CGA / EWC

About us banner
Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon CGA ar gyfer 2020-21
Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon CGA ar gyfer 2020-21

Heddiw mae CGA wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer y flwyddyn yn diweddu ar 31 Mawrth 2021. 

Mae'r adroddiad yn amlygu ein cyflawniadau a pherfformiad gweithredol trwy gydol y flwyddyn ariannol.

Er gwaethaf heriau'r pandemig, gwnaethom gynnal lefelau uchel o wasanaeth yn ystod y flwyddyn.

Yn ei adroddiad, dywedodd Prif Weithredwr CGA, Hayden Llewellyn:

“Mae’r adroddiad blynyddol hwn yn cynnig cyfle i fyfyrio ar waith y Cyngor [...] yn ystod blwyddyn o heriau digynsail i bawb sy’n ymwneud ag addysg yng Nghymru.

Yn anochel, rydym i gyd wedi gweld ein cynlluniau yn newid eleni oherwydd y pandemig Covid-19. Fodd bynnag, diolch i broffesiynoldeb, gwaith caled ac ymroddiad ein tîm, cyflawnom ein holl amcanion strategol gan sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosibl.

Wrth i ni symud ymlaen i 2021-22, bydd llawer ohonom yn awyddus i ddychwelyd i’r ‘arfer’. Fodd bynnag, bydd yn hanfodol i ni gyd neilltuo amser i fyfyrio ar ba wersi y gellid eu dysgu o’r pandemig, a’r modd y gallai’r rhain ddylanwadu ar bolisi addysg er gwell."

Mae uchafbwyntiau allweddol ein gwaith yn ystod y flwyddyn ariannol yn cynnwys:

  • ein perfformiad mewn perthynas â'n prosesau a'n gweithdrefnau cofrestru a phriodoldeb i ymarfer
  • ein darpariaeth barhaus o fewnwelediad a chyngor i ddylanwadu ar bolisi ar draws y sector addysg yng Nghymru
  • ein cefnogaeth barhaus o ran dysgu a datblygiad proffesiynol ein cofrestreion
  • ein rôl wrth ddatblygu gweithlu o ansawdd uchel trwy achrediad AGA a'r Marc Ansawdd ar Gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru
  • ein gwaith gyda phartneriaid i gynnal yr arolwg mwyaf o'r gweithlu addysg yng Nghymru.

Eleni, mae'r adroddiad wedi derbyn barn archwilio ddiamod unwaith eto gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Golyga hyn fod ein hadroddiad yn rhoi golwg wir a theg o'n sefyllfa ariannol a'n hincwm a gwariant am y flwyddyn.

Y flwyddyn mewn rhifau

Yn ystod blwyddyn ariannol 2020-21 gwnaethom:

  • brosesu 10,724 o geisiadau newydd am gofrestru
  • cyflwyno dros 250 o sesiynau a chyflwyniadau rhithwir
  • cyrraedd 30,750 o ddefnyddwyr y PDP
  • gymryd rhan mewn dros 25 o grwpiau llywio cenedlaethol ac ymateb i 26 o ymgynghoriadau a galwadau am dystiolaeth
  • dyfarnu'r Marc Ansawdd ar Gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru i 9 sefydliad gwaith ieuenctid.

Darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2020-21 neu gwelwch grynodeb o'n cyflawniadau yn ystod y flwyddyn.

Cyhoeddwyd heddiw hefyd

 Adroddiad blynyddol ar gydraddoldeb 2020-21
 Adroddiad monitro Safonau'r Gymraeg 2020-21