CGA / EWC

About us banner
Cylchlythyr CGA Mai 2024
Cylchlythyr CGA Mai 2024

Cofrestru a rheoleiddio

Datganiad ar ffioedd 2024/25

Rydym wedi rhyddhau datganiad ar ffioedd cofrestru blynyddol ar gyfer 2024/25.

Newidiadau pwysig i gofrestru yng Nghymru

Mae nifer o newidiadau cofrestru wedi dod i rym ar gyfer y rheiny sy'n cyflogi ymarferwyr addysg yng Nghymru. Maent yn cynnwys categorïau newydd sydd angen cofrestru, a chyflwyno cymwysterau lleiafswm ar gyfer rhai categorïau. Mae popeth sydd angen i chi wybod ar ein gwefan.

Diweddaru'r Cod

Mae'r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol wedi ei ddiweddaru i ddangos y newidiadau diweddar i'r rheiny sydd angen cofrestru gyda ni. Mae'n bwysig bod eich staff yn ymwybodol o'r wybodaeth yn y Cod, gan ei fod yn gosod y safonau a ddisgwylir ganddynt fel cofrestrai.

Priodoldeb i ymarfer

Mae gennym gyfrifoldeb statudol i ymchwilio i unrhyw ymholiadau o ran safonau cofrestrai CGA, trwy ein proses priodoldeb i ymarfer. Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys gwrandawiadau i ddod, a chanlyniadau i ddod, ewch i'r wefan.

Newidiadau i sefydlu ar gyfer athrawon ysgol

Bydd gan ANGau sydd wedi cael statws athro cymwys (SAC) rhwng 1 Ebrill 2003 a 6 Tachwedd 2022, bum mlynedd o 7 Tachwedd 2022 i gwblhau sefydlu. Bydd gan ANGau sydd wedi cael SAC o 7 Tachwedd 2022 ymlaen, bum mlynedd o ddyddiad y rhoddwyd y SAC i gwblhau sefydlu. Mae mwy o wybodaeth ar sefydlu athrawon yng Nghymru ar ein gwefan.

Ail-achredu Addysg Gychwynnol Athrawon

Yn ddiweddar rydym wedi ail-achredu nifer o raglenni addysg gychwynnol athrawon, lle'r oedd eu hachrediad yn mynd i ddod i ben ym mis Awst. Mae gwybodaeth am yr holl raglenni achrededig yng Nghymru ar ein gwefan.

Diweddariadau'r Cyngor

Rydym wedi cyhoeddi ein cynlluniau newydd am y blynyddoedd nesaf

Mae ein Cynllun Strategol 2024-27 a'n Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 yn manylu ar sut fyddwn ni'n cyflawni ein swyddogaethau statudol, yn effeithiol, effeithlon, a chynaliadwy, wrth sicrhau cydraddoldeb a thegwch.

Canllawiau, adnoddau, a gwasanaethau proffesiynol

Canllawiau arfer da

Rydym wedi diweddaru ein canllawiau arfer da, i adlewyrchu'r arferion gorau a'r tueddiadau diweddaraf o bob cwr o'r tirlun addysg. Maent yn rhoi canllawiau i gofrestreion am nifer o faterion, a gallant eu helpu i gydymffurfio â'r Cod.

PDP

Rydym wedi bod yn gweithio gyda nifer o sefydliadau yng Nghymru i ddatblygu templedi dwyieithog arbennig yn y PDP i staff gofnodi eu dysgu a datblygiad proffesiynol. Does dim contractau na ffioedd, ac mae'r tîm ar gael i roi cefnogaeth i chi. Os oes diddordeb gan eich sefydliad mewn gweithio gyda ni, neu os hoffech i ni ei ddangos i chi, This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

Eisiau hysbysebu eich swydd am ddim?

Mae porthol swyddi Addysgwyr Cymru yn hysbysebu cannoedd o swyddi gwag ar draws y sector addysg. Gall sefydliadau addysg yng Nghymru bostio eu swyddi am ddim, gan arbed miloedd o bunnoedd, pan fo cyllidebau'n dynn. Galwch gael mynediad at dros 10,000 o weithwyr proffesiynol drwy bostio eich swyddi ar Addysgwyr Cymru heddiw.

Dosbarth meistr - ymarfer myfyriol ar gyfer datblygiad proffesiynol

Ymunwch â ni ar gyfer Dosbarth Meistr CGA, ar y cyd gyda Datgloi Arweinyddiaeth AGAAC, lle bydd Carol Campbell o Brifysgol Glasgow, fydd yn arwain trafodaeth ar ddysgu proffesiynol a gwelliant addysgol. Peidiwch â cholli allan, mynnwch eich tocyn am ddim nawr.

Digwyddiadau'r haf

Byddwn ni mewn nifer o ddigwyddiadau yr haf yma, gan gynnwys eisteddfodau'r Urdd a'r Genedlaethol, Pride, Mela, y Sioe Fawr, a Tafwyl. Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol am fwy o wybodaeth, a dewch i ddweud helo wrth y tîm.

Hysbysu polisi

Ymgynghoriad cofrestru'r gweithlu gofal plant a gwaith chwarae

Darllenwch ein hymateb i ymgynghoriad diweddar Llywodraeth Cymru ar gofrestru'r gweithlu gofal plant a gwaith chwarae.

Rhag ofn i chi ei fethu

Cyfarfod nesaf ein Cyngor

Bydd cyfarfod nesaf y Cyngor yn cael ei gynnal yn ein swyddfeydd yng Nghaerdydd, ddydd Iau 4 Gorffennaf 2024. Mae mwy o wybodaeth, ar ein gwefan, gan gynnwys sut i ymuno â'r cyfarfod.

Parhau i gydnabod gwaith ieuenctid o safon

Yn dilyn proses o ail-dendro, byddwn yn parhau i ddarparu'r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI) nes mis Mawrth 2025.

Os oes diddordeb gan eich sefydliad yn cael mwy o wybodaeth am gael eich achredu, ewch i'r wefan.