Sefydliad: Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen
Darpariaeth: Llyfrau lloffion
Person Cyswllt: Helen Cooling
Nodau’r cysyniad
- Dangos tystiolaeth o weithgareddau a chyflawniadau’r bobl ifanc.
- Cofnodi a monitro gweithgareddau, gan gynnwys adborth oddi wrth y bobl ifanc.
Defnyddir y llyfrau lloffion fel canllaw i aelodau newydd o’r clwb er mwyn arddangos pa weithgareddau a gynhelir a beth mae’r bobl ifanc yn ei ddweud amdanyn nhw.
Maen nhw hefyd yn darparu offeryn ymarfer myfyriol a ffordd o werthuso’r ddarpariaeth i’r staff ac i’r bobl ifanc.
Caiff y llyfrau lloffion eu dylunio, eu perchnogi a’u creu gan y bobl ifanc ar y ddarpariaeth fel adlewyrchiad o’u perchnogaeth ar y ddarpariaeth.
Bob wythnos mae tystiolaeth o’r gweithgareddau a gynhaliwyd, fel lluniau, gwerthusiadau, cynnyrch gwaith, taflenni adborth ac ati yn cael eu casglu, ac yna’n cael eu rhoi yn y llyfrau lloffion gan y bobl ifanc dros yr wythnosau nesaf.
Caiff y lluniau eu hargraffu a’u hychwanegu at y llyfrau lloffion gan y bobl ifanc a’r staff. Gofynnir i’r bobl ifanc beth oedden nhw wedi’i fwynhau/heb ei fwynhau a chaiff yr adborth hwn ei ychwanegu hefyd.
Wrth i’r llyfrau lloffion gael eu llenwi gyda thystiolaeth ar ffurf ffotograffau, lluniau a sylwadau, rydym yn gofyn i’r bobl ifanc gynllunio sut i gyflwyno’r dudalen, beth i’w ychwanegu a sut i gynllunio ar gyfer y sesiwn nesaf.
Fel arfer mae’r bobl ifanc eisiau edrych yn ôl arnyn nhw eu hunain a’u cyfoedion o weithgareddau blaenorol. Bydd y bobl ifanc yn aml yn dweud faint oedden nhw wedi mwynhau rhywbeth, a chaiff hyn ei fwydo’n ôl yn ystod gweithgarwch myfyrio a’i ychwanegu at y gwaith cynllunio.
Mae gweithgareddau llyfrau lloffion yn ffordd wych inni gynllunio a myfyrio gyda’r bobl ifanc. Maen nhw’n cael cyfle i fod yn greadigol a chyflwyno eu clwb nhw ym mha bynnag ffordd maen nhw’n dewis.
Rydym yn annog creadigrwydd a gwerthuso gyda’r bobl ifanc a bydd y llyfrau lloffion yn adlewyrchu hyn.
Bydd ar rai grwpiau o bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y gwaith o gwblhau ein llyfrau lloffion angen llawer o gymorth yn ystod y sesiwn, ond lle bo’n bosibl rydym yn rhoi cyfleoedd i fod yn annibynnol a gwneud penderfyniadau i’r rhai sy’n teimlo eu bod nhw eisiau hynny.
Mae llyfrau lloffion yn arwydd da i’r staff eu bod yn diwallu holl anghenion yr holl bobl ifanc. Mae'r bobl ifanc yn aml yn falch iawn wrth edrych yn ôl ar eu cyflawniadau a gweld pa mor dda mae eu clwb yn gwneud a beth sydd ar gael iddyn nhw os ydyn nhw’n dewis cymryd rhan.
Mae llyfrau lloffion yn offeryn myfyriol a gwerthusol parhaus, felly mae effeithiau dysgu yn cael eu cymhwyso bron ar unwaith. Wrth werthuso’r gweithgareddau gan ddefnyddio’r llyfr lloffion, ceir adborth ynghylch pa mor effeithiol yw’r gweithgaredd, sut oedd y lefelau ymgysylltu, beth ellid ei wella a beth ellid ei wneud yn well y tro nesaf.
Dros gyfnod hirach, rhoddodd y llyfrau lloffion hanes hirach o weithgareddau fel bod pobl ifanc sy’n aelodau newydd ac aelodau newydd o'r staff yn deall beth sydd wedi bod yn digwydd ynghynt. Mae hyn yn golygu y gall pawb ddysgu o unrhyw feysydd i’w gwella, stori’r ddarpariaeth a beth sydd wedi profi’n effeithiol ac wedi cael derbyniad da, a hefyd beth na chafodd dderbyniad cystal.
Er enghraifft, os nad oes llawer yn cymryd rhan yn y gweithgaredd rydym yn gwerthuso a gafodd y gweithgaredd ei anelu at y grŵp iawn, ar yr adeg iawn yn ystod y noson ac ati.
Mae'r bobl ifanc yn gallu gwerthuso a lleisio barn ynghylch sut i gyflwyno eu ffotograffau a gwerthusiadau o’u gweithgareddau. Mae hyn yn rhoi ymdeimlad o berthyn i’r clwb iddyn nhw, ac ymdeimlad ehangach o gymuned.
Mae’n eu galluogi i fod yn greadigol ac arddangos eu talent artistig. Mae’n galluogi pob person ifanc i gyfrannu i’r graddau mae’n dymuno ac yn gallu gwneud. Mae’n helpu’r bobl ifanc i ddathlu eu rôl yn y ddarpariaeth ac yn y gymuned ehangach ac yn cydnabod eu llwyddiannau.
Mae llyfrau lloffion yn rhoi ymdeimlad o gyflawniad i’r bobl ifanc ac yn atgyfnerthu llesiant. Mae edrych yn ôl trwy sesiynau hŷn yn arddangos dysgu ac yn pwysleisio eu datblygiad a’r cynnydd maen nhw wedi ei wneud trwy’r clwb.
Mae'r llyfrau lloffion yn atgyfnerthu perthnasoedd rhwng ffrindiau, yn rhoi ymdeimlad o gydlyniant y grŵp a phrofiad a rennir trwy alluogi myfyrio, taith bersonol, magu hyder a meithrin sgiliau.
Mae'r llyfrau lloffion yn cyfrannu at greu man diogel i fynd i’r afael â thrafodaethau anodd mewn ffordd gynhwysol a chadarnhaol.
Oherwydd bod y llyfrau lloffion yn broses gwerthuso a myfyrio barhaus (ac yn cael eu cadw fel copïau caled ar y safle) maen nhw’n offer allweddol i gynllunio gweithgareddau at y dyfodol yn effeithiol. Gall y staff gael dealltwriaeth yn gyflym am y bobl ifanc a natur y ddarpariaeth a’r hyn sydd wedi bod yn effeithiol o’r blaen.
Mae'r llyfrau lloffion yn ffordd wych o greu cyfleoedd a man diogel ar gyfer trafodaethau. Gall y staff a’r bobl ifanc fyfyrio ar weithdai ar faterion o bwys, er enghraifft, neu siarad am gyfnod anodd pan roedd y ddarpariaeth wedi wynebu heriau.
Maen nhw hefyd yn cynnig cyfle gwych i greu trafodaeth un i un ynghylch amrywiaeth o faterion. Gall y bobl ifanc fod yn hyderus bod yr hyn maen nhw’n ei weld ac yn ei deimlo’n iawn a bod llawer o bobl ifanc sydd wedi bod yno o’u blaen wedi profi pethau tebyg. Maen nhw’n helpu i gyfrannu at ymdeimlad o ddiogelwch a chymuned.
Mae'r llyfrau lloffion yn ffordd wych o’n hatgoffa beth rydyn ni wedi’i wneud ac yn arddangos y clwb yn ei holl ogoniant. Mae'n cynhesu’r galon i allu edrych yn ôl ar yr effaith mae’r ddarpariaeth wedi’i chael ar y bobl ifanc, y staff a’r gwirfoddolwyr.
Dyma’r hyn rydyn ni’n ei wneud, dyma sut rydyn ni’n ei wneud,
Dyma’r hyn mae’r bobl ifanc yn ei feddwl ohono
Mae'r llyfrau lloffion ynddynt eu hunain yn adlewyrchiad o’r bobl ifanc sy’n mynychu’r ddarpariaeth ac yn cael eu siapio gan y bobl ifanc fel adlewyrchiad o’u hanghenion, eu diddordebau a’u dyheadau. Yn y clwb ieuenctid LGBTQ+, mae’r llyfrau lloffion yn cyflwyno materion o bwys a gweithgareddau sy’n cynorthwyo’r bobl ifanc i ymchwilio a mynegi eu hunain mewn amgylchedd diogel. Mae’r llyfrau lloffion gofalwyr ifanc yn helpu’r bobl ifanc i ddangos sut mae’r ddarpariaeth ieuenctid yn brwydro yn erbyn problemau ynysigrwydd.
Mae digwyddiadau a gweithgareddau sydd â’r nod o hybu amrywiaeth a chynwysoldeb yn cael eu hadlewyrchu yn y llyfrau lloffion, fel gweithgareddau Dydd Gŵyl Dewi, digwyddiadau ymwybyddiaeth o hiliaeth ac ati.
Mae ar y bobl ifanc angen gwahanol lefelau o gymorth i gymryd rhan yn y broses llyfrau lloffion. Felly mae’r staff yn ymateb yn unol â hynny, ac felly’n sicrhau eu bod yn adlewyrchiad cywir o’r amrywiaeth o weithgarwch cynhwysol sy’n cael ei gynnig ar draws y gwasanaeth cyfan.
Mae'r llyfrau lloffion yn brosiectau parhaus ac yn dal i ddatblygu bob wythnos. Mae gan rai darpariaethau nifer o rifynnau o’u llyfrau lloffion eisoes. Mae'r llyfrau lloffion yn edrych yn wahanol gan ddibynnu ar natur y ddarpariaeth. Mae rhai ar ffurf dyddlyfrau, mae rhai wedi’u seilio ar ffotograffau ac mae rhai wedi’u seilio ar weithgareddau, i gyd mewn ymateb i’r bobl ifanc a sut maen nhw eisiau iddyn nhw edrych.
Mae'r llyfrau lloffion yn gopïau caled sy’n cael eu cadw yn y lleoliad.
Tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol FB/Insta/Twitter
@torfaenyouth https://twitter.com/torfaenyouth
https://www.instagram.com/torfaenyouth/
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
https://www.torfaen.gov.uk/cy/EducationLearning/ChildrenandYoungPeople/Youngpeople-informationandadvice/Youth-Service.aspx