Yng Nghyngor y Gweithlu Addysg (CGA), rydym wedi ymrwymo i gefnogi gweithlu cryf ac effeithiol yng Nghymru. Yn allweddol i’r ymrwymiad hwn y mae sicrhau bod gennym wybodaeth gywir a chyfredol am bob unigolyn yr ydym yn eu cofrestru.
Yn rhan o’n hymdrechion parhaus i wella ansawdd y data rydym yn ei ddal ar ein Cofrestr, rydym yn cysylltu â’n holl gofrestreion, gan ofyn iddynt fewngofnodi ac adolygu eu cofnod.
Pam mae’n bwysig?
Dyma bum rheswm pam mae cael data cywir yn bwysig i’r gweithlu addysg cyfan yng Nghymru.
-
Cynnal ymddiriedaeth yn eich proffesiwn
A ninnau’n rheoleiddiwr, ymddiriedir ynom i gadw cofnod cyhoeddus o bwy sy’n gweithio mewn addysg ar draws Cymru. Mae cynnal data cywir yn gwella tryloywder ac ymddiriedaeth ymhlith y cyhoedd ac o fewn y sector ei hun. Mae’n rhoi tawelwch meddwl i bawb mai dim ond pobl gymwysedig ac addas all ddarparu addysg ar draws Cymru.
-
Gwella cynllunio’r gweithlu
Mae data cynhwysfawr a chywir yn caniatáu i ni ddarparu gwybodaeth dreiddgar, gyfredol, i lunwyr polisi, gan sicrhau bod penderfyniadau ar gyllid, cymorth a blaenoriaethau strategol yn cyd-fynd â realiti’r proffesiynau. Mae eich diweddariadau yn ein helpu i siarad yn hyderus i ymateb i anghenion y sector, ac maent yn ein galluogi i’ch cynrychioli’n effeithiol mewn trafodaethau sy’n llywio addysg Cymru.
-
Ategu eich cydnabyddiaeth broffesiynol
Mae cofrestru yn cydnabod yn ffurfiol eich bod yn bodloni’r safonau sy’n ofynnol i weithio mewn rôl mor werthfawr ac uchel ei pharch. Trwy ddiweddaru eich cofnod (gan gynnwys eich rôl, eich cymwysterau a’ch gwybodaeth gyswllt), rydych yn ein helpu i greu darlun cynhwysfawr o’r proffesiwn a sicrhau bod eich anghenion a’ch cyflawniadau’n cael eu cydnabod.
-
Sicrhau cyfathrebu effeithiol
Mae cadw eich manylion cyswllt yn gyfredol yn caniatáu i ni rannu diweddariadau, cyfleoedd ac adnoddau pwysig wedi’u teilwra i’ch rôl. Mae’n sicrhau eich bod chi’n gwybod am ddatblygiadau allweddol sy’n effeithio arnoch chi ac ar y gweithlu addysg ehangach yng Nghymru.
-
Cydymffurfio
Yn rhan o’ch cofrestriad, mae’n ofynnol i chi gynnal eich cofnod, gan ei ddiweddaru cyn gynted â phosibl yn dilyn newid. Trwy sicrhau bod eich manylion yn gyfredol, rydych chi’n sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion cofrestru, gan eich helpu i osgoi problemau posibl.
Beth allwch chi ei wneud
Gallwch wirio a diweddaru eich manylion unrhyw bryd trwy eich cyfrif ar FyCGA. Mae hyn yn cynnwys eich enw, eich e-bost, eich cyfeiriad cartref a’ch swydd bresennol. Os cewch unrhyw drafferth cael at eich cyfrif ar FyCGA, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau yn gysylltiedig â’ch cofnod,