Diweddaru eich manylion
Rydych chi'n gyfrifol am sicrhau bod eich manylion ar y Gofrestr yn gyfredol. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn gallu anfon gwybodaeth bwysig atoch chi, gan gynnwys cadarnhau eich cofrestriad. Gallwch ddiweddaru eich manylion ar y ffurflen fer hon, neu drwy fewngofnodi i'ch cyfrif FyCGA.
Cofrestru a Rheoleiddio
Gwrandawidau a'u canlyniadau
Mae'n rhaid i gofrestreion ddilyn y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol. Weithiau, gall pethau fynd o'i le. Os fydd hyn yn digwydd, rydym yn ymchwilio i, ac ystyried p'un a i gymryd unrhyw gamau. Mae hyn yn diogelu'r cyhoedd, ac hefyd yn hyrwyddo a chynnal proffesiynoldeb yn y gweithlu addysg.
Mae gwrandawiadau i ddod, a chanlyniadau gwrandawiadau ar ein gwefan.
Diweddariadau'r Cyngor
Cyfarfodydd y Cyngor
Bydd y cyfarfod nesaf y Cyngor ddydd Iau 16 Tachwedd 2023. Os hoffech ddod, mae gwybodaeth ar arsylwi ar ein gwefan.
Canllawiau, adnoddau, a gwasanaethau proffesiynol
Siarad yn Broffesiynol
Byddwch yn barod i blymio dyfnderoedd gwyddor ac addysg wybyddol, wrth i'r Athro Shaaron Ainsworth arwain ein darlith flynyddol Siarad yn Broffesiynol 2024, 'Datgloi dirgelion dysgu'. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar 24 Ionawr 2024. Cadwch lygad ar y cyfryngau cymdeithasol a'r wefan am fwy o wybodaeth ar sut i gadw'ch lle yn yr wythnosau nesaf.
PDP
Ydych chi wedi defnyddio eich Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP)? Mae'n declyn hyblyg, ar-lein, sydd wedi ei greu i'ch cefnogi chi ar eich taith ddysgu proffesiynol.
Addysgwyr Cymru
Mae Addysgwyr Cymru yn darparu gwasanaeth recriwtio, eirioli a gwybodaeth i unigolion sy'n ystyried gyrfa mewn addysg, neu'n chwilio i bellhau eu gyrfa fel addysgwyr. Mae hyn yn cynnwys ysgrifennu ceisiadau a CV, a gweithdai sgiliau cyfweld.
I gael y swyddi, hyfforddiant a gwybodaeth gyrfaoedd diweddaraf, ewch i wefan Addysgwyr Cymru.
Fframwaith datblygu proffesiynol ôl-16
Ry'n ni wedi bod yn gweithio gydag ymarferwyr a rhanddeiliaid i ddatblygu fframwaith datblygu proffesiynol ôl-16 ar gyfer ymarferwyr AB, DSW, a dysgu fel oedolion. Mae'r fframwaith yn dod â chyngor, canllawiau a theclynnau ynghyd i gefnogi ymarferwyr ar eu taith ddysgu broffesiynol.
Ry'n ni hefyd wedi gweithio gyda phartneriaid i greu safonau proffesiynol newydd ar gyfer arweinwyr AB a DSW. Bydd adnoddau ychwanegol i annog arweinwyr a chefnogi staff i gydweithio gyda'r safonau newydd yn cael eu hychwanegu at y fframwaith yn 2024.
Meddwl Mawr
Angen help yn ymgysylltu gydag ymchwil a darllen fel rhan o'ch dysgu proffesiynol parhaus? Cofrestrwch i dderbyn Meddwl Mawr, ein clwb llyfrau misol, ble ry'n ni'n argymell cyhoeddiadau all eich helpu yn eich gwaith o ddydd i ddydd.
Gwobrau MAGI diweddar
Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cael y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yn ddiweddar.
Gwobrau efydd:
- Prince’s Trust
- Gwasanaeth Ieuenctid Casnewydd
- Vibe Youth
Gwobr arian:
- Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili
Gwobr aur:
- Gwasanaeth Ieuenctid Conwy
Recriwtio aseswyr marc ansawdd
Rydym yn chwilio am aseswyr newydd. Mae'r rôl yn un werthfawr, ysgogol ac yn cynnig cyfle datblygu proffesiynol parhaus ardderchog. I gael mwy o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i'r wefan.
Hysbysu Polisi
Rhyddhau ystadegau’r gweithlu diweddaraf
Yn ddiweddar fe wnaethom gyhoeddi Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg 2023. Mae'r data diweddaraf yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i wneuthuriad y gweithlu addysg. Gallwch ddarllen yr adroddiadau data ar ein gwefan.
Ymateb i ymgynghoriadau
Rydym yn ymateb i ymgynghoriadau gan sefydliadau eraill, er mwyn cyfrannu at, a dylanwadu ar ddatblygu polisi ym mudd cofrestreion. Gallwch ddarllen ein hymatebion diweddaraf i ymgynghoriadau ar ein gwefan.
Rhag ofn i chi ei fethu
Sgwrsio gyda CGA
Mae pennod ddiweddaraf ein podlediad yn dilyn o'r digwyddiad Dosbarth Meistr ym mis Mai, ac rydym yn croesawu rhai o'r panelwyr yn ôl i ateb eich cwestiynau. Gallwch wrando ar y bennod ar ein gwefan, neu chwilio amdano ble bynnag ry'ch chi'n gwrando ar bodlediadau.
Gwefan newydd
Fel sefydliad ry'n ni wedi ymrwymo i fod yn gynhwysol. Mae'r wefan newydd wedi ei chreu fel bod pawb yn gallu deall ein gwaith ac ymgysylltu â ni.
Addewid gwrth-hiliaeth
Fe wnaethom ymuno gyda 1,500 o sefydliadau ym mis Awst, a llofnodi addewid Dim Hiliaeth Cymru Race Council Cymru. Darllenwch fwy am yr addewid, a beth mae'n golygu ar ein gwefan.
Adroddiad blynyddol a chyfrifon
Ym mis Awst, fe wnaethom gyhoeddi ein cyfres o adroddiadau blynyddol, gan gynnwys ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon, Adroddiad Monitro Safonau'r Gymraeg, Adroddiad Blynyddol Priodoldeb i Ymarfer, ac Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol.
Digwyddiad dosbarth meistr
Os wnaethoch chi golli ein digwyddiad Dosbarth meistr "Dy'n ni ddim yn dweud wrth ry athrawon": deall a mynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol mewn lleoliadau addysg, mae recordiad o'r prif ddigwyddiad ar gael ar ein sianel YouTube.
Blog
Ry'n ni wastad yn chwilio am gyfraniadau i'n blog. Os oes pwnc ry'ch chi'n frwd drosto, ac am ei rannu gyda'ch cyd-gofrestreion,
Dilynwch ein sianeli
Gallwch gael y newyddion diweddaraf gan CGA ar Twitter, Facebook, LinkedIn, YouTube ac ar y wefan hon.