Nick Hudd - ‘Dysgu cyfunol’ nid ‘addysgu cyfunol’
Mae’n ymddangos bod feirws Covid-19 wedi gweithredu fel rhagflaenydd i’r defnydd cynyddol o’r term ‘dysgu cyfunol’. Mae’r sector addysg, y dadleuais yn flaenorol bod ei randdeiliaid ar gyfnodau gwahanol iawn o ran coleddu a defnyddio technolegau digidol, wedi ymateb yn gyflym i heriau datblygol realiti newydd.
Mae ysgolion, colegau a phrifysgolion, bob un ohonynt wedi bod yn gadarnleoedd addysg ffurfiol, yn cynnig nid adnoddau ac addysgwyr yn unig, ond amgylcheddau sy’n galluogi mynychwyr i ddysgu’n ail law oddi wrth rai eraill, yn edrych yn fwyfwy darfodedig yn ystod y dyddiau hyn. Er mai ar ymagweddau heb fod yn ffurfiol ac ymagweddau anffurfiol y mae fy mhrif sylw, rwy’n cynnwys Canolfannau Ieuenctid yn y categoreiddiad hwn hefyd. Er bod yr holl sefydliadau hyn yn cynnig myrdd o fanteision, mae’r risg a grëir gan ddysgwyr a staff yn ymgynnull mewn niferoedd mawr, yn ystod pandemig byd-eang, yn amlwg yn effeithio ar eu gallu i weithredu’n effeithiol. Felly, fel marchog mewn arfwisg loyw, mae technolegau digidol yn cynnig ateb cyflym, cost-effeithiol, gyda’r term generig ‘dysgu cyfunol’ yn cael ei gynnig mwyfwy i ddisgrifio dull addysgegol newydd iawn.
Ar adegau, yn ystod cyfnodau clo llym, pan ataliwyd mynediad i’r sefydliadau hyn, mae’r cynnig hwn ar-lein wedi dod yn brif broses gyflwyno. Os ydym i gymryd y term ‘dysgu cyfunol’ i ddisgrifio dull addysg lle mae myfyrwyr yn dysgu trwy ddulliau digidol yn ogystal â dulliau traddodiadol wyneb yn wyneb, yna mae’n rhaid bod y gair ‘cyfunol’, yn absenoldeb yr elfen olaf hon, yn mynd yn ddiangen. Mae hwn yn newid mawr mewn paradeim addysgol, ac mae’r defnydd o derminoleg or-syml yn methu ei gyfleu; mae’r diffyg adnoddau ffisegol a chyfleoedd i ryngweithio’n gymdeithasol, y gallu i’r addysgwr ennyn diddordeb dysgwyr mewn sgwrs, dadl, i ymateb yn ddigymell i gwestiynau, wedi’u lleihau i gyd. Mae darparu’r gofod, y modd a’r diwylliant sy’n eu galluogi i fynegi’u hunain, i deimlo wedi’u grymuso, i fod yn wirioneddol gyfranogol yn eu dysgu eu hunain, teimlo eu bod wedi’u cynnwys; mae’r cyfan wedi’u tanseilio. Er nad ydynt yn gwbl absennol o gynnig digidol, mae’r diffyg elfennau hyn yn amharu ar ddysgu yn ddiau.
Ar ôl dweud hynny, daw cyfle yn sgil adfyd. Beth pe bai’r term ‘dysgu cyfunol’ yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio a rhagnodi ymagwedd ehangach o lawer? Er yr effeithiwyd ar addysgu yn y cyfnod digynsail hwn, nid effeithiwyd ar gyfleoedd dysgu. Dysgodd Aristotle i ni y gellir canfod dysgu ym mhob peth a wnawn. Mae’n ymddangos bod y term ‘dysgu cyfunol’, gellir dadlau, yn cael ei ddefnyddio’n anghywir ar adegau i ddisgrifio ‘addysgu cyfunol’. Efallai bod y cadarnleoedd y cyfeiriais atynt yn gynharach wedi dod yn borthorion dysgu, yn hytrach na phyrth at ddysgu.
Mae gwaith ieuenctid a gwaith cymunedol wedi ymwneud erioed â dysgu drwy brofiad. Darparu cyfle i bobl ifanc ddysgu o’r pethau y cânt brofiad ohonynt, ond heb bennu beth ddylen nhw ddysgu; canolbwyntio ar fewnbynnau, yn hytrach nag allbynnau. Defnyddio’r gymuned fel offeryn dysgu, gan alluogi pobl ifanc i chwarae rhan weithgar ynddi ond i elwa hefyd o’r hyn sydd ganddi i’w gynnig, mewn perthynas â’r cyfryw gyfleoedd. I’r rheiny sy’n teimlo’n anesmwyth nawr, gan ddisgwyl darllen am ddadl sy’n ymwneud â rhinweddau’r dulliau hyn yn gorbwyso dulliau system addysg ffurfiol; drwg iawn eich siomi. Mae sefyllfa Covid wedi amlygu breguster y system addysg gyfan sy’n ddibynnol eithriadol ar y cadarnleoedd addysgol y cyfeiriwyd atynt eisoes.
’Does bosib y dylai ‘dysgu cyfunol’ go iawn olygu hynny’n union; cyfuno dulliau ffurfiol gyda dulliau anffurfiol a heb fod yn ffurfiol, yn ddigamsyniol. Cydnabod, cipio a manteisio ar y cyfleoedd dysgu yr amlygir pobl ifanc iddynt yn eu bywydau bob dydd, gan eu hategu â gweithgareddau cwricwla strwythuredig. Mae cydnabod y gall addysgwyr fod yn athrawon, gweithwyr ieuenctid, rhieni, gwarcheidwaid, perchnogion busnes, a chynrychiolwyr y gymuned, yn ehangu cyfle ac yn lliniaru rhai o’r risgiau cysylltiedig o fod yn or-ddibynnol ar unrhyw ddarparwr addysg unigol. Tra bod rhai rhieni a gwarcheidwaid wedi bod yn amharod i weithredu fel athrawon yn ystod cyfnodau clo, efallai oherwydd eu galluoedd academaidd eu hunain, capasiti ac amser, gallai datblygu system addysg sy’n gofyn iddynt weithio yn unol â’u set sgiliau eu hunain, annog cyfranogi yn y prosesau yn hytrach na’u hanghefnogi. Gall canolbwyntio ar yr hyn y mae pobl ifanc yn cael profiad ohono ar hyn o bryd yn hytrach na cholli allan, yn nhermau addysg ffurfiol, ddatguddio cyfleoedd dysgu newydd. Mae pobl ifanc yn byw drwy ddigwyddiad hanesyddol mawr. Er nad wyf am wneud unrhyw gymhariaeth o ran natur digwyddiadau, mae dyddiadur Ann Frank ond yn un enghraifft lle mae edrych ar hanes o safbwynt unigolyn ifanc wedi bod yn offeryn addysgol grymus ei hun.
Yr her nawr, mae’n rhaid, yw cymryd yr hyn a ddysgom drwy’r cyfnod hwn a gwneud newid hirbarhaol. Boed hynny’n golygu adolygu rhoi Cwricwlwm Dyfodol Llwyddiannus Donaldson ar waith, y Strategaeth Gwasanaeth Ieuenctid yng Nghymru, neu archwilio pa rôl y gall cyrff fel Estyn ei chwarae i sicrhau bod rhai o’r egwyddorion hyn yn cael eu cymhwyso, mae cyfle gennym i wneud pethau’n wahanol yma yng Nghymru.
Nick Hudd
Uwch Ymarferwr Gwaith Ieuenctid i Gyngor Sir Benfro yw Nick Hudd, sydd wedi gweithio fel gweithiwr ieunctid amser llawn i sefydliadau statudol a gwirfoddol dros y 16 mlynedd diwethaf. Mae Nick yn weithiwr ieuenctid sydd â chymhwyster a gyndnabyddir gan JNC yn ogystal â BA (Anrhydedd) Gwaith Ieuenctid a Chymuned gan PCDDS.