Athrawes a gafodd ei hyfforddi yn America yn arwain y ffordd yng Nghymru
Mae Katie Davies ychydig yn wahanol i athrawon ysgol eraill yng Nghymru. Mae Katie yn addysgu Daearyddiaeth ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ysgol Eastern High yng Nghaerdydd, ond cafodd ei geni a’i magu yn Unol Daleithiau America a chymhwysodd fel athrawes yn Eastern Illinois University yn y Gorllewin Canol.
Ar ôl gorffen hyfforddi i fod yn athrawes yn 2008, bu Katie’n addysgu mewn ysgolion yn ei gwlad enedigol am bedair blynedd. Fodd bynnag, a hithau’n briod â Chymro, penderfynodd Katie a’i gŵr symud a gadawsant yr Unol Daleithiau a dod i Gymru yn 2012.
O gyrraedd yr ochr hon i Fôr Iwerydd, cafodd Katie wybod bod ei chymhwyster addysgu yn cael ei gydnabod yn Lloegr, ond nid yng Nghymru. Felly roedd angen i Katie groesi’r bont i Loegr pob dydd i gael gwaith addysgu yn ardal Bryste.
Dywedodd Katie: “Gweithiais i’n galed i gymhwyso fel athrawes yn yr Unol Daleithiau ac roeddwn i’n falch o’r hyn roeddwn i wedi’i gyflawni. Roeddwn i eisiau parhau â’m gyrfa, felly dechreuais i gymudo pob dydd i gael gwaith addysgu”.
Oddeutu deunaw mis yn ôl, cafodd Katie swydd yn ysgol Eastern High yng Nghaerdydd ond oherwydd nad oedd ei chymhwyster yn cael ei gydnabod, swydd fel athrawes heb gymhwyso oedd hon.
Ond roedd goleuni ym mhen draw’r twnnel. Ar 1 Ionawr eleni, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddeddfwriaeth newydd a olygai bod unrhyw athro cymwysedig o unrhyw ran o’r byd yn gallu gwneud cais i’w gymhwyster addysgu gael ei gydnabod yng Nghymru ac yn ei dro cael dyfarniad Statws Athro Cymwysedig (SAC). Gwneir yr asesiad hwn gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA), y corff rheoleiddio ar gyfer ymarferwyr addysg sy’n gweithio mewn ysgolion, addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a gwaith ieuenctid yng Nghymru.
Dywedodd Katie: “Roeddwn i’n gwybod bod y newid hwn ar droed, felly cyflwynais i fy nghais yn syth pan ddaeth y ddeddfwriaeth newydd i mewn. Cyn pen ychydig o wythnosau, roedd fy nghais wedi cael ei gymeradwyo a dwi bellach yn athrawes gyflawn yng Nghymru. Dwi wrth fy modd oherwydd dwi’n dwlu ar addysgu a dwi wedi ymgartrefu yng Nghymru”.
Ers cais llwyddiannus Katie, mae CGA eisoes wedi cael deg cais arall oddi wrth athrawon cymwys mewn gwledydd mor amrywiol ag Iwerddon, Hong Kong ac Awstralia.
Dywedodd Prif Weithredwr CGA, Hayden Llewellyn: “Rydyn ni’n croesawu’r newid hwn gan Lywodraeth Cymru, roedd disgwyl eiddgar amdano ac mae’n dod â chydraddoldeb â’r trefniadau cydnabyddiaeth mewn gwledydd eraill. Mae’r holl geisiadau a gawn yn cael eu hasesu yn erbyn meini prawf llym, sy’n golygu y gallwn groesawu athrawon profiadol o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig sydd nid yn unig â’r cymwysterau angenrheidiol ond hefyd cefndiroedd diwylliannol eang ac amrywiol”.
Os gwnaethoch gymhwyso fel athro y tu allan i Gymru a'ch bod am i'ch cymhwyster gael ei gydnabod yma, ewch i'n tudalen ar gyfer ymarferwyr sydd wedi’u hyfforddi y tu allan i Gymru.