CGA / EWC

About us banner
Y PDP yn cael offeryn delweddu safonau newydd
Y PDP yn cael offeryn delweddu safonau newydd

Mae’n bleser gennym ni gyhoeddi diweddariadau cyffrous i’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP), a gynlluniwyd i gefnogi ymarferwyr addysg yng Nghymru yn well i ddefnyddio eu safonau proffesiynol.

Rydym wedi datblygu offer rhyngweithiol newydd i’r PDP sy’n galluogi ymarferwyr i hunanasesu eu cynnydd yn unol â’u safonau proffesiynol. Byddant hefyd yn cael cipolwg bras ar eu cynnydd yn unol â’r safonau a fydd yn eu helpu i nodi eu meysydd cryfder a’u datblygiad â’u safonau proffesiynol.

Mae’r PDP yn rhoi lle i ymarferwyr gofnodi a myfyrio ar eu harfer a’u dysgu yng nghyd-destun y safonau proffesiynol canlynol:

  • addysgu (ysgol)
  • cynorthwyo addysgu (ysgol)
  • arweinyddiaeth (ysgol)
  • addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith

I gael mwy o wybodaeth am yr offer newydd, darllenwch ein blog.

Heb ddechrau defnyddio'ch PDP eto? Bydd ein canllaw byr yn eich helpu i osod eich cyfrif.