Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi diweddariad newydd i ddangosfwrdd y Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP).
O 26 Chwefror 2025, bydd defnyddwyr yn gallu pinio hyd at chwech o'u ffefrynnau o ran asedau i gael mynediad cyflym a hawdd atynt.
I helpu gyda'r diweddariad, mae CGA wedi cynhyrchu canllaw cyflym yn dangos sut i ddefnyddio'r nodwedd newydd. Mae hyn yn ogystal â'r ystod o adnoddau sydd ar gael ar wefan CGA, wedi ei greu i helpu defnyddwyr i wneud y mwyaf o'r teclynnau a'r adnoddau sydd ar gael o fewn y PDP.
Mae'r PDP, sydd am ddim i gofrestreion CGA, yn declyn gwych, dwyieithog, sy'n cynnig cyfoeth o gyfleoedd i ddyrchafu datblygiad proffesiynol. Mae'n gwbl gyfrinachol (mae defnyddwyr yn rheoli beth maen nhw am rannu), ac nid yw wedi ei gysylltu gyda chyflogaeth, a gall gefnogi ymgysylltu gyda safonau proffesiynol, gan ei wneud yn adnodd gwerthfawr i'r rheiny sy'n gweithio yng Nghymru.
Archwiliwch yr adnodd newydd, a dysgu mwy am y PDP ar wefan CGA.