Mae Urban Circle Casnewydd a MAD Abertawe wedi eu cyhoeddi fel derbynwyr diweddaraf Marc Ansawdd efydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI) yng Nghymru.
Wedi ei weinyddu gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA), mae MAGI yn wobr genedlaethol sy'n cefnogi a chydnabod bod safonau'n gwella o ran darpariaeth a pherfformiad sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau gwaith ieuenctid. I gael achrediad, mae'n rhaid i sefydliadau gwaith ieuenctid hunan-asesu yn erbyn set o safonau ansawdd, a phasio asesiad allanol.
I gael gwobr efydd dangosodd y ddau sefydliad bod ganddynt arweinyddiaeth a llywodraethiant priodol, prosesau monitro a gwerthuso effeithiol, eu bod yn ddiogel, ac yn ymddwyn o fewn fframwaith o bolisïau cyfreithiol. Fe wnaethant hefyd ddangos eu bod yn amgylchedd diogel a chroesawgar i bobl ifanc sy'n gallu cael mynediad at staff a gwirfoddolwyr medrus, y maent yn gallu ymddiried ynddynt.
Dywedodd Danielle Webb, Swyddog Datblygu Pobl Ifanc Urban Circle Casnewydd, “Ry’n ni mor falch i fod wedi cael gwobr efydd MAGI.
“Hoffwn ddiolch i’r tîm asesu, yn arbennig Andrew Borsden am ei arweiniad yng nghamau cyntaf y cais, ac am ei gefnogaeth a’i wybodaeth yn ystod y broses hunan-asesu. Roedd hi’n bleser gweithio gyda chi oll.”
Dywedodd Swyddog Datblygu CGA ar gyfer MAGI, Andrew Borsden, "Mae’n grêt cael Urban Circle Casnewydd a MAD Abertawe fel deiliaid y marc ansawdd. Mae’r ddau sefydliad yn rhoi agwedd newydd ar waith ieuenctid yng Nghymru. Mae nhw’n bodloni anghenion pobl ifanc yn eu cymunedau.
Mae staff y ddau sefydliad yn ysbrydoledig, brwdfrydig, a gafaelgar ac yn ddeiliaid teilwng y marc ansawdd efydd."
Mae mwy o wybodaeth am y MAGI yn gyffredinol ar wefan CGA.