Diogelu'r proffesiwn a'r cyhoedd
Rhestr wirio blwyddyn academaidd newydd i gyflogwyr
Dyma rhai camau cyflym i'ch helpu i gefnogi eich staff ac i sicrhau cydymffurfio:
- gwnewch yn siŵr bod eich staff wedi cofrestru - cofiwch fod yn rhaid i chi sicrhau eich bod ond yn cyflogi'r rheiny sydd wedi cofrestru, yn y categori cywir ar gyfer y gwaith maen nhw'n ei wneud
- edrych ar y canllawiau a'r adnoddau sydd ar gael - o ganllawiau arfer da i hyfforddiant a gweminarau, gall y rhain helpu eich staff fewnosod y Cod yn eu hymarfer
- gweld sut y gall y PDP eich cefnogi chi a'ch staff - creu a datblygu adnoddau ar gyfer anghenion unigryw eich sefydliad (mwy ar hyn isod)
Astudiaethau achos PiY
Yn ein hastudiaeth achos Priodoldeb i Ymarfer (PiY) diweddaraf, rydym yn edrych ar esiampl o pan gafodd cofrestrai eu tynnu oddi ar y Gofrestr yn dilyn achos o ymddygiad amhriodol tuag at ddysgwyr. Mae'r astudiaethau achos yn seiliedig ar enghreifftiau go iawn, ac wedi eu creu i roi pwyntiau dysgu gwerthfawr i gofrestreion gynnal a chydymffurfio gyda'r Cod, a diogelu eu cofrestriad.
Gwrandawiadau priodoldeb i ymarfer
Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am wrandawiadau i ddod, a chanlyniadau gwrandawiadau ar ein gwefan. Caiff y mwyafrif o'n gwrandawiadau eu clywed yn gyhoeddus, sy'n golygu y gallwch ymuno fel arsyllwr. Mae gwybodaeth ar wrandawiadau i ddod a sut i fynychu ar dudalennau priodoldeb i ymarfer.
Diweddariadau'r Cyngor
Cyhoeddi adroddiadau blynyddol
Dros yr haf, fe wnaethom gyhoeddi nifer o adroddiadau statudol blynyddol, a gallwch eu darllen ar ein tudalen cynlluniau ac adroddiadau corfforaethol.
Ai chi yw ein Prif Weithredwr newydd?
Rydym yn chwilio am Brif Weithredwr profiadol â gweledigaeth i arwain ein cyfeiriad strategol a'n gweithrediadau. Os hoffech wybod mwy am y rôl, ewch i wefan Goodson Thomas.
Canllawiau, adnoddau, a gwasanaethau proffesiynol
Defnyddio'r PDP i gefnogi cyflogwyr/unigolion
Rydym wedi creu animeiddiad byr yn amlygu buddion y Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) i'ch sefydliad.
Rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau, gan ddatblygu templedi wedi eu teilwra yn arbennig ar gyfer eu hanghenion unigryw i gefnogi datblygiad proffesiynol a myfyrio ymarferwyr.
Os oes diddordeb gyda chi'n darganfod sut gall y PDP helpu cefnogi eich sefydliad,
Canllawiau arfer da
Rydym wedi cyhoeddi canllaw arfer da newydd gyda'r bwriad o helpu cefnogi iechyd meddwl a lles dysgwyr a phobl ifanc. Mae'r canllaw yn canolbwyntio ar ddarparu cyngor ymarferol i helpu cofrestreion i nodi pan fod angen help ar unigolion a sut i ymateb i'w hanghenion. Rydym hefyd wedi diweddaru ein canllaw arfer da ar iechyd meddwl a lles cofrestreion. Mae'r canllawiau hyn, a'n canllawiau eraill i gyd ar gael ar ein gwefan.
Llongyfarchiadau i ddeiliaid newydd y MAGI
Llongyfarchiadau i Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion am gael eu marc ansawdd efydd, ac i Ddug Caeredin Cymru, YMCA Caerdydd, a Ieuenctid Conwy, ar adnewyddu eu rhai nhw.
Os ydych chi neu rywun yr ydych yn eu hadnabod yn ymwneud â gwaith ieuenctid ac am roi nôl, ry'n ni wastad yn chwilio am aseswyr marc ansawdd newydd. Mwy o wybodaeth a chyfle i wneud cais ar ein gwefan.
Hysbysu polisi
Digwyddiad briffio ystadegau blynyddol y gweithlu addysg
10:30-12:00, 14 Hydref 2025
Fe wnaethom gyhoeddi Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg yng Nghymru 2025 ym mis Gorffennaf, yn rhoi manylion y gweithlu addysg yng Nghymru.
I gyd-fynd â'r adroddiad, byddwn yn cynnal digwyddiad briffio fydd yn cynnwys trosolwg o'r data, yn ogystal â mewnwelediadau a thueddiadau allweddol. Am y tro cyntaf eleni, bydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth ar ymarferwyr dysgu oedolion, a phenaethiaid neu uwch arweinwyr yn gweithio mewn addysg bellach. Cadwch eich lle am ddim nawr.
Rhag ofn i chi ei fethu
Diolch am ddod
Diolch i bawb ddaeth i'n gweld yn yr amryw ddigwyddiadau dros yr haf. Roedd hi'n hyfryd cael cyfle i siarad gyda chofrestreion, rhieni/gwarcheidwaid, a dysgwyr o bob oed am ein gwaith, ateb cwestiynau, a siarad am ein gwaith. Mae dal ychydig mwy cyn diwedd y flwyddyn, gan gynnwys y Sioe Addysg Genedlaethol yng Nghaerdydd ym mis Hydref. Os fyddwch chi yno, dewch draw i ddweud helo.
Oes rhywbeth gyda chi i'w rannu?
Rydym ni wastad yn chwilio am gyfranwyr i'n blog a'n podlediad, Sgwrsio gyda CGA. Os ydych chi'n meddwl bod rhywbeth gyda chi i'w gyfrannu i bodlediad, yn arbennig ym meysydd gwyddoniaeth, ac arfer gwrth-hiliaeth, cysylltwch â ni. Yn yr un modd, os oes gyda chi flog neu syniad am flog,