Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd a Merthyr Tudful yw’r sefydliadau diweddaraf i gael eu cydnabod yn ffurfiol am ansawdd eu darpariaeth, gan dderbyn y Marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid (QMYW) uchel ei fri yng Nghymru.
Derbyniodd Gwasanaeth Ieuenctid Merthyr Tudful ei wobr arian gyntaf erioed, tra derbyniodd Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd ailachrediad am ei wobr efydd.
Mae’r QMYW (sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i weinyddu gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA)), yn wobr genedlaethol sy’n dangos rhagoriaeth sefydliad. I dderbyn yr achrediad, rhaid iddynt hunanasesu yn erbyn set o safonau ansawdd a llwyddo mewn asesiad allanol.
I ennill y QMYW efydd, dangosodd Caerdydd eu bod wedi sefydlu’r sylfeini effeithiol ar gyfer gwaith ieuenctid o ansawdd uchel. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu â phobl ifanc i ffurfio’u darpariaeth, dealltwriaeth gref o anghenion y rheiny y maent yn eu cefnogi, a pholisïau, gweithdrefnau ac arweiniad cadarn i sicrhau ymagwedd ddiogel ac effeithiol.
I ennill y QMYW arian, dangosodd Merthyr Tudful i aseswyr sut roedd eu gwasanaeth yn cydnabod a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, yn cynllunio’i wasanaethau i ddiwallu anghenion pobl ifanc, ac yn cynnwys pobl ifanc mewn prosesau gwneud penderfyniadau.
Wrth gyflwyno’u gwobr i Ferthyr yng Nghynhadledd Genedlaethol Gwaith Ieuenctid 2025, dywedodd Tara Reddy, Swyddog Datblygu Marc Ansawdd gyda CGA, “Llongyfarchiadau i’r ddau sefydliad am y gwobrau hyn.
“Roedd yn bleser gallu cyflwyno’r QMYW arian i dîm Gwasanaeth Ieuenctid Merthyr yn y gynhadledd Gwaith Ieuenctid ym mis Chwefror. Mae hi bob amser yn wych dathlu’r gwaith eithriadol o dda a wna sefydliadau gwaith ieuenctid, ond roedd gwneud hynny yng nghanol cynifer o gymheiriaid yn ei wneud hyd yn oed yn fwy arbennig.
“Mae ailachredu Caerdydd yn cydnabod eu gwaith caled. Roedd yr aseswyr yn llawn edmygedd ac eisiau amlygu eu gwaith ieuenctid digidol arloesol fel enghraifft o arfer da.”
Wrth siarad ar ôl cyflwyno’u gwobr, dywedodd Sam Morgan, Rheolwr y Gwasanaeth Ieuenctid yng Ngwasanaeth Ieuenctid Merthyr, “Mae ennill y Marc Ansawdd arian ar gyfer Gwaith Ieuenctid yn arddangos y gofal, y cymorth a’r cyfleoedd amlwg iawn y mae ein staff a’n timau targedig ar draws bwrdeistref sirol Merthyr Tudful yn eu rhoi i’n pobl ifanc.
“Rydym ni’n hynod falch fod gwaith partneriaeth wedi cael ei amlygu yn faes arfer da gan yr aseswyr. Hoffem ddiolch i’n partneriaid sydd wedi’u comisiynu a thimau awdurdodau lleol am eu cefnogaeth barhaus.”
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Plant, Trechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc, y Cyngh Peter Bradbury: "Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i ymgysylltu gyda phobl ifanc a rhoi cyfleoedd, cefnogaeth a'r gofal sydd ei angen arnynt i ffynnu.
"Mae'r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yn cydnabod gwaith ein Gwasanaethau Ieuenctid a'n partneriaid yn blaenoriaethu datblygiad a lles pobl ifanc, gan sicrhau bod gan bobl ifanc fynediad at fannau diogel a chefnogol lle gallant ddysgu sgiliau newydd, gael cyfarwyddyd ac adeiladu perthnasau cadarnhaol.
I gael mwy o wybodaeth am y QMYW, gan gynnwys sut gall eich sefydliad gael achrediad, neu sut gallwch chi ddod yn asesydd, ewch i wefan CGA.