CGA / EWC

About us banner
Cynnydd yn nifer yr athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru
Cynnydd yn nifer yr athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru

Mae nifer yr athrawon newydd yng Nghymru wedi cynyddu gan chwarter o’i gymharu â’r llynedd, yn ôl data a gyhoeddwyd heddiw gan CGA.

Dengys y ffigurau fod 1,231 o hyfforddeion wedi ennill Statws Athro Cymwysedig ym mis Gorffennaf trwy raglenni addysg gychwynnol athrawon o gymharu â 975 yn 2020. Cynrychiola hyn y nifer flynyddol uchaf o athrawon newydd yng Nghymru ers 2015.

Yn ogystal â chynnydd cyffredinol yn y niferoedd, bu cynnydd o flwyddyn i flwyddyn o 49% mewn athrawon newydd gymhwyso ysgolion uwchradd, gyda phynciau craidd fel mathemateg, gwyddoniaeth ac ieithoedd i gyd yn gweld gwelliannau ar flynyddoedd blaenorol.

Dywedodd Prif Weithredwr CGA, Hayden Llewellyn:

“Rydym yn gweld diddordeb o’r newydd mewn addysgu fel gyrfa yng Nghymru. Lansiodd Cymru raglenni addysg athrawon newydd yn 2019 sy'n cymharu â goreuon y byd. Mae’r rhain yn sicrhau y bydd unrhyw un sydd eisiau hyfforddi yng Nghymru yn cael sylfaen ragorol i ddechrau gyrfa werth chweil.

Y llynedd, lansiodd Cymru ei rhaglenni hyfforddi athrawon rhan-amser a â chyflog ei hun a redir gan y Brifysgol Agored. Bydd y rhaglenni hyn yn ychwanegu ymhellach at nifer yr athrawon newydd yng Nghymru yn y blynyddoedd i ddod.”

Lawrlwytho canlyniadau myfyrwyr AGA 2020-21 (PDF)