Wythnos Iechyd Meddwl Plant - 1 i 7 Chwefror 2021
Mae Cyfarwyddwr Cymru Place2Be, sef Jacqueline Cassidy, yn rhannu ei safbwyntiau ar ddechrau Wythnos Iechyd Meddwl Plant eleni
Gall llawer ddigwydd mewn blwyddyn! Pan ddathlon ni’r Wythnos Iechyd Meddwl Plant y llynedd, roedd ysgolion ar agor ac yn llawn sŵn ac egni plant, athrawon a staff.
Flwyddyn yn ddiweddarach, rydyn ni’n wynebu’r realiti newydd sydd wedi profi gwytnwch plant, teuluoedd, arweinwyr ysgolion a staff i lefelau digynsail. Nid yw erioed wedi bod mor bwysig cefnogi iechyd meddwl plant. Mae Covid wedi cael effaith enfawr ar les plant a phobl ifanc ledled Cymru, ac mae’r effaith honno’n parhau. Mae’n debygol y byddwn yn gweld effeithiau’r pandemig hwn ar iechyd meddwl plant am flynyddoedd lawer i ddod.
Thema Wythnos Iechyd Meddwl Plant eleni yw “Mynegwch eich Hun”, ac rwy’n falch iawn o rannu cyfoeth o weithgareddau, syniadau ac adnoddau rhad ac am ddim Place2Be i blant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr, athrawon a staff ysgolion gyda chi. Mae’r adnoddau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ac fe’u datblygwyd i fod yn hyblyg i’w defnyddio gyda phlant sydd yn yr ysgol a’r rhai sy’n dysgu gartref.
Mae’r Wythnos Iechyd Meddwl Plant yn gyfle pwysig i amlygu’r heriau sy’n wynebu ein plant a’n pobl ifanc yng Nghymru ac i ddathlu a hybu iechyd meddwl da a lles.
Yn Place2Be, rydyn ni’n falch o weld y datblygiadau polisi yng Nghymru sy’n cydnabod pwysigrwydd iechyd meddwl plant. Mae’n wych gweld y bydd iechyd meddwl a lles yn cael eu hymgorffori yn y cwricwlwm newydd yng Nghymru. Rydyn ni hefyd yn croesawu datblygiad y Fframwaith Dull Ysgol Gyfan. Mae defnyddio dull ysgol gyfan sy’n canolbwyntio ar y plentyn o fynd i’r afael ag iechyd meddwl wedi bod yn genhadaeth i ni yn Place2Be ers dros 25 mlynedd. Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â chymunedau ysgolion, ac mae ein staff sy’n gweithio mewn ysgolion yn cynnig amrywiaeth o ymyriadau cyffredinol ac wedi’u targedu, o gwnsela unigolion a gwaith grŵp i blant a phobl ifanc, cymorth i rieni a chynnig lle i feddwl (‘Place2Think’) i arweinwyr a staff ysgolion.
Mae’n bwysig bod pawb sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn gallu cynnal eu hiechyd meddwl a’u lles eu hunain, yn ogystal â bod yn ymwybodol o sut i gynorthwyo’r plant a’r bobl ifanc maen nhw’n gweithio gyda nhw. Yn awr, rydyn ni’n gwybod bod hyn yn bwysicach nag erioed. Roedd arweinwyr a staff ysgolion eisoes dan bwysau aruthrol ac mae’r pandemig wedi gwthio eu gwytnwch i’r eithaf, fel yr amlygwyd yn yr Adroddiad Lles diweddar gan yr Academi Genedlaethol, cyfres Estyn o adroddiadau Cymorth Lles a gwaith rhagorol Education Support yng Nghymru. Mae Place2Be, ynghyd ag elusennau iechyd meddwl blaenllaw eraill, wedi galw am gymorth i weithwyr rheng flaen fod yn flaenoriaeth genedlaethol.
Yn yr un modd â llawer o sefydliadau, bu’n rhaid i Place2Be arloesi a bod yn hyblyg iawn o ran y cymorth a’r gwasanaeth rydyn ni’n eu cynnig i gymunedau ysgolion. Mae’r rhan fwyaf o’n hyfforddiant a’n DPP ar gael ar-lein bellach. Rydyn ni’n cynnig ein gwasanaethau o bell yn gyfan gwbl am y tro cyntaf i ysgolion gwledig pellennig yn yr Alban ac yn gobeithio cynnig gwasanaethau tebyg yng Nghymru yn fuan iawn.
Diolch i ymgyrch codi arian arbennig, rydyn ni hefyd yn cynnig ein Rhaglen Sylfaen Hyrwyddwyr Iechyd Meddwl ar-lein yn rhad ac am ddim i 2,500 o athrawon a staff sy’n gweithio mewn ysgolion ledled Cymru. Mae’r rhaglen 6 wythnos fer hon yn rhoi ymwybyddiaeth sylfaenol o iechyd meddwl plant. Yn bwysig, mae’r rhaglen hefyd yn mynd i’r afael â lles meddyliol yr oedolion sydd mewn cysylltiad â’r plentyn neu’r person ifanc. Bydd ein carfan nesaf ar gyfer cymunedau ysgolion yng Nghymru yn dechrau ym mis Mawrth. Mae ar gael yn Saesneg ar hyn o bryd, ond rydym yn gweithio gyda phartneriaid ac yn gobeithio y bydd ar gael yn Gymraeg yn fuan iawn.
Diolch am ein helpu i roi’r si ar led a hyrwyddo #WythnosIechydMeddwlPlant #Place2BeCymru @Place2Be
Elusen Iechyd Meddwl Plant yn y Deyrnas Unedig yw Place2Be. Rydym yn falch o fod yn cynyddu ein gwasanaethau cymorth a hyfforddiant mewn ysgolion ledled Cymru.
Dolennu cyswllt defnyddiol
Mae’r ffilm fer hon yn rhoi trosolwg o’n gwaith gydag ysgolion (Saesneg yn unig).
Dysgwch fwy am yr Wythnos Iechyd Meddwl Plant (Saesneg yn unig)
Lawrlwythwch adnoddau ar gyfer ysgolion a grwpiau ieuenctid
Dysgwch fwy am Place2Be (Saesneg yn unig)
Cysylltwch â Jacqueline trwy