Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei ymateb i ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru, sy’n cynnig newidiadau i reoleiddio addysg yng Nghymru.
Mae’r ymgynghoriad, a gaeodd ar 21 Tachwedd 2023, yn awgrymu ychwanegu dau gategori newydd at restr y bobl sy’n gorfod cofrestru gyda CGA: uwch reolwyr a phenaethiaid sy’n gweithio mewn sefydliadau addysg bellach (AB), ac ymarferwyr dysgu oedolion yn y gymuned. Hefyd, mae’n cynnig cyflwyno lefel cymhwyster ofynnol i’r rhai sy’n gweithio fel athrawon AB ac ymarferwyr dysgu oedolion yn y gymuned.
Yn ei ymateb, roedd CGA yn cefnogi’r ddau gynnig, ac yntau wedi amlygu bylchau mewn deddfwriaeth yn y gorffennol.
Ar hyn o bryd, mae’n ofynnol i ymarferwyr dysgu oedolion sy’n gweithio i ddarparwyr dysgu yn y gwaith a ariennir gan Lywodraeth Cymru gofrestru, ond nid y rhai sy’n gweithio i awdurdodau lleol neu yn y gymuned. Yn yr un modd, mae’n ofynnol ar hyn o bryd i benaethiaid ac uwch arweinwyr mewn ysgolion gofrestru, ond nid y rhai mewn sefydliadau AB.
Gan gyhoeddi’r ymateb ar ran CGA, meddai Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr, “Rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru’n cymryd camau i gau’r anghysondebau sy’n bodoli ar hyn o bryd yn y ddeddfwriaeth ac rydym yn croesawu trafodaethau pellach ar nifer bach o anghysondebau sy’n parhau”.
“Mae cofrestru a lefel cymhwyster ofynnol yn arfer cyffredin mewn proffesiynau wedi’u rheoleiddio. Bydd y newidiadau arfaethedig yn yr ymgynghoriad hwn yn helpu i ddwyn ein gweithlu addysg yn agosach at eraill nid yn unig ar draws Cymru, ond ar draws y byd”.
Mae’r ymateb ar gael i’w ddarllen yn llawn ar wefan CGA.