12 Chwefror 2025, 16:00-16:30, Zoom
Ymunwch â ni ar gyfer ein cyfres gweminarau Eich CGA, lle byddwn ni’n archwilio’r gwasanaethau a gynigir gan Addysgwyr Cymru a sut gallant fod o fudd i chi fel cofrestrai CGA.
Mae Addysgwyr Cymru, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gyflwyno gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA), yn cynnig ystod o wasanaethau sy’n dod â chyfleoedd gyrfaoedd, hyfforddiant a swyddi at ei gilydd o fewn y sector addysg yng Nghymru mewn un lleoliad, y gellir mynd ato’n hawdd.
Felly, p’un a ydych chi’n gofrestrai newydd neu eisoes yn gofrestrai, mae’r gweminar hwn yn gyfle gwych i chi ddyfnhau eich dealltwriaeth o’r gwasanaeth gwerthfawr hwn a gweld sut gall eich helpu i dyfu’n broffesiynol.
Yn y sesiwn fer a difyr hon, byddwch chi’n dysgu am y canlynol:
- y manteision a gynigir wrth ddefnyddio platfform Addysgwyr Cymru
- y gwasanaethau sydd ar gael yn rhad ac am ddim, yn cynnwys y porth swyddi, cyfleoedd i hyfforddi, a chymorth ar gyfer cael gwaith
- sut gall tîm Addysgwyr Cymru ddarparu cyngor cyffredinol am yrfaoedd mewn addysg, sydd wedi’i deilwra i’ch anghenion
- y ffyrdd gorau o gysylltu â’r tîm a manteisio ar gymorth
Hefyd, byddwch yn cael cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.