CGA / EWC

About us banner
David Williams - Sut mae gwaith ieuenctid yn edrych yng Nghymru?
David Williams - Sut mae gwaith ieuenctid yn edrych yng Nghymru?

D WilliamsDavid Williams - Sut mae gwaith ieuenctid yn edrych yng Nghymru?

Wrth siarad â theuluoedd, ffrindiau ac eraill o’r tu allan i’r proffesiwn gwaith ieuenctid, gofynnir i mi’n aml "beth yn union wyt ti’n ei wneud?" I’r rhai ohonom ni sy’n gweithio yn y proffesiwn, neu’n gysylltiedig â’r proffesiwn, mae’r ateb yn glir iawn. Rydym ni’n meithrin perthnasoedd gyda phobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau: mewn adeiladau cymunedol fel clybiau ieuenctid, mewn parciau a mannau awyr agored ac mewn ysgolion a cholegau. Yn ei hanfod, ble bynnag y mae pobl ifanc a ble bynnag maen nhw am ymwneud â ni.

Trwy weithio ochr yn ochr â phobl ifanc, rydym ni’n creu mannau diogel wedi’u dylunio a’u hadeiladu i ymateb i’w hanghenion. Ar y cyd, rydym ni’n darparu ac yn creu cyfleoedd i gynorthwyo pobl ifanc ar eu taith i oedolaeth ac annibyniaeth. Dywed y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid mai diben allweddol gwaith ieuenctid yw:

“galluogi pobl ifanc i ddatblygu’n gyfannol, gan weithio gyda nhw i hwyluso’u datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol, i’w galluogi i ddatblygu’u llais, eu dylanwad a’u lle mewn cymdeithas, ac i gyrraedd eu potensial llawn.”

Mae gan waith ieuenctid gyfres glir o egwyddorion a dibenion arweiniol. Mae llwybr dysgu proffesiynol wrth wraidd iddo ac mae wedi bodoli ers cannoedd o flynyddoedd. Y peth cyntaf y mae angen i chi ei wybod yw bod darparu a chyflwyno gwaith ieuenctid yn seiliedig ar y broses, ac nid y cynnyrch. Yn eu cofnod yn 'The Journal of Youth Work: The Process is the Product' mae Gallagher a Morgan yn dyfynnu Beck a Purcell, sy’n dweud:

“…rather than uncritically accepting an imposed set of standards devised outside the local community, which may not necessarily take into account that community’s own values, culture and history, any statement of human rights becomes a starting point for critical reflection and action.”

Mae gwaith ieuenctid wedi’i seilio ar ddull cyflwyno wedi’i seilio ar hawliau, felly mae hyn yn golygu ei bod hi’n hanfodol i ni gydnabod a pharchu’r cymunedau y mae pobl ifanc yn perthyn iddynt a phwysigrwydd cael llais wrth hysbysu a llywio’r byd o’u cwmpas. Ar yr olwg gyntaf, gall un ddarpariaeth gwaith ieuenctid edrych yn wahanol iawn i ddarpariaeth arall. Gall ymddangos bod byd o wahaniaeth rhwng clwb ieuenctid mynediad agored sy’n cynnig cyfleoedd hamdden a sgiliau bywyd a phrosiect cyflogadwyedd ôl-16 ar y stryd, ond mae’r broses o’u creu nhw yn gyson â chyflwyno a methodoleg gwaith ieuenctid.

Mae gwreiddiau gwaith ieuenctid mewn darparu cyfleoedd dysgu anffurfiol a heb fod yn ffurfiol i bobl ifanc, mewn amser, lle a ffordd y mae pobl ifanc yn teimlo’n gyfforddus, y mae ganddynt berchenogaeth arno a diddordeb ynddo. Nid yw gwaith ieuenctid yn mynd ati i gyfeirio dysgu, twf a datblygiad person ifanc; yn hytrach, mae’n ystyried ei hun yn bartner sy’n cefnogi ac yn galluogi pobl ifanc i gyrraedd llawnder eu gallu a’u dymuniadau. Mae egwyddorion cynhwysiant a chyfle cyfartal wrth wraidd yr ymarfer hwn. Er mwyn deall yn well sut mae gwaith ieuenctid yn addysgu pobl ifanc, mae angen i ni wybod am 5 Piler Gwaith Ieuenctid.

Addysgol

Mewn clwb ieuenctid mynediad agored, mae pobl ifanc yn datblygu’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth ohonynt eu hunain a’r byd y maent yn byw ynddo. Maent yn cyd-ddylunio ac yn cymryd rhan mewn cyfleoedd i ddysgu sut i ddatrys problemau, gweithio ochr yn ochr â phobl eraill a sut mae eu gwerthoedd personol eu hunain yn rhyngweithio â gwerthoedd eu cymuned a’u cyfoedion. Mae’r clwb gwaith ôl-16 yn ymateb i anghenion pobl ifanc i ddatblygu cyfleoedd ymarferol a phwrpasol i gamu ymlaen mewn bywyd, pu’n ai trwy ddysgu sut i gyflwyno’u hunain ac ysgrifennu CV, neu rywbeth mwy ffurfiol, fel ennill cymhwyster Cymorth Cyntaf yn y Gwaith. Mae datblygiad addysgol, wedi’i yrru’n bersonol, yn allweddol yn y ddwy enghraifft hyn.

Mynegiannol

Yr union reswm pam mae’r prosiect cyflogadwyedd yn bodoli yw oherwydd bod grŵp o bobl ifanc wedi nodi’r angen a’u bod am ysgogi newid yn eu ffordd eu hunain. Mae dysgu’n digwydd mewn sawl amgylchedd gwahanol ac mewn sawl ffordd wahanol. Ni allwn gymryd yn ganiataol y bydd un sefydliad addysgol yn addas i bawb. Mae gwaith ieuenctid yn ceisio galluogi pobl ifanc i fynegi’u hunain lle maent yn teimlo’n gyfforddus ac mewn ffordd sy’n addas iddyn nhw. Mewn unrhyw glwb ieuenctid mynediad agored, byddwch yn gweld amrywiaeth o weithgareddau’n digwydd, o goginio’r tu allan ar dân agored i greu gemau corfforol newydd ar yr iard, neu gynnal gweithdy ar les emosiynol mewn ystafell dawel i fyny’r grisiau. Yr un yw gwreiddiau pob un o’r gweithgareddau hyn: mae gweithwyr ieuenctid yn meithrin perthnasoedd gyda phobl ifanc ac yn rhannu yn y gwaith o greu gwasanaethau sy’n helpu pobl ifanc i fynegi’u hunain.

Cyfranogol

Dywedodd Herbert Stack Sullivan, seiciatrydd a seicdreiddiwr:

“It may be possible through detachment to gain knowledge that is useful, but only through participation is it possible to gain the knowledge that is helpful.”

Mae gwaith ieuenctid yn annog pobl ifanc i ddod yn bartneriaid yn y gwasanaethau a’r profiadau dysgu y maent yn ymgysylltu â nhw. Caiff atebolrwydd a chyfrifoldeb eu hannog yn gyfartal, sy’n helpu i ddatblygu dealltwriaeth unigolyn o weithredoedd, canlyniadau a pherchenogaeth. Os ydw i eisiau gwella fy ngallu i wneud cynnydd ym myd gwaith ond rwy’n cael trafferth gwneud hyn mewn amgylchedd dysgu ffurfiol, yna rhaid i mi gyfrannu fy syniadau ac arloesi o ran creu cyfleoedd a fydd yn fy helpu i ymgysylltu. Os ydw i am ddysgu sgiliau ochr yn ochr â’m cymheiriaid sy’n adlewyrchu sut beth yw byw’n annibynnol, rhaid i mi godi padell ffrio a bod yn barod i dderbyn canlyniadau’r hyn y gall fy sgiliau coginio datblygol ei gynhyrchu.

Cynhwysol

Mewn byd fwyfwy cysylltiedig, mae pobl ifanc yn cael eu hamlygu i amrywiaeth ehangach o ddiwylliannau a chymunedau nag erioed o’r blaen, yn bennaf trwy dwf gweithgarwch ar-lein a’r cyfryngau cymdeithasol. Ni wnawn ni fanylu ar drafferthion ac enillion y ffenomen hon nawr, ond mae’n tynnu sylw i’r byd byd-eang rydym ni’n perthyn iddo. Mae gwaith ieuenctid yn annog pobl ifanc i adnabod prydferthwch a gwerth mewn treftadaeth a diwylliannau gwahanol, i hybu hawl unigolyn i ddathlu a rhannu’i ddiwylliant, ac i ddeall go iawn beth yw hi i fod yn ddinesydd byd-eang a lleol. Trwy weithgareddau fel prosiectau cyfnewid rhyngwladol a digwyddiadau diwylliannol, caiff pobl ifanc eu hannog i feithrin cysylltiadau gwell a magu mwy o ddealltwriaeth o’r byd o’u cwmpas. Wedi’r cyfan, nid yw cynwysoldeb yn ymwneud â rhoi’r un cyfle i bawb, mae’n ymwneud â meithrin cyfleoedd sy’n berthnasol i anghenion yr unigolyn.

Ymrymuso

Gallwch arwain ceffyl at ddŵr, ond ni allwch wneud iddo yfed... ond os na wnaiff y ceffyl yfed, ni fydd pethau’n gorffen yn dda.

Fel gweithwyr ieuenctid, rydym ni’n annog pobl ifanc i gamu i lawnder eu galluoedd a’u capasiti er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus am faterion sy’n effeithio arnyn nhw. Canlyniad y dull hwn: mae pobl ifanc wedi’u hymrymuso ac yn wybodus, maent yn dod yn arweinwyr yn eu cymuned ac maent yn ddinasyddion hyderus... neu rydym yn gweld pobl ifanc yn gwneud penderfyniadau a allai arwain at ganlyniadau personol a/neu gymdeithasol negyddol rydym yn eu hofni. Mae gwaith ieuenctid yn cofleidio risg, ond gyda diogelwch uwchlaw popeth yn y cof. Mae gweithwyr ieuenctid yn parchu hawl pobl ifanc i ddewis eu llwybr eu hunain, ond byddant yn ymyrryd hefyd os bydd y risg yn rhy uchel. Dyma’r trywydd y mae’n rhaid i weithwyr ieuenctid ymrafael â hi’n fedrus ac yn sensitif. Mae ymarfer myfyriol yn gonglfaen y proffesiwn; mae gweithwyr ieuenctid a phobl ifanc fel ei gilydd yn tyfu ac yn datblygu trwy ddysgu o weithredoedd yn y gorffennol a chymhwyso’r dysgu hwnnw i ymdrechion yn y dyfodol.

Mae llawer o’r gweithwyr ieuenctid y cefais y fraint o gydweithio â nhw yn dweud yn aml mai proffesiwn a wnaeth eu darganfod nhw yw gwaith ieuenctid; maent yn teimlo ei fod yn galw arnynt ac yn eu hysbrydoli bob dydd. Pam felly? Rwy’n credu bod y fraint o allu meithrin perthnasoedd didwyll ag eraill i gysylltu a byw bywyd gyda nhw yn egwyddor sylfaenol ein dynoliaeth. Mae gweithwyr ieuenctid yn cael gwneud hyn yn ddyddiol gyda rhai o’r bobl fwyaf ysbrydoledig, gwydn, trugarog, heriol a phrydferth ar y blaned. Nid yw hynny’n beth drwg i allu’i ddweud am eich swydd.

I ddarganfod mwy am sut gallu waith ieuenctid gyfrannu at Cwricwlwm i Gymru, darllenwch bapur trafod a gyhoeddwyd gan y Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid yn ddiweddar.

 
David Williams

Mae David wedi ymwneud â gwaith ieuenctid ers pan oedd yn 17 oed, pan ddechreuodd weithio fel gwirfoddolwr. Ac yntau bellach yn weithiwr ieuenctid â gradd, mae hefyd yn rheolwr gyda Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen ac, ar hyn o bryd, mae’n Gadeirydd Grŵp y Prif Swyddogion Ieuenctid.