Yn 2021, derbyniodd Llywodraeth Cymru bob un o’r 51 o argymhellion o adolygiad Williams1, gyda phump ohonynt yn canolbwyntio ar Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) ac wyth ohonynt ar ysgolion. Mae Partneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa (PDPA), sef cydweithrediad rhwng ysgolion a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn hollbwysig o ran cyflwyno AGA i nifer o ddarpar athrawon ar draws de a gorllewin Cymru. Er mwyn ymateb i adolygiad Williams, mae PDPA wedi cymryd camau sylweddol i fynd i’r afael â’r argymhellion a meithrin profiad gwrth-hiliol.
Mae’r blog hwn yn archwilio’r cynnydd a wnaed gan PDPA, gan ystyried safbwyntiau o’r Brifysgol a’r ysgolion dan sylw. Mae’n amlygu ymdrechion parhaus i gyflawni’r argymhellion a chyfrannu at system addysg gynhwysol a theg.
Beth wnaethon ni yn y Brifysgol
Mae cyfiawnder cymdeithasol yn un o egwyddorion sylfaenol PDPA ac yn sbarduno ein hymrwymiad i wella cynrychiolaeth, gwerthuso effeithiolrwydd addysg amrywiaeth a hyrwyddo hyfforddiant gwrth-hiliol yn ein rhaglenni. Yn unol ag argymhellion adolygiad Williams, ein nod yw arfogi myfyrwyr â’r gallu i gymryd rhan yn feirniadol mewn trafodaethau yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithas ac amrywiaeth. Rydym yn cydweithio’n agos â phartneriaid i sicrhau y darperir hyfforddiant gwrth-hiliol o ansawdd uchel. I gyflawni hyn, rydym wedi datblygu cynllun strategol sy’n ystyried yn ofalus y cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â meithrin amgylchedd cynhwysol.
Pan ddaw’n fater o sefydlu arweinyddiaeth mewn tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant, mae’n bwysig mynd i’r afael â’r mater yn feddylgar. Er y gallai ymddangos yn reddfol i benodi aelod staff o’r gymuned Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i arwain yr ymdrech hon, rhaid i ni gyd ysgwyddo’r cyfrifoldeb o herio ein cydweithwyr a sbarduno newid. Felly, caiff arweinyddiaeth strategol yr agenda gwrth-hiliol ei rhoi yng ngofal cydweithiwr gwyn sy’n gynghreiriad gwerthfawr yn yr ymdrech hon.
Wrth gydnabod bod dysgu proffesiynol yn hanfodol, ceisiom arbenigedd allanol i ddatblygu ein llythrennedd hiliol. Mae’r hyfforddiant hwn wedi ein grymuso i gwestiynu’r gogwydd Ewroganolog yn y cwricwlwm ysgol a chynnwys safbwyntiau nad ydynt yn wyn. O ganlyniad i’n hymagwedd strategol unedig, mae themâu gwrth-hiliol wedi’u hymblethu i bob modiwl ar draws ein rhaglenni a chânt eu hadolygu’n flynyddol. Mae’r ffeithlun yn gynrychioliad gweledol o’r daith llythrennedd hiliol a sut mae PDPA wedi tarfu ar hiliaeth ac anghydraddoldeb ar lefelau systemig. Mae hefyd yn cydnabod faint yn fwy sydd gennym i’w wneud.
Ymagwedd arweinyddiaeth ysgol
Mae Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas yn ysgol arweiniol y PDPA ac mae’n ysgol dinas fewnol ethnig amrywiol yn Abertawe. Roedd gan y pennaeth ymagwedd strategol tuag at wrth-hiliaeth trwy roi argymhellion adolygiad Williams ar waith, gan gynnwys pennu blaenoriaethau strategol gwrth-hiliol yn y cynllun datblygu ysgol. Symbylodd hyn yr uwch dîm i archwilio’r fraint y mae lliw croen yn ei rhoi a stereoteipiau hiliol i ddylunio cwricwlwm ar gyfer y gymuned amrywiol y mae’n ei gwasanaethu - gwir gynhwysiant i bawb. Pan roddwyd yr ymyrraeth hon ar waith, nid oedd y ddarpariaeth dysgu proffesiynol ar gyfer amrywiaeth a gwrth-hiliaeth wedi’i lansio. Byddai dod o hyd i’r dysgu proffesiynol wedi bod yn rhwystr ond, erbyn hyn, mae ar gael yn rhwydd i bob ysgol yn anghydamserol ac mae’n lleihau’r rhwystr rhag ymgysylltiad gwrth-hiliol. Caiff ei gydnabod nad yw siarad am hil yn norm diwylliannol, gan y crybwyllir bod cymdeithas yn lliwddall o ran hil ac yn osgoi siarad am hil a chydnabod gwahaniaethau hiliol (Sue, 2015). Felly, roedd yr ymddiriedaeth a roddwyd i’r pennaeth i herio rhagfarn ddiarwybod yn werthfawr ac yn cael ei werthfawrogi.
Yn y cynllunio dilynol, aeth y pennaeth ati’n weithredol i osgoi ymagweddau tocynistaidd ac roedd yn ffafrio ymgorffori newid parhaol ym mhob agwedd ar y profiad ysgol. Roedd hyn yn cynnwys gwneud gwrth-hiliaeth yn rhan o rôl arweinyddiaeth yn yr ysgol i godi proffil ac atebolrwydd ar gyfer ymyriadau gwrth-hiliol. Ar ben hynny, penodwyd llefarwyr gwrth-hiliaeth, dan bennawd amrywiaeth, i dimau cynllunio’r cwricwlwm. Roedd hyn er mwyn sicrhau y cynhwyswyd pob maes dysgu a phrofiad o safbwynt amlddiwylliannol, fel bod pob plentyn, a’i gefndir, yn rhan o’r cwricwlwm. Yn ogystal, cynhaliwyd gweithdy i rieni yn canolbwyntio ar amrywiaeth a daw rhieni neu blant yn aml i rannu eu cefndiroedd diwylliannol yn y dosbarth. Un effaith fu cyflwyno man gweddïo yn yr ysgol i bob plentyn ei ddefnyddio, yn dilyn awgrym gan aelod o deulu.
Mae’n rhaid i fynd i’r afael â hiliaeth fod yn ymagwedd ysgol gyfan, wedi’i harwain yn strategol gan uwch arweinwyr yn y sefydliad. Fodd bynnag, i fynd i’r afael â hi’n llawn, mae’n rhaid i ni gydnabod ein braint ein hunain ac agor ein llygaid i’r rhagfarn ddiarwybod sy’n treiddio trwy gymdeithas. Dim ond bryd hynny y gallwn ddechrau deall sut mae gwahaniaethu’n effeithio ar y rhai sy’n cael profiad ohono a, thrwy wneud hynny, gwneud newidiadau go iawn tuag at gynhwysiant gwirioneddol.
Russ Dwyer, Pennaeth, Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas
Ymagwedd Ysgol y Clâs
Mynychodd Ysgol Gynradd y Clâs gynhadledd gwrth-hiliaeth ac ymgymryd â’r her o hyrwyddo amrywiaeth hiliol a chynhwysiant yn yr ysgol. O ganlyniad, penododd rai disgyblion yn Llysgenhadon Amrywiaeth i hyrwyddo ‘cynefin’ yng nghymuned yr ysgol.
Creodd yr ysgol fwrdd arddangos lle gall myfyrwyr rannu eu myfyrdodau a’u profiadau yn ymwneud â hyrwyddo ymdeimlad o berthyn a chynhwysiant. Mae hefyd wedi datblygu rhaglen o’r enw ‘Dathlu Amrywiaeth’, sy’n cynnwys ystod o weithgareddau fel dysgu am ddiwylliannau a chrefyddau gwahanol a gwahodd siaradwyr gwadd i siarad â myfyrwyr am eu profiadau. Datblygodd gysylltiadau ag Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas hefyd a chafodd gyllid gan Partneriaeth i gynllunio ffordd ymlaen gyda’i gilydd ar draws yr ysgolion.
Y llysgenhadon amrywiaeth wrth eu gwaith.
Myfyrdodau i gloi
Chwaraeodd pob sefydliad addysgol ran weithredol mewn cefnogi gwrth-hiliaeth. Er enghraifft, ymgorfforodd PDPA gwricwlwm ac addysgeg wrth-hiliol ym mhob un o’i modiwlau, gan gynnal dysgu proffesiynol gwrth-hiliol a phartneru ag ysgolion sy’n dangos meddylfryd gwrth-hiliol. Yn ogystal, mae Ysgol Gynradd y Clâs ac Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas yn dangos pa mor gyflawnadwy yw creu amgylchedd dysgu mwy amrywiol a chynhwysol. Roedd yn ofynnol i’r ddwy ohonynt ddatblygu llythrennedd hiliol i greu cyfleoedd gwrth-hiliol priodol a magodd y ddwy ohonynt nerth trwy gydweithio â phartneriaid. Os ydych chi’n dechrau ar eich taith, cofiwch nad ydych chi ar eich pen eich hun. Ceisiwch gymorth a manteisiwch i’r eithaf ar eich rhwydwaith fel rhan o ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu a chreu mannau diogel i feithrin eich llythrennedd hiliol.
by
Lilian Yuet Ling Martin.
Ar y cyd ag Amanda Thomas (Ysgol Gynradd y Clâs) a Russ Dwyer (Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas)
Ynglŷn â’r blogiwr
Mae Lilian Yuet Ling Martin yn arweinydd strategol o fewn PDPA, yn addysgwr gwrth-hiliol ac yn ymchwilydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n gwerthuso adolygiad Williams.
[1] Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd: adroddiad terfynol