2 Hydref 2024, 16:00-16:30, Zoom
P'un a eich bod yn newydd i'r gweithlu addysg, neu wedi'ch cofrestru ers amser maith, bwriad y weminar yw rhoi trosolwg cynhwysfawr i chi o'n Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol.
Yn yr ail o'n cyfres o weminarau Eich CGA, byddwn yn:
- trafod diben y Cod a'r pum prif egwyddor
- rhoi esiamplau go-iawn o achosion lle gwnaeth cofrestreion fethu â chydymffurfio â'r Cod
- amlygu a'ch arwain at y canllawiau a'r adnoddau sydd gyda ni ar gael i'ch cefnogi chi i i gynnal y safonau a ddisgwylir gennych
Bydd digwyddiad yn cynnwys sesiwn holi ac ateb, fydd yn rhoi'r cyfle i holi cwestiynau.
Mae'r weminar yn addas ar gyfer cofrestreion newydd a phresennol sydd am wybod mwy am y Cod, y disgwyliad ar gofrestrai CGA, a'r gwasanaethau ry'n ni'n eu cynnig.