gan Nick Hudd
Yn ôl yn 2019, ysgrifennais erthygl am ymateb gwaith ieuenctid i ddigartrefedd. Ar y pryd, roedd Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi uchelgais beiddgar i ddod â digartrefedd pobl ifanc i ben erbyn 2027. Bum mlynedd yn ddiweddarach, mae’n ymddangos bod neilltuo amser i fyfyrio ar y sefyllfa bresennol a bwrw golwg tuag at y dyfodol yn beth call i’w wneud.
Yn ddiweddar, fe wnaeth amrywiol bartïon â budd weithio ar y cyd i gynllunio a hwyluso cynhadledd genedlaethol, ‘Gweithio Gyda’n Gilydd i fynd i’r afael â Digartrefedd Ieuenctid’. Efallai bod y digwyddiad hwn yn cynnig darlun pendant o’r sefyllfa bresennol ac enghraifft o’r sector yn gwneud beth y mae’n ei wneud orau, sef meithrin partneriaethau, ceisio mynd i’r afael â diffygion, dod o hyd i ffyrdd o rannu enghreifftiau o arfer da, a chydweithio er budd pobl ifanc.
Fe wnaeth pob un o wasanaethau ieuenctid y 22 awdurdod lleol gydweithredu a chytuno i gyd-ariannu’r digwyddiad, ynghyd â phartner trydydd sector, End Youth Homelessness Cymru. Yn ogystal, fe wnaeth Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) chwarae rhan hanfodol wrth helpu i gynllunio a hwyluso’r diwrnod. Gan fod y sector weithiau’n cael ei gyhuddo o syllu ar ei fogail a chydnabod y rôl frocera y mae gwaith ieuenctid yn ei chwarae, gwahoddwyd mynychwyr o amrywiaeth o broffesiynau, gan gynnwys gofal cymdeithasol, iechyd a llu o sefydliadau sector gwirfoddol/trydydd sector, sef cyfanswm o bron i 200 o bobl. I’r bobl hynny sydd efallai wedi cwestiynu yn y gorffennol pam rydym ni wedi cael rôl mor flaenllaw wrth helpu i fynd i’r afael â’r agenda benodol hon, mae cynrychiolaeth mor gynhwysfawr yn awgrymu ein bod yn dadlau’r achos.
Mae gwaith ieuenctid bob amser wedi ymfalchïo mewn bod yn arloesol, gan addasu a newid i fodloni anghenion cymdeithas gyfoes. Mae adnabod ac adeiladu ar y cryfderau hyn yn caniatáu i ni ymateb i ddigartrefedd ieuenctid yn effeithiol. Fodd bynnag, er mwyn symud ymlaen, mae’n rhaid i ni weithiau edrych yn ôl a nodi meysydd lle y bu angen mwy o ddatblygu.
Mae angen i ymarferwyr ddal ati i gamu i ffwrdd rhag gorddibynnu ar fyfyrdodau anecdotaidd ac, yn hytrach, sicrhau eu bod yn mynegi’n effeithiol y fethodoleg a’r addysgeg strategol a systematig sy’n llywio, yn llunio ac yn rheoli ein gwaith. Er ein bod yn ystyried ein hunain yn addysgwyr anffurfiol/nad ydynt yn ffurfiol, yn hanesyddol, bu camsyniad gan rai nad oes fframwaith ffurfiol i’n dull. Trwy ddefnyddio a chyfeirio at y llu adnoddau sydd ar gael i ni, gallwn wrthsefyll credoau gwallus o’r fath, gan wella deilliannau i bobl ifanc. Po fwyaf y gwnewn ni i wasanaethu’r gofynion hyn, yn enwedig wrth ryngweithio â phobl o’r tu allan i’r sector, po fwyaf y bydd pobl eraill yn deall a’r mwyaf o gyfleoedd fydd am weithio cydweithredol, gan arwain yn anochel at ddeilliannau gwell.
Mae’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid yn cynnig enghraifft lle y gallwn arddangos dull strategol, systematig, gan gysylltu ein gwaith â mentrau ehangach Llywodraeth Cymru, hefyd. Mae chwe elfen graidd allweddol y fframwaith nid yn unig yn rhagnodi ymagwedd systematig glir at ein gwaith ar ddigartrefedd ieuenctid, maent hefyd yn ein galluogi ni i gynnig naratif clir a chryno am ein hymagwedd ynghyd â ffordd o ddechrau dangos tystiolaeth o’n gwaith. Isod, rwy’n myfyrio ar ddwy elfen yn unig i ddarlunio’r pwyntiau hyn:
Nodi’n gynnar
Mae anghenion bob amser wedi arwain gwaith ieuenctid. Er mwyn nodi’r angen a gweithredu’n briodol mewn partneriaeth ag eraill, mae angen i ni sicrhau ein bod yn datblygu’r systemau hyn. Mae ymarferwyr yn gallu proffilio’r cymunedau y maent yn gweithio ynddynt yn gwbl fedrus, p’un a yw’r rhain yn cael eu diffinio’n ddaearyddol neu fel rhan o bwnc penodol, fel iechyd, troseddau ieuenctid, neu ddigartrefedd. Mae sefydlu’r systemau hyn yn gontinwwm i’r ymagwedd hon.
Enghreifftiau o ymarfer
Trwy ddefnyddio setiau data cadarn ar draws amrywiol barthau ym meysydd tai, gofal cymdeithasol ac addysg, rydym ni (yn fy sefydliad i) wedi gallu olrhain achosion cyffredin digartrefedd ieuenctid er mwyn llywio ymyriadau. Gallwn nodi meysydd, gan gynnwys lleoliadau daearyddol ac ysgolion, ynghyd â demograffeg benodol lle y mae nifer y bobl ifanc sy’n cyflwyno’u hunain yn ddigartref yn uwch, fel y gallwn dargedu cymunedau a’r rhai sydd wedi profi ffactorau cyfrannol penodol, gydag ymyriadau mwy dwys. Yn ogystal, trwy roi’r unigolion hyn yn ôl trwy ymgysylltu â llu o wasanaethau, gallwn sefydlu ble y gallwn ni neu eraill ymyrryd yn gynt.
Broceriaeth
Mae gwaith ieuenctid bob amser wedi mabwysiadu ymagwedd ragweithiol, yn hyn o beth. Er enghraifft, cyfeirio pobl ifanc, eu cynorthwyo â’r broses o gael at wasanaethau eraill, cynnig lleoliadau i gynnal cyfarfodydd, neu gynnig staff i’w cynorthwyo wrth ryngweithio ag eraill. Mae’r ffactorau sy’n cyfrannu at ddigartrefedd ieuenctid ac achosion digartrefedd ieuenctid yn amrywiol ac yn eang ac, oherwydd hyn, nid oes sefydliad, adran na sector unigol a all fforddio mabwysiadu ymagwedd unochrog at fynd i’r afael ag ef.
Enghreifftiau o ymarfer
Trwy weithio gyda phobl ifanc a darparwyr eraill, rydym wedi gallu nodi ymhle y mae rhwystrau’n bodoli, canfod bylchau mewn darpariaeth ac archwilio unrhyw amgyffrediad o ddiffyg dealltwriaeth neu heriau mewn prosesau a gweithdrefnau. Mae ein prosiect ‘Lleisiau’ yn rhoi cyfle i bobl ifanc rannu eu profiadau o gael at wasanaethau a’u defnyddio. Mae hyn yn helpu i hysbysu eu cyfoedion a rhanddeiliaid eraill. Hefyd, rydym wedi sefydlu Fforwm Tai a Digartrefedd Ieuenctid, lle mae’r aelodau’n defnyddio’u profiadau eu hunain i amlygu problemau a gweithio ar y cyd â phartneriaid i ddod o hyd i atebion. Rydym wedi datblygu adnoddau gwybodaeth, gan gynnwys fideos a ffeithluniau sy’n esbonio ble i gael help a chymorth, gan bwy a sut. Mae dull cydweithredol o’r fath yn cefnogi agenda broceriaeth, gan sicrhau ein bod yn cydweithio i sefydlu parhad darpariaeth a bod pobl ifanc yn cael y cymorth cywir, ar yr amser cywir, gan y bobl gywir.
Fel yr awgrymwyd yn flaenorol, mae cysylltu ein gwaith â mentrau ehangach eraill Llywodraeth Cymru yn annog ymarferwyr Gwaith Ieuenctid a phartneriaid proffesiynol eraill i ddatblygu dealltwriaeth strategol well o’r rôl rydym ni’n ei chwarae yn yr agenda hon ac mewn agendâu eraill. Er enghraifft, mae dogfennau canlynol Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at elfen digartrefedd ieuenctid y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid:
- Cynllun Plant a Phobl Ifanc
- Strategaeth Tlodi Plant Cymru 2024
- Rhoi diwedd ar ddigartrefedd: cynllun gweithredu lefel uchel 2021 i 2026
- Canllawiau'r Grant Cymorth Tai
Mae myfyrio ar yr ychydig enghreifftiau hyn yn amlygu sut mae ein gwaith yn pontio llu o fentrau strategol a gwaith ar draws parthau gwahanol. Mae angen i ni, fel sector, fanteisio ar hyn a sicrhau bod pob rhanddeiliad yn ymwybodol o’n swyddogaeth ragweithiol.
Yn fy erthygl flaenorol, cyfeiriais at ‘In Defence of Youth Work’, a awgrymodd fod y sector ieuenctid yn cynhyrchu o leiaf £10 ar gyfer pob £1 o wariant y sector. Nid yn unig y mae ein hymagwedd, sef cynnwys pobl ifanc wrth ddylunio, cyflwyno, cyd-hwyluso a gwerthuso ein hymyriadau ni ac ymyriadau rhanddeiliaid eraill, yn sicrhau bod darpariaethau o’r fath yn bodloni eu hanghenion, mae hefyd yn ychwanegu gwerth ariannol. I’w roi’n ddi-flewyn-ar-dafod, nid oes fawr o gost i’r cyfraniad hwn.
Yn lleol, rydym yn rhedeg cynllun benthyca dodrefn a chyfarpar sy’n gallu gweithredu dim ond oherwydd haelioni pobl a busnesau yn ein cymuned sy’n rhoi er mwyn galluogi pobl ifanc i baratoi a dodrefnu eu cartrefi. Fodd bynnag, mae hyn oll yn gofyn am fath arall o fuddsoddiad. Amser. Mae angen amser i feithrin perthnasoedd. Mae angen amser ar ymagweddau systematig effeithiol. Mae gwaith lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn cymryd amser i ddatblygu. Mae angen neilltuo amser priodol i strategaeth gynyddol hirdymor. Er mwyn dadlau’r achos dros fuddsoddiad ariannol, mae angen i ni sicrhau bod yr holl elfennau sydd wedi cael eu hystyried uchod yn llunio, yn dylanwadu ar, ac yn llywio ein gwaith o hyn ymlaen.