Cyflwyniad
Pan fyddwch yn anfon eich plant i’r ysgol neu’r coleg, rydych chi’n ymddiried yn y staff sy’n gweithio yno i’w cadw’n ddiogel.
Yng Nghymru, mae’n rhaid i unrhyw un sy’n gweithio fel athro neu weithiwr cymorth dysgu mewn ysgol neu leoliad addysg bellach, gweithiwr ieuenctid/gweithiwr cymorth ieuenctid cymwysedig, neu ymarferwr dysgu seiliedig ar waith, gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Ar hyn o bryd, mae hynny’n cynnwys dros 95,000 o unigolion.
Mae disgwyl i bawb sy’n cofrestru ddilyn Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol CGA.
Nod y gofynion hyn yw helpu amddiffyn nid yn unig dysgwyr a phobl ifanc, ond chi fel rhieni a gwarcheidwaid hefyd.
Diben y ddogfen hon yw dweud wrthych am y gofynion ar ymarferwr cofrestredig ac esbonio beth yw eich hawliau fel rhiant/gwarcheidwad os bydd cofrestrai’n torri’r Cod.
Hayden Llewellyn - Prif Weithredwr, Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA)
Jason Elsom - Prif Weithredwr, Parentkind
Gwybodaeth am CGA
Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw’r rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru.
Ein swyddogaeth graidd yw rheoleiddio er budd y cyhoedd. I wneud hyn, rydym yn cynnal Cofrestr o Ymarferwyr Addysg sy’n gymwys i weithio mewn ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid, dysgu seiliedig ar waith, ac addysg oedolion yn y lle cyntaf. Yn ail, rydym yn cyhoeddi Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol sy’n cyflwyno’r safonau a ddisgwylir gan y rhai sydd wedi cofrestru. Yn drydydd, rydym yn ymchwilio i honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol, a/neu droseddau perthnasol, ac yn clywed gwrandawiadau arnynt.
Rydym yn gwneud hyn i amddiffyn dysgwyr, pobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid a’r cyhoedd.
Yn ogystal â’n gwaith rheoleiddio, rydym hefyd yn:
- cynorthwyo cofrestreion i allu cyflwyno’r safonau proffesiynol uchaf trwy ddarparu gwybodaeth, adnoddau a gwasanaethau defnyddiol a luniwyd i gynnig arweiniad a chyfarwyddyd
- ceisio cyfleoedd i lywio a dylanwadu ar bolisi addysg yng Nghymru
- hyrwyddo gyrfaoedd mewn addysg yng Nghymru trwy wefan Addysgwyr Cymru a gwasanaeth eiriolaeth
Gwybodaeth am Parentkind
Mae Parentkind, sy’n elusen ffederal genedlaethol, yn rhoi llais ym maes addysg i bobl â rôl magu plant. Rydym yn buddsoddi adnoddau sylweddol mewn cynrychioli safbwyntiau rhieni am ddysgu eu plant gerbron llywodraethau ac asiantaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Dywed tystiolaeth wrthym fod pob plentyn ym mhob ysgol a chymdeithas yn gyfan gwbl yn elwa pan fydd rhieni’n cymryd rhan mewn addysg.
Mae rhwydwaith Parentkind o 12,500 o Gymdeithasau Rhieni ac Athrawon yn ysgogi dros 100,000 o wirfoddolwyr i godi dros £120 miliwn yn flynyddol i ariannu offer a gwasanaethau hanfodol i’n hysgolion. Mae’r ymdrech ragorol hon yn codi swm tebyg i brif elusennau’r DU.
Beth yw cofrestru?
Mae cofrestru gyda CGA yn golygu bod gan y bobl sy’n gweithio gyda’ch plant y sgiliau a’r wybodaeth gywir i ymarfer yn ddiogel ac yn effeithiol, a’n bod ni wedi asesu eu haddasrwydd i gofrestru.
Gallwch wirio bod y staff sy’n gweithio gyda’ch plant wedi cofrestru gan ddefnyddio’ch mynediad cyhoeddus i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg. Yno, gallwch hefyd weld unrhyw unigolion sydd â gorchmynion disgyblu ar hyn o bryd.
Beth yw’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol
Ar ôl cofrestru gyda ni, mae cofrestreion yn ymrwymo i ddilyn ein Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol (y Cod). Mae’r Cod yn amlinellu’r safonau y disgwylir eu gweld gan gofrestreion, yn y gwaith a’r tu hwnt.
Mae’r Cod hefyd i ddysgwyr, pobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid a’r cyhoedd i ddeall pa ymddygiadau y gallant eu disgwyl gan berson cofrestredig.
Mae codau ymddygiad ac ymarfer yn gyffredin ar draws proffesiynau, gan gynnwys nyrsys, meddygon, deintyddion a chyfreithwyr.
Wrth ddilyn Cod CGA, mae cofrestreion yn ymrwymo i gynnal pum egwyddor allweddol:
- Cyfrifoldeb Personol a Phroffesiynol
- Uniondeb Proffesiynol
- Gweithio Cydweithredol
- Gwybodaeth a Dealltwriaeth Broffesiynol
- Dysgu Proffesiynol
Rydym yn cynnig llawer o gymorth, sy’n helpu pobl i ddeall a defnyddio’r Cod. Mae hyn yn cynnwys sesiynau hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth am ddim, a chanllawiau arfer da sy’n cynnig awgrymiadau a syniadau defnyddiol. Os byddai trefnu sesiwn i’ch grŵp neu sefydliad o ddiddordeb i chi,
Codi pryderon gyda CGA
Mae’r rhan fwyaf o’r atgyfeiriadau a gawn yn dod oddi wrth gyflogwyr ac maent yn cynnwys honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol a/neu euogfarn o drosedd berthnasol. Fel rhiant/gwarcheidwad, gallwch hefyd godi pryder â ni am un o’n cofrestreion os ydych chi o’r farn eu bod wedi torri’r Cod.
Os byddwch chi’n penderfynu codi pryder, rydym yn awgrymu’n gryf eich bod yn darllen ein canllawiau gyntaf oherwydd bydd angen i chi wneud rhai pethau cyn cysylltu â ni.