Ym Mehefin 2022, dathlom Wythnos Gwaith Ieuenctid gyda digwyddiad arbennig i ddangos y cyfraniad amhrisiadwy mae gwaith ieuenctid yn ei wneud i bobl ifanc yn y sector addysg yn ei gyfanrwydd. Gyda Jim Sweeney (cyn Brif Weithredwr YouthLink Scotland) yn siaradwr gwadd, clywom sut y mae e a'i gydweithwyr wedi defnyddio partneriaethau arloesol gydag ysgolion, colegau, chwaraeon, iechyd, tai, gofal cymdeithasol a chyfiawnder i ddefnyddio pŵer gwaith ieuenctid i gefnogi pob person ifanc. Hefyd, clywom sut gwnaeth pobl ifanc eu hunain siapio'r partneriaethau hyn.
Rhoddodd Jim gipolwg ar rai o'r ymdriniaethau wnaeth ragflaenu sector unedig â ffocws yn yr Alban, a rhannu'r heriau a'r gwersi y gallwn ni ddysgu ohonynt a myfyrio arnynt yma yng Nghymru.
Gofynnwyd rhai cwestiynnau nad oedd amser i’w hateb yn y sesiwn. Mae Jim Sweeney wedi eu hateb erbyn hyn a gallwch eu darllen yma.
Sut gall ysgolion, gan ddefnyddio’r ddarpariaeth ‘dysgu trwy chwarae’ yng Nghymru, gefnogi plant yn well, yn enwedig gan fod llai o incwm gwario gan deuluoedd i gyfoethogi bywydau eu plant? Beth yw’r ffordd orau o roi hynny ar waith ymhellach na blwyddyn 2?
Yn gyntaf, cyfaddefiad. Nid wyf yn gwybod unrhyw beth am ddarpariaeth feithrin/plant cynradd bresennol Cymru, na beth sy’n cael ei gynnig yn eich datblygiadau Cwricwlwm newydd.
Os oes gweithwyr cymorth rhieni gwirfoddol a statudol mewn meithrinfeydd ac ysgolion cynradd, yna un elfen fawr o’u rôl yw gweithio’n agos gyda rhieni/gofalwyr ifanc a’r rheiny o grwpiau difreintiedig, ethnig neu grwpiau eraill sy’n agored i niwed. A darparu cyfleoedd dysgu oedolion a chyfleoedd meithrin hyder i rieni, a chynnal y myrdd o adnoddau llyfrau /digidol /chwarae adeiladol a chymhorthion dysgu eraill i’r plant, gan gynnwys dysgu yn yr awyr agored.
Ni ellir ac ni ddylid gadael dysgu yn nwylo athrawon dosbarth yn unig. Mae cymuned yn bwysig, ac fel y dywed y Ddihareb Affricanaidd “fe gymer pentref cyfan i addysgu plentyn”.
Testun fy nhraethawd ymchwil ar gyfer fy ngradd meistr oedd gweithio gyda rhieni ysgolion cynradd, a’i gynsail oedd mai rhieni yw prif addysgwyr eu plant o hyd.
Maes allweddol arall yw gwaith cyn-mynediad a gwaith pontio gyda rhieni i’w helpu i ddeall y system a chynorthwyo’u gallu i lywio’u ffordd, a helpu eu plant i lywio’u ffordd, a’u galluogi i ffynnu a thyfu.
Gobeithio bod hyn yn helpu mewn rhyw ffordd.
Sut gall gwaith ieuenctid gipio a datblygu’r cyfleoedd sy’n gynhenid yn y Cwricwlwm newydd i Gymru?
Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod wedi’ch enwi fel partneriaid.
Sicrhewch fod gennych gynrychiolaeth ar yr holl weithgorau perthnasol ac anfonwch eich pobl orau.
Cyflwynwch enghreifftiau ac astudiaethau achos o’r hyn rydych chi’n ei wneud yn barod, a syniadau ac enghreifftiau sy’n cydweddu â’r deilliannau dysgu. Gwnewch yn siŵr bod pob ysgol yn eu derbyn ar ffurf copi caled yn ogystal â ffurf ddigidol.
Ffurfiwch grwpiau rhanbarthol i adlewyrchu beth bynnag yw strwythur yr ysgol neu’r coleg, a cheisiwch gael mynediad i’r grwpiau mwy a gwahoddwch bobl addysg/datblygu sgiliau ffurfiol a phobl o’r sector Addysg Bellach ac ati, i’ch grŵp chi.
Ceisiwch sicrhau eich bod yn cael eich dyfynnu gan weinidogion yn eu hareithiau ar y pwnc. Rhowch enghreifftiau cadarnhaol iddynt i’w dyfynnu.
Mae trafodaeth gyfan arall yma.
Mae ymddiriedaeth yn gysyniad diddorol… ble mae’r lle gorau iddo mewn corff cenedlaethol fel Youthlink Scotland?
Mae’n rhaid ennill ymddiriedaeth o hyd, ac ni ellir fyth ei gymryd yn ganiataol. Fodd bynnag, er mwyn i’r rhan fwyaf o bethau weithio, mae’n rhaid i ni ddeall ac ymrwymo i’r cysyniad ar gyfer beth y mae, a deall a chytuno gyda’r prosesau a’r gwiriadau a’r cydbwyseddau sydd ar waith yn y model gweithio.
- Gwneud nifer gyfyngedig o bethau yn dda iawn
- Sicrhau ymrwymiad ar eu cyfer
- Deall y cysyniad “Asiantaeth” a phwysigrwydd model aelodaeth
- Mae llwyddiannau cyflym gyda digwyddiadau codi calon yn mynd yn bell. Mae’n rhaid i’n sector gredu ynddo’i hun a theimlo’n dda amdano’i hun
- Ac mae’n rhaid iddo hawlio’i diriogaeth wrth barhau yn bartner gwerthfawr gyda rhai eraill.
Pa mor hir yw darn o linyn - fe allwn fynd ymlaen.. O leiaf un drafodaeth fewnol werthfawr arall i’w chynnal.
Ynghylch y siaradwr
Jim Sweeney, MBE MSc Dip YCS. MCLDSC
Mae gyrfa Jim Sweeney yn rhychwantu 46 o flynyddoedd mewn swyddi proffesiynol gwasanaeth ieuenctid a'r gymuned yn yr Alban. Bu'n gweithio am 33 mlynedd mewn swyddi awdurdodau lleol cyn dod yn Brif Weithredwr YouthLink Scotland, yr asiantaeth genedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid yn 2006. Bu'n gweithio am 13 mlynedd nes iddo ymddeol yn 2018.
Mae ei gyrhaeddiad a'i ran yn datblygu polisi cenedlaethol a chreu asiantaeth oedd yn ganolog i gefnogi pobl ifanc a'r sefydliadau oedd yn gweithio gyda nhw yn adnabyddus iawn.
Roedd Jim yn rhan allweddol yn natblygiad Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol, sydd yn y trydydd iteriad, ac wedi ei gefnogi gan yr holl bleidiau ers ei greu yn 2006.
Ei gyngor i weithwyr ieuenctid newydd yw cofio bob amser "dyw pobl ifanc ddim yn poeni faint yr ydych chi'n gwybod nes eu bod yn gwybod faint yr ydych chi'n poeni amdanynt."