad gwych, ac yn gydnabyddiaeth o'r holl waith y mae Rhys a'r Gwasanaeth Ieuenctid yn ei wneud gyda'n pobl ifanc. Ry'n ni mor falch o'u cyraeddiadau. Diolch yn fawr i'n holl staff gwych!”

I gael mwy o wybodaeth am MAGI, gan gynnwys sut gall eich sefydliad gael achrediad, neu sut allwch chi fod yn asesydd, ewch i wefan CGA.