Dewiswch eich iaith
Fel unigolyn cofrestredig gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, mae gennych gofnod unigol ar ein Cofrestr o ymarferwyr addysg. Mae'n bwysig bod yr wybodaeth sydd gennym amdanoch yn gywir ac yn gyfoes. Mae hyn yn ein helpu i rannu gwybodaeth ddefnyddiol a pherthnasol gyda chi. Bydd y data a ddarperir yn cael ei ddefnyddio i ddiweddaru eich cofnod ar y Gofrestr o ymarferwyr addysg, y mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i’w chynnal.
Efallai bod gennym ni rywfaint o’r wybodaeth hon amdanoch chi eisoes, ond mae’n debygol nad yw’r cyfan gennym ni, neu nad yw’n gyfredol. Rydym yn eich annog i wirio’ch gwybodaeth trwy fewngofnodi i’ch cyfrif ‘MyEWC’. Os nad ydych wedi mewngofnodi o'r blaen bydd angen i chi greu cyfrif. Unrhyw faterion, cysylltwch â'r tîm Cofrestru ar 029 2046 0099.
Fel arall, gallwch lenwi'r ffurflen ar-lein ddiogel hon a bydd y wybodaeth hon yn cael ei gwirio ochr yn ochr â'n system a phan nodir newidiadau, byddant yn cael eu diweddaru. Os yw'r wybodaeth yn cyd-fynd â'n system ni, ni fydd unrhyw newidiadau'n cael eu gwneud.
Mae ein rhybudd preifatrwydd yn esbonio pam mae’r data yn cael ei gofnodi ar y Gofrestr a sut mae’n cael ei ddefnyddio. Eich preifatrwydd yw ein blaenoriaeth, rydym yn ymfalchïo wrth brosesu eich gwybodaeth yn deg, yn gyfreithlon ac yn ddiogel yn unol â'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol. Diolch am ein helpu ni.
Cysylltwch ag ystadegau@cga.cymru ar gyfer unrhyw ymholiadau neu i dderbyn copi o'r ffurflen hon mewn fformat arall yn unol â'n cynllun cyhoeddi amgen.
Diolch am ein helpu ni.
*Os ydych yn newid eich teitl, anfonwch brawf adnabod i cofrestru@cga.cymru
Nodwch eich cymhwyster uchaf
* Os ydych wedi cael cymhwyster newydd a heb ei ddilysu drwy anfon copi digidol o'ch tystysgrif atom, bydd angen i chi wneud hyn drwy anfon e-bost at cofrestru@cga.cymru
Teitl y cymhwyster (e.e. PhD, meistr, Gradd, PGCE, Diploma, NVQ, BTEC, HND, HNC, HLTA, NPQH, CACHE)
Corff neu sefydliad dyfarnu
Blwyddyn dyfarnu
Dosbarth neu lefel y dyfarniad (e.e. llwyddiant)
Pwnc neu bynciau a astudiwyd
Cysylltwch ag ystadegau@cga.cymru i dderbyn copi o'r ffurflen hon mewn fformat arall yn unol â'n cynllun cyhoeddi amgen.
Ry’n ni wedi ail-ddylunio ein gwefan i wella’r gwasanaeth a’r profiad ry’ch chi’n ei gael. I roi adborth ar y wefan newydd, cysylltwch â This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.