CGA / EWC

About us banner
Creu eich Portffolio Personol gyda’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP)
Creu eich Portffolio Personol gyda’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP)

Mae eich Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) yn fwy na dim ond lle i gofnodi eich DPP. Gall fod yn adnodd pwerus hefyd i greu portffolio personol sy’n arddangos eich sgiliau a’u cyflawniadau.

  • Dyddiad: 6 Mawrth 2025
  • Amser: 16:00-16:30
  • Lleoliad: Microsoft Teams (darperir dolen wrth gofrestru)

Ymunwch â’n gweminar am ddim sydd ar ddod, lle byddwn yn dangos sut gallwch chi, gan ddefnyddio’r PDP, wneud y canlynol:

  • llwytho a threfnu eich profiadau a’ch cymwysterau yn effeithiol
  • plannu cynnwys aml-gyfrwng o blatfformau fel YouTube a Canva
  • cysylltu eich portffolio â’ch CV, ceisiadau am swyddi, a chofnodion datblygiad proffesiynol
  • dylunio tudalennau proffesiynol yr olwg i’ch hyrwyddo chi a’ch gwaith
  • rhannu eich portffolio gyda chyflogwyr a rhanddeiliaid

Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i wneud y mwyaf o’ch PDP a chymryd rheolaeth ar eich proffil proffesiynol.

Cadwch eich lle am ddim nawr.