CGA / EWC

About us banner
Siarad yn Broffesiynol 2017: Y ddyfodol addysg yng Nghymru
Siarad yn Broffesiynol 2017: Y ddyfodol addysg yng Nghymru

Professionally Speaking 2017 Lge

Ar nos Lun, 8 Mai 2017 cynhaliwyd Cyngor y Gweithlu Addysg 'Siarad yn Broffesiynol' am yr ail flwyddyn yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd mewn partneriaeth â'r Brifysgol Agored yng Nghymru.

Yn dilyn noson lwyddiannus y llynedd gyda'r Athrawon John Furlong a Graham Donaldson, gwahoddwyd pedwar comisiynydd Cymru i siarad am ddyfodol addysg yng Nghymru a'r rhan y gallant ei chwarae wrth lunio polisi addysg. Y Comisiynwyr a gymerodd ran oedd:

  • Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru;
  • Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol;
  • Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg;
  • Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Cafodd y noson ei chyflwyno unwaith eto gan newyddiadurwraig ITV Cymru Wales, Catrin Haf Jones.

Bydd sleidiau o’r noson a fideo o’r digwyddiad ar y dudalen hon cyn bo hir.

Mae linc ar gyfer fideo o'r noson yma.

‘Deuparth gwaith yw ei dechrau......’

Cafodd Berni Tyler, aelod o Gyngor CGA, ei hysbrydoli i flogio ar ein cyfer ar ôl mynychu’r digwyddiad.

Berni TylerDefnyddiwyd dyfyniad gwych o Mary Poppins gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Sarah Rochira, yn ystod ei chyflwyniad ar gyfer ‘Siarad yn Broffesiynol’.

Y cwestiwn allweddol a ddefnyddiwyd i osod yr olygfa yn y digwyddiad neithiwr oedd

‘A fydd newid addysg yn gallu newid Cymru?’

Fel rhan o anerchiad Sarah, defnyddiodd y dyfyniad i arwain at drafodaeth fywiog am rôl allweddol pobl hŷn o ran llunio credoau, dyheadau a chyflawniadau dysgwyr ifanc yn y dyfodol. Roedd yn galonogol ei chlywed yn cyfeirio at brentisiaethau pob oedran a’r posibilrwydd y gallai pobl hŷn lenwi’r bylchau sgiliau y mae llawer o gyflogwyr yn eu hwynebu.

Agorwyd trafodion y noson gan Gomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, gyda chrynodeb calonogol o broffil oedran siaradwyr Cymraeg yng Nghymru a sut mae addysg, wedi’i chefnogi gan ddefnydd a datblygiad cryf o ran sgiliau iaith, yn cael effaith gadarnhaol ar y nifer y bobl ifanc sy’n siarad Cymraeg. I ddarparwyr Dysgu yn y Gwaith, mae hon yn gymaint o her o fewn rhaglenni prentisiaeth. Wrth fyfyrio ar anerchiad Meri, rwy’n credu bod angen i ni weithio i arddangos budd, ymroddiad a pherthnasedd wrth ymgysylltu ein prentisiaid â dysgu dwyieithog. Ni fydd hon yn daith hawdd, ond yn bendant, mae’n rhaid i ni lwyddo.

Cefais fy atgoffa gan Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, am bwysigrwydd llais y dysgwr a sicrhau ein bod yn clywed yr hyn sydd gan ein dysgwyr i’w ddweud a gweithredu ar eu hadborth. Soniodd am yr holl feysydd rydym wrthi yn eu hymgorffori ar hyn o bryd; diogelu, hyfforddiant sgiliau ar gyfer cynrychiolwyr dysgwyr a llythrennedd digidol.

Y siaradwr olaf oedd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, a llwyddodd i ysgogi’r meddwl! Siaradodd am hyfforddi ein dysgwyr ar gyfer swyddi nad ydynt yn bodoli hyd yn hyn, ac am ddyfodolegwyr, a sut y bydd gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd gan ‘bobl’ yn cael ei wneud gan ‘robotiaid’ yn llawer cynt nag y gallwn ddychmygu. Mae hyn yn cyflwyno cymaint o her i addysgwyr, a honno’n her mor gyffrous!

Dilynwyd hyn gan gwestiynau i’r panel a oedd yn ymwneud ag amrywiaeth o bynciau, a bu llesiant yn ffocws mawr yn y drafodaeth. Pan ofynnwyd iddynt gyflwyno eu syniad ar sut i symud addysg ymlaen yng Nghymru, yn ôl yr ymatebion, mae angen i ni:

  • Arloesi, adeiladu ar lesiant, bod yn gyfathrebwyr gwych,
  • Gweld manteision y genhedlaeth hŷn,
  • Mabwysiadu hawliau plant, bod ag ymagwedd iach,
  • Creu cenedl ddwyieithog.

Ar ôl diwrnod prysur, roedd y noson yn gyfle braf i fyfyrio, i ddysgu ac i ystyried yn strategol sut y gallwn fabwysiadu ymagwedd ehangach, nid yn unig o ran datblygu anghenion dwyieithog ein prentisiaid, ond hefyd sut y gallwn gynaeafu sgiliau gweithwyr hŷn er mwyn creu gweithwyr sy’n emosiynol gryf ar gyfer y dyfodol na allwn ei weld hyd yn hyn! Mae’n rhaid i ni gynnwys ein dysgwyr, a chlywed yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud, a gweithredu.

I grynhoi.... ‘A fydd newid addysg yn gallu newid Cymru?’ Rwy’n meddwl y bydd hynny’n bosibl, yn sicr yn achos dysgwyr sy’n brentisiaid. Drwy fabwysiadu’r syniadau a’r arfer gorau a amlygwyd heno, gallwn addasu ein rhaglenni er mwyn sicrhau ein bod yn diogelu ein prentisiaid ar gyfer y dyfodol!

 

Digwyddiadau blaenorol