Cerys Bethan Warren – 10 Hydref 2025
Dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 6-10 Hydref 2025, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach, athro addysg bellach, a gweithiwr cymorth dysgu ysgol, Cerys Warren.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei bod wedi ei chyflogi fel gweithiwr cymorth dysgu ychwanegol yng Ngholeg y Cymoedd, bod Mrs Warren:
- ar 21 Mai 2024, wedi dileu un neu fwy o ddogfennau am ddysgwr 2 o systemau cyfrifiadurol y Coleg, oedd:
- yn berthnasol i ymchwiliad disgyblu yn ei herbyn
- yn ddogfennau pwysig i iechyd a diogelwch dysgwr 2
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor bod ymddygiad Mrs Warren yn anonest, ac yn arddangos diffyg hygrededd.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd (heb amodau) ar gofrestriad Mrs Warren fel gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach, athro addysg bellach, a gweithiwr cymorth dysgu ysgol am gyfnod o 6 mis (rhwng 10 Hydref 2025 a 10 Ebrill 2026). O'r herwydd ni fydd Mrs Warren yn gallu gweithio fel person cofrestredig (gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach, athro addysg bellach), sy'n darparu gwasanaethau arbennig i neu ar gyfer sefydliad addysg bellach ar gyfer cyfnod y Gorchymyn Gwahardd na fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol mewn ysgol a gynhelir neu ysgol arbennig nas cynhelir yng Nghymru am gyfnod y Gorchymyn.
Mae gan Mrs Warren yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.