15 Hydref 2024
Roedd y briffiad hwn yn dod yn sgil cyhoeddi Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg 2024.
Rhoddodd y cyflwynwyr drosolwg o'r ystadegau, gyda ffocws penodol ar y tueddiadau allweddol a nodwyr. Am y tro cyntaf yn 2024, mae hyn yn cynnwys gwybodaeth ar athrawon a staff cymorth dysgu sy'n gweithio mewn ysgolion a cholegau annibynnol.
Mae Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg 2024 yn cynnwys ein set fwyaf cynhwysfawr o ddata hyd heddiw, gan gynnwys dros 90,000 o ymarferwyr addysg cofrestredig, mewn ysgolion, addysg bellach (AB), dysgu'n seiliedig ar waith, addysg oedolion, a gwaith ieuenctid yng Nghymru.
Yn dilyn y cyflwyniad, roedd cyfle i'r rhai oedd yn bresennol holi cwestiynau ar y data a gyflwynwyd, a sut gall lywio cynllunio'r gweithlu i'r dyfodol.
Cyflwyniad y briffiad (PDF)
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Cwestiynau a ofynnir yn y digwyddiad
Rydym yn deall bod ymarferwyr addysg oedolion wedi ymuno â’r Gofrestr erbyn hyn. Gallwch chi roi diweddariad i ni ar hynt hynny a faint sydd wedi ymuno?
Mae’r broses honno wedi mynd yn dda. Mae 240 o ymarferwyr addysg oedolion (unigol) wedi ymuno â’r Gofrestr ers 10 Mai 2024, pan gyflwynwyd y gofyniad i gofrestru. Mae 273 arall wedi cofrestru yng nghategori’r ymarferwyr addysg oedolion, ynghyd ag un categori cofrestru arall neu fwy, er enghraifft ymarferydd addysg oedolion ac athro addysg bellach.
Mae nifer fawr o atebion ‘ddim yn gwybod’ ar gyfer categorïau gweithwyr ieuenctid cymwysedig a gweithwyr cymorth ieuenctid cymwysedig. A yw’r diffyg hwn oherwydd diffyg hunanadrodd, neu ddiffyg gwybodaeth gan adrannau AD?
Mae nifer fawr o atebion ‘ddim yn gwybod’ mewn meysydd hunanadrodd, er enghraifft gallu o ran y Gymraeg, ac ethnigrwydd. Rydym yn annog cofrestreion i lenwi’r meysydd hynny.
Beth yn union yw ‘gallu i weithio yn Gymraeg’? Hefyd, pa ymdrechion sy’n cael eu gwneud i wella data ‘ddim yn gwybod’?
Mae’r gallu i weithio yn Gymraeg yn cael ei gofnodi ar y Gofrestr fel unigolion sydd wedi cael eu hyfforddi i weithio, sy’n gallu gweithio, neu sydd wedi gweithio rywbryd trwy gyfrwng y Gymraeg neu sy’n teimlo’n hyderus i wneud hynny.
Rydym ni’n annog cofrestreion i lenwi’r meysydd hyn ac mae cyfran yr atebion ‘ddim yn gwybod’ bellach yn gymharol isel.
A fydd gweithwyr proffesiynol sy’n addysgu mewn carchardai yn cael eu cofrestru gyda CGA yn y dyfodol?
Nid oes unrhyw gynlluniau presennol gan Lywodraeth Cymru i newid deddfwriaeth a chofrestru gweithwyr proffesiynol sy’n addysgu mewn carchardai.
Rwy’n deall bod cymwysterau gofynnol gweithwyr cymorth ieuenctid nawr yn gofyn am lefel 3. A oes gennych unrhyw syniad faint fydd yn gadael y Gofrestr ar ôl i’r newid hwn ddod i rym?
Rydym yn rhagweld mai tua 100 o gofrestreion fydd hyn, yn ôl pob tebyg. Fodd bynnag, gall y ffigur hwn fod yn is, yn dibynnu ar nifer yr unigolion hynny sy’n cwblhau’r cymhwyster lefel 3 gofynnol cyn Mai 2025.
A oes unrhyw syniad pam mae nifer y darpar athrawon uwchradd yn gostwng yn sylweddol, ond mae nifer y rhai cynradd yn weddol iach o hyd?
Rydym wedi cyflwyno data ar recriwtio a chadw yn y sector uwchradd mewn briffiau polisi blaenorol, ond mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn edrych arno eto yn y dyfodol.
Beth yw’r goblygiadau i’r sector o ran ANG sydd wedi hyfforddi yn Lloegr? Sut mae hyn yn effeithio ar elfennau Cymreig penodol, fel Cwricwlwm i Gymru?
Mae unrhyw un sy’n ymgymryd â hyfforddiant athrawon yn Lloegr ac sy’n ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC) yn gallu addysgu yng Nghymru. Bydd yn ofynnol i’r unigolion hynny ymgymryd â sefydlu yng Nghymru sy’n gysylltiedig â Chwricwlwm i Gymru.
A oes data pellach am y rhesymau dros ddat-gofrestru?
Rydym wedi dechrau casglu data am y rhesymau dros ddadgofrestru. Bydd hwn ar gael yn y dyfodol.
A fyddwch chi’n cyhoeddi’r ffigurau cymharol blynyddol o ran athrawon sy’n cael eu hyfforddi yn Gymraeg?
Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi o flwyddyn nesaf ymlaen.
A yw ffigurau eleni ar gael ar gyfer addysg gychwynnol athrawon (AGA) eto?
Ni fydd y data hwn ar gael tan y flwyddyn nesaf.
Gan edrych ar nifer yr ysgolion annibynnol yng Nghymru, pa mor sicr ydym ni o ran ffigurau’r athrawon cofrestredig mewn ysgolion annibynnol?
Mae’n ofyniad cyfreithiol fod holl athrawon ysgolion annibynnol, gweithwyr cymorth dysgu annibynnol, athrawon ôl-16 arbennig annibynnol, a gweithwyr cymorth dysgu ôl-16 arbennig annibynnol wedi cofrestru gyda ni. Rydym wedi gweithio gyda chyflogwyr i sicrhau eu bod yn cydymffurfio.