CGA / EWC

About us banner
Cylchlythyr CGA hydref 2023
Cylchlythyr CGA hydref 2023

Digwyddiad briffio rhanddeiliaid Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg
24 Hydref 2023, 11:00-12:00

Mae'r briffiad yn dod yn sgil cyhoeddi Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg 2023 a bydd yn rhoi trosolwg o'r data, gyda ffocws ar y prif dueddiadau. Mae hyn yn cynnwys cyfraddau dargadw'r gweithlu am y tro cyntaf.


Cofrestru a Rheoleiddio

Sefydlu

Cyflogi ANG? Mae'n rhaid i chi gyflwyno'r ffurflen hysbysu sefydlu i ni. Mae'r ffurflen yn sicrhau fod pawb sy'n rhan o sefydlu'r ANG yn gallu cael mynediad y proffil ar-lein, ac yn gwneud yn siŵr bod yr ANG yn cael dilysydd allanol.

Gwrandawidau a'u canlyniadau

Mae'n rhaid i gofrestreion ddilyn y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol. Weithiau, gall pethau fynd o'i le. Os fydd hyn yn digwydd, rydym yn ymchwilio i, ac ystyried p'un a i gymryd unrhyw gamau. Mae hyn yn diogelu'r cyhoedd, ac hefyd yn hyrwyddo a chynnal proffesiynoldeb yn y gweithlu addysg.

Mae gwrandawiadau i ddod, a chanlyniadau gwrandawiadau ar ein gwefan.

Ymarferwyr sydd wedi hyfforddi tu allan i Gymru

Gall ymarferwyr sydd wedi hyfforddi fel athrawon ysgol tu allan i Gymru wneud cais i gael cydnabyddiaeth fel athro ysgol yng Nghymru. Bydd unrhyw un sy'n cael ANG trwy gwrs hyfforddiant addysg gychwynnol athrawon yn Lloegr, yn cael eu cydnabod yng Nghymru yn awtomatig.

Yw eich staff wedi cofrestru?

Ni all ymarferwyr addysg weithio yng Nghymru heb gofrestru gyda CGA. Mae gan gyflogwyr (gan gynnwys asiantaethau cyflenwi) rwymedigaeth gyfreithiol i wirio bod staff wedi cofrestru, cyn iddynt ddechrau gweithio.


Diweddariadau'r Cyngor

Cyfarfodydd y Cyngor

Bydd y cyfarfod nesaf y Cyngor ddydd Iau 16 Tachwedd 2023. Os hoffech ddod, mae gwybodaeth ar arsylwi ar ein gwefan.


Canllawiau, adnoddau, a gwasanaethau proffesiynol

Siarad yn Broffesiynol

Byddwch yn barod i blymio dyfnderoedd gwyddor ac addysg wybyddol, wrth i'r Athro Shaaron Ainsworth  arwain ein darlith flynyddol Siarad yn Broffesiynol 2024, 'Datgloi dirgelion dysgu'. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar 24 Ionawr 2024. Cadwch lygad ar y cyfryngau cymdeithasol a'r wefan am fwy o wybodaeth ar sut i gadw'ch lle yn yr wythnosau nesaf.

PDP

Gall y Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) gefnogi eich sefydliad a'ch staff i gipio a myfyrio ar eu dysgu proffesiynol. Os ydych am ymuno â sefydliadau eraill sydd eisoes yn defnyddio adnoddau arbennig fel rhan o'r broses adolygu perfformiad, This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

Addysgwyr Cymru

Mae porthol swyddi Addysgwyr Cymru, un o'r mwyaf ar gyfer y sector addysg yng Nghymru, yw'r lle delfrydol i'r rhai sy'n chwilio am swyddi. Mae'r rhan fwyaf o sefydliadau sy'n hysbysebu eu swyddi gwag drwy eu hawdurdod lleol yn cael eu cynnwys yn awtomatig ar Addysgwyr Cymru hefyd.

Gallwch wahodd y tîm i gyfarfod, er mwyn iddynt rannu buddion cofrestru gydag Addysgwyr Cymru.

Fframwaith datblygu proffesiynol ôl-16

Ry'n ni wedi bod yn gweithio gydag ymarferwyr a rhanddeiliaid i ddatblygu fframwaith datblygu proffesiynol ôl-16 ar gyfer ymarferwyr AB, DSW, a dysgu fel oedolion. Mae'r fframwaith yn dod â chyngor, canllawiau a theclynnau ynghyd i gefnogi ymarferwyr ar eu taith ddysgu broffesiynol.

Ry'n ni hefyd wedi gweithio gyda phartneriaid i greu safonau proffesiynol newydd ar gyfer arweinwyr AB a DSW. Bydd adnoddau ychwanegol i annog arweinwyr a chefnogi staff i gydweithio gyda'r safonau newydd yn cael eu hychwanegu at y fframwaith yn 2024.

Meddwl Mawr

I helpu cefnogi ein cofrestreion i ymgysylltu gydag ymchwil a darllen fel rhan o'u dysgu proffesiynol, ry'n ni wedi creu Meddwl Mawr. Clwb llyfrau misol, ble ry'n ni'n argymell cyhoeddiadau all helpu cofrestreion yn eu gwaith o ddydd i ddydd.

Gwobrau MAGI diweddar

Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cael y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yn ddiweddar.
Gwobrau efydd:

  • Prince’s Trust
  • Gwasanaeth Ieuenctid Casnewydd
  • Vibe Youth

Gwobr arian:

  • Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili

Gwobr aur:

  • Gwasanaeth Ieuenctid Conwy

Recriwtio aseswyr marc ansawdd

Rydym yn chwilio am aseswyr newydd. Mae'r rôl yn un werthfawr, ysgogol ac yn cynnig cyfle datblygu proffesiynol parhaus ardderchog. I gael mwy o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i'r wefan.


Hysbysu Polisi

Ymateb i ymgynghoriadau

Rydym yn ymateb i ymgynghoriadau gan sefydliadau eraill, er mwyn cyfrannu at, a dylanwadu ar ddatblygu polisi ym mudd cofrestreion. Gallwch ddarllen ein hymatebion diweddaraf i ymgynghoriadau ar ein gwefan.


Rhag ofn i chi ei fethu

Sgwrsio gyda CGA

Mae pennod ddiweddaraf ein podlediad yn dilyn o'r digwyddiad Dosbarth Meistr ym mis Mai, ac rydym yn croesawu rhai o'r panelwyr yn ôl i ateb eich cwestiynau. Gallwch wrando ar y bennod ar ein gwefan, neu chwilio amdano ble bynnag ry'ch chi'n gwrando ar bodlediadau.

Gwefan newydd

Fel sefydliad ry'n ni wedi ymrwymo i fod yn gynhwysol. Mae'r wefan newydd wedi ei chreu fel bod pawb yn gallu deall ein gwaith ac ymgysylltu â ni. This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. os oes gyda chi unrhyw adborth.

Gwahodd ni

Wyddech chi y gallwch chi ein gwahodd ni i siarad gyda'ch staff am yr hyn ry'n ni'n ei wneud? Llenwch y ffurflen ar ein gwefan.

Addewid gwrth-hiliaeth

Fe wnaethom ymuno gyda 1,500 o sefydliadau ym mis Awst, a llofnodi addewid Dim Hiliaeth Cymru Race Council Cymru. Darllenwch fwy am yr addewid, a beth mae'n golygu ar ein gwefan.

Adroddiad blynyddol a chyfrifon

Ym mis Awst, fe wnaethom gyhoeddi ein cyfres o adroddiadau blynyddol, gan gynnwys ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon, Adroddiad Monitro Safonau'r Gymraeg, Adroddiad Blynyddol Priodoldeb i Ymarfer, ac Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol.

Digwyddiad dosbarth meistr

Mae recordiad o'n digwyddiad dosbarth meistr "Dy'n ni ddim yn dweud wrth yr athrawon": deall a mynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol mewn lleoliadau addysg nawr ar gael ar ein sianel YouTube. Cofiwch ei rannu gyda'ch staff.

Blog

Ry'n ni wastad yn chwilio am gyfraniadau i'n blog. Os oes pwnc ry'ch chi'n frwd drosto, ac am ei rannu gyda'ch cyd-gofrestreion, This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..


Dilynwch ein sianeli

Gallwch gael y newyddion diweddaraf gan CGA ar Twitter, Facebook, LinkedIn, YouTube ac ar y wefan hon.