Mae Cyngor y Gweithlu Addysg wedi cyhoeddi ei bumed canllaw arfer da heddiw.
Ac yntau wedi'i anelu at ymarferwyr cofrestredig yng Nghymru, mae'r canllaw yn canolbwyntio ar yrif nodweddion sy'n cyfrannu at berthnasau gwaith cadarnhaol. Mae'n rhoi cyngor defnyddiol i gofrestreion o ran sut i feithrin y perthnasau hynny'n llwyddiannus trwy:
- barch dwy ffordd
- cyfathrebu agored
- empathi
- ymddiriedaeth
- sgiliau rhynbersonol
- creu rapport gyda staff neu aelodau’r tîm
Mae holl ganllawiau arfer da CGA yn unol â'r egwyddorion sydd wedi'u hamlinellu yn ei God Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol.
Lawrlwythwch y canllaw arfer da i berthnasau gwaith cadarnhaol