Cofleidio deallusrwydd artiffisial (AI) mewn addysg: cyfleoedd, heriau ac ystyriaethau moesegol
29 Ionawr 2025 16:00 ar Zoom
Mae cryn edrych ymlaen at ein digwyddiad Siarad yn Broffesiynol 2025 ac, eleni, croesawn yr ysgolhaig uchel ei pharch yn rhyngwladol, yr Athro Rose Luckin, yn siaradwr gwadd.
Bydd yr Athro Luckin yn archwilio potensial gweddnewidiol deallusrwydd artiffisial (AI) mewn addysg ledled Cymru. Bydd hi’n ymdrin â sut mae technolegau AI eisoes yn cael effaith, gan gynnig cipolwg i dueddiadau y dylai addysgwyr eu rhagweld yn y dyfodol.
Yn ystod ei hanerchiad, bydd yr Athro Luckin yn ymdrin â meysydd allweddol, gan gynnwys:
- cymhwyso AI yn ymarferol i wella tasgau addysgu, dysgu a gweinyddol
- strategaethau ar gyfer manteisio ar AI i wella deilliannau addysgol
- ystyriaethau moesegol a mesurau diogelu wrth weithredu AI mewn lleoliadau addysgol
- cwestiynau hanfodol i ymarferwyr fyfyrio arnynt wrth iddynt ymgodymu â’r tirlun hwn sy’n esblygu’n gyflym iawn
Nod y digwyddiad hwn yw rhoi safbwynt blaengar i’r mynychwyr ar AI mewn addysg, gan gydbwyso brwdfrydedd am arloesi gydag ymagwedd feddylgar at weithredu. Bydd mynychwyr yn gadael gyda chipolygon gwerthfawr i’w helpu i gofleidio technolegau AI yn hyderus, gan flaenoriaethu lles a llwyddiant dysgwyr a phobl ifanc.
Mae’r digwyddiad hwn yn addas i gynulleidfa eang o weithwyr proffesiynol addysg, gan gynnwys ein holl gofrestreion ac unrhyw un sydd â diddordeb yn y defnydd o AI mewn addysg.
Mynnwch eich tocyn am ddim nawr.
Yr Athro Rose Luckin
Mae Rose Luckin yn ysgolhaig uchel ei pharch yn rhyngwladol ac yn gyfathrebwr dylanwadol ar draws amrywiol randdeiliaid ynghylch dyfodol addysg a thechnoleg, yn enwedig Deallusrwydd Artiffisial (AI). A chanddi dros 25 mlynedd o brofiad, mae’n arbenigwr cydnabyddedig ar AI mewn addysg, ac yn gynghorydd i lunwyr polisi, llywodraethau a diwydiant yn fyd-eang.
Mae’r Athro Luckin yn Athro Emerita yn University College Llundain (UCL) ac yn Sylfaenydd a Phrif Weithredwr Educate Ventures Research Limited (EVR), sef cwmni sy’n cynnig hyfforddiant a gwasanaeth ymgynghorol i’r sector addysg i’w helpu i fanteisio ar AI yn foesegol ac yn effeithiol.
Trwy gydol ei gyrfa, mae Rose wedi ymgymryd â rolau arwain allweddol mewn academia, gan gynnwys bod yn aelod o Grŵp Strategaeth y Cyfarwyddwr yn Athrofa Addysg UCL rhwng 2011 a 2015, a Dirprwy Is-ganghellor, Cyfarwyddwr Astudiaethau Israddedig Gwyddoniaeth a Thechnoleg, a Chyd-gyfarwyddwr Sefydlu’r grŵp ymchwil Technegol sy’n Canolbwyntio ar Bobl ym Mhrifysgol Sussex rhwng 2003 a 2006.
I gydnabod ei chyfraniadau, dyfarnwyd anrhydedd y Leading Woman in AI EDU i Rose yn Sioe ASU-GSV AIR yn 2024 a derbyniodd Wobr Effaith ISTE 2023, sef y person cyntaf y tu allan i ogledd America i dderbyn eu prif anrhydedd. Yn ogystal, dyfarnwyd Cadair Ryngwladol Francqui 2018 iddi gan Sefydliad Francqui yng Ngwlad Belg ac fe’i henwyd yn un o’r 20 o bobl fwyaf dylanwadol mewn addysg ar Restr Seldon 2017.
A hithau’n awdur toreithiog, mae Rose wedi cyhoeddi’n helaeth mewn cyfnodolion academaidd, llyfrau a thrafodion cynadleddau. Mae ei llyfr o 2018, ‘Machine Learning and Human Intelligence: The Future of Education for the 21st Century’, sydd ar gael yn Saesneg a Mandarin, yn disgrifio sut gellir defnyddio AI yn effeithiol i gefnogi dysgu ac addysgu. Mae ei llyfr diweddaraf, ‘AI for Schoolteachers’, a gyhoeddwyd yn 2022, yn ganllaw hanfodol a hygyrch i AI i bawb sy’n ymwneud ag addysg.
Mae Rose, sy’n siaradwr hynod boblogaidd, yn cyflwyno anerchiadau a darlithoedd cyhoeddus yn rheolaidd ar draws y byd ar AI, moeseg a dyfodol addysg. Mae hi’n cyfathrebu â’r cyhoedd trwy golofn fisol yn y Times Educational Supplement a barnau darn yn y Financial Times, y Guardian, a’r China Daily. Yn ogystal, mae Rose wedi ymddangos ar nifer o gyfryngau, gan gynnwys Radio 4 y BBC, ITV News, a CNBC.
Yn ogystal â’i rolau academaidd ac entrepreneuraidd, mae Rose yn gynghorydd i Cambridge University Press and Assessment ac mae’n gyd-sylfaenydd yr Institute for Ethical AI in Education. Hefyd, mae’n Llywydd The Self-Managed Learning Centre yn Brighton ac mae’n aelod o nifer o fyrddau cynghori yn y sector addysg a hyfforddiant. Mae gan Rose PhD mewn Gwyddorau Gwybyddol a Chyfrifiadureg a gradd Baglor Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn AI a Chyfrifiadureg, ill dwy o Brifysgol Sussex. Cyn ei gyrfa academaidd, enillodd Rose Gymrodoriaeth Sefydliad Siartredig y Bancwyr.