CGA / EWC

About us banner
Mai 2022
Mai 2022

Measuring Up: What educational testing really tells us – Daniel Koretz
Measuring upMae’r llyfr hawdd ei ddarllen hwn sy’n llawn gwybodaeth graff ac enghreifftiau diddorol, yn trafod rhai o’r materion mwyaf sylfaenol sy’n codi ym maes profi addysgol.

Mae Measuring Up, sy’n rhoi cyngor clir a rhesymegol, yn ceisio chwalu’r mythau sy’n ymwneud â phrofi addysgol. Gan ddefnyddio enghreifftiau o fywyd pob dydd, mae Koretz yn tywys y darllenydd trwy egwyddorion profi a dylunio profion. Mae’r llyfr yn trafod beth mae profion yn gallu ei wneud yn dda, yn ogystal â’u terfynau, ac yn edrych ar ba mor rhwydd y gall profion a sgorau gael eu camddeall.

Un o’r llyfrau mwyaf darllenadwy am brofi y byddwch yn dod ar ei draws.

Assessment for Learning: Putting it into practice - Paul Black, Chris Harrison, Clara Lee, Bethan Marshall a Dylan Wiliam

Assessment for learningMae’r llyfr hwn, sy’n cynnig gwybodaeth werthfawr am asesu ar gyfer dysgu, yn rhoi cyngor ac arweiniad ymarferol ar weithredu dulliau newydd ac arloesol i wella addysgu a dysgu.

Mae Assessment for Learning – Putting it into practice wedi’i seilio ar brosiect dwy flynedd yn cynnwys tri deg chwech o athrawon mewn ysgolion ym Medway a Swydd Rydychen. Mae’r ymchwil yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol o asesu ffurfiannol: holi, dulliau adborth, asesu gan gymheiriaid a hunanasesu, a defnydd ffurfiannol o brofion crynodol.

Mae’r llyfr hwn yn dangos yn glir pŵer asesu ar gyfer dysgu a’i effaith ar ddysgu a chyflawniad myfyrwyr.

 

Nid yw’r cyhoeddiad yma ar gael ar EBSCO bellach. Efallai y gallwch ddod o hyd iddo mewn ffynhonellau eraill.