CGA / EWC

About us banner
Cyflwyno Dull Arloesol i Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru
Cyflwyno Dull Arloesol i Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru

Mae’r rhaglenni addysg gychwynnol athrawon cyntaf sydd wedi’u hachredu gan Fwrdd Achredu Addysg
Gychwynnol Athrawon (AGA) Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn cael eu lansio’r mis hwn.

Mae’r rhaglenni wedi cael eu hasesu a’u gwerthuso a byddant yn parhau i gael eu monitro gan y Bwrdd i
sicrhau eu bod yn bodloni’r meini prawf achredu a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

A hwythau wedi’u cyflwyno yn unol ag argymhellion o adolygiad yr Athro John Furlong o AGA yn 2015, mae’r
rhaglenni yn dilyn dull cwbl newydd i addysg athrawon lle mae ysgolion a phrifysgolion yn cydweithredu’n
agos a rhannu eu gwybodaeth. Bwriad y dull arloesol hwn yw gwella ansawdd y ddarpariaeth a denu
ymgeiswyr sy’n meddu ar y sgiliau, cymwysterau a dawn cywir i ddechrau gyrfa ym maes addysgu.

Dywedodd yr Athro John Furlong, cyn-gadeirydd y Bwrdd Achredu AGA a chynghorwr i Lywodraeth Cymru a
CGA:

“Mae’r dull newydd yn angenrheidiol gan fod addysg yng Nghymru yn newid yn sylfaenol. Bydd y cwricwlwm,
asesu, rheolaeth ac arweinyddiaeth yn edrych yn wahanol iawn ymhen ychydig o flynyddoedd.”

Ychwanegodd:

“Gyda’i gilydd, mae’r newidiadau hyn yn rhoi darlun gwahanol iawn o sut mae athro’r dyfodol yn edrych lle
bydd athrawon yn gorfod deall y ‘beth’ wrth ystyried dysgu ac addysgu, yn ogystal â ‘sut’ a ‘pham’.”

Y mis hwn, mae rhaglenni newydd yn cael eu cyflwyno gan Bartneriaeth Caerdydd, Partneriaeth Gogledd
Cymru CaBan – Caer / Bangor, Partneriaeth AGA Aberystwyth a Yr Athrofa: Partneriaeth Dysgu Proffesiynol
(PDPA).

Dywedodd Elaine Sharpling, Cyfarwyddwr AGA i PDPA, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCDDS):

“Mae ein cwricwlwm newydd yn arloesol a blaengar a chynlluniwyd ein swît newydd o raglenni addysg
athrawon PDPA gan gadw mewn cof agenda diwygio addysg Cymru.

“I grynhoi, bydd ein cwricwlwm newydd yn ymofyn math newydd o athro ac rydym wrth ein boddau yn cael
chwarae ein rôl mewn trawsnewid AGA er budd pawb ym maes addysg yng Nghymru.”

Dysgwch fwy am achredu AGA.