Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) ydym ni, sef rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol y gweithlu addysg yng Nghymru, a sefydlwyd gan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (y Ddeddf).
Rydym ni’n cofrestru ac yn rheoleiddio ymarferwyr addysg ar draws ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid ac addysg oedolion/dysgu seiliedig ar waith, ac rydym yn gweithio er budd y cyhoedd i gynnal proffesiynoldeb a gwella safonau ar draws y sectorau hyn.
Yr enw ar ymarferwyr ar ein Cofrestr Ymarferwyr Addysg yw ‘cofrestreion’ ac maent yn cynnwys y categorïau canlynol:
- athrawon ysgol
- gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion
- athrawon ysgolion annibynnol
- gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion annibynnol
- athrawon addysg bellach*
- gweithwyr cymorth dysgu mewn addysg bellach
- penaethiaid neu uwch arweinwyr sy’n gweithio mewn sefydliadau addysg bellach
- athrawon sefydliadau annibynnol arbennig ôl-16
- gweithwyr cymorth dysgu mewn sefydliadau annibynnol arbennig ôl-16
- ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith
- ymarferwyr addysg oedolion*
- gweithwyr ieuenctid*
- gweithwyr cymorth ieuenctid*
* mae gan y categorïau cofrestru hyn gymwysterau gofynnol. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.cga.cymru/cofrestru.
Mae cofrestreion yn gweithio mewn amrywiaeth eang o leoliadau addysg a hyfforddiant, gydag amrywiol lefelau o gyfrifoldeb, ar draws meysydd ymarfer gwahanol.
Mae’n ofynnol i bob cofrestrai gynnal y safonau a amlinellir yn y Cod hwn.
Y Cod
Mae gofyniad cyfreithiol arnom o dan y Ddeddf i gyhoeddi cod sy’n amlinellu’r safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol a ddisgwylir gan unigolion sydd wedi cofrestru gyda ni.
Mae ein Cod yn datgan yn glir i’n cofrestreion y prif safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol da y mae disgwyl i bob un ohonynt eu cynnal er mwyn parhau i gofrestru. Hefyd, mae’n galluogi dysgwyr a phobl ifanc, a phawb sy’n ymwneud â’u haddysg a hyfforddiant yng Nghymru, yn enwedig rhieni/gwarcheidwaid, i wybod beth y dylent ei ddisgwyl gan gofrestreion.
Lle nad yw disgwyliadau’n cael eu bodloni, gallem benderfynu ymchwilio a gwrando ar honiadau sy’n cael eu hatgyfeirio i ni er mwyn penderfynu p’un a ddylai cofrestriad ymarferwr barhau; mae gennym bwerau cyfreithiol i wneud hyn. Mae pob achos sy’n destun ymchwiliad a gwrandawiad yn cael ei ystyried ar sail ei rinweddau ei hun, gan gynnwys lleoliad cyflogaeth y cofrestrai dan sylw.
Mae’r Cod yn fan cyfeirio pwysig ar gyfer penderfynu p’un a ddylai unrhyw honiadau sy’n cael eu canfod yn wir arwain at gosb ddisgyblu gymesur.
Hefyd, mae’r Cod yn ein helpu i benderfynu a yw’r bobl sy’n gwneud cais i gofrestru gyda ni yn addas.
Y chwe egwyddor allweddol
Mae cofrestreion, gan gynnwys cofrestreion sydd wedi’u cofrestru dros dro, yn ymrwymo i gynnal egwyddorion allweddol: Cyfrifoldeb Personol a Phroffesiynol, Unplygrwydd Proffesiynol, Cydweithio, Arweinyddiaeth, Gwybodaeth a Dealltwriaeth Broffesiynol, a Dysgu Proffesiynol.
A. Ymddygiad Proffesiynol
1. Cyfrifoldeb Personol a Phroffesiynol
Mae cofrestreion:
- yn cydnabod eu cyfrifoldeb personol fel model o ymddygiad a ffigur cyhoeddus, i gynnal ffydd a hyder y cyhoedd yn y proffesiynau addysg, a hynny yn y gweithle a thu allan iddo
- yn cynnal perthnasoedd â dysgwyr a phobl ifanc yn broffesiynol, drwy:
- gyfathrebu â dysgwyr a phobl ifanc yn barchus, mewn ffordd sy’n briodol iddynt
- defnyddio pob math o gyfathrebu mewn modd priodol a chyfrifol, yn arbennig y cyfryngau cymdeithasol
- sicrhau bod unrhyw gysylltiad corfforol yn angenrheidiol, yn rhesymol ac yn gymesur
- cyfrannu at greu amgylchedd dysgu teg a chynhwysol drwy fynd i’r afael â gwahaniaethu, ystrydebu a bwlio
- cynnal ffiniau proffesiynol
- yn ymgysylltu â dysgwyr a phobl ifanc i annog hyder, grymuso, datblygiad addysgol a datblygiad personol
- yn meddu ar ddyletswydd gofal dros ddiogelwch dysgwyr a phobl ifanc a’u llesiant corfforol, cymdeithasol, moesol ac addysgol, drwy:
- roi buddiannau dysgwyr a phobl ifanc yn gyntaf
- gweithredu ynghylch unrhyw beth a allai beryglu diogelwch neu lesiant dysgwr neu berson ifanc
- rhoi gwybod, yn unol â 4.3, am unrhyw fater diogelu, neu unrhyw fater arall a allai o bosibl niweidio diogelwch neu lesiant dysgwr neu berson ifanc
- bod yn addas i ymarfer, sy’n cynnwys peidio ag yfed alcohol na bod o dan ddylanwad alcohol neu unrhyw sylwedd arall tra byddant yn y gwaith
- yn rheoli eu hiechyd, eu diogelwch a’u llesiant personol eu hunain, a’u bod yn ymwybodol o iechyd, diogelwch a llesiant personol eu cydweithwyr
- yn parchu ac yn ymrwymo i gydraddoldeb, cynwysoldeb ac amrywiaeth
- yn deall bod y Cod yn berthnasol yn syth adeg eu cynnwys ar y Gofrestr, wrth adnewyddu cofrestriad a thrwy gydol y cyfnod cyflogaeth pan mae’n ofynnol cofrestru gyda CGA, gan gynnwys cyfnodau Sefydlu statudol a chyfnodau prawf
2. Unplygrwydd Proffesiynol
Mae cofrestreion:
- yn atebol am eu hymddygiad a’u cymhwysedd proffesiynol
- yn ymddwyn yn onest, yn foesegol, gydag unplygrwydd, yn enwedig o ran:
- cyllid ac arian yn y gweithle, yn enwedig y rhai sy’n gyfrifol am reoli / dosbarthu cyllid mewn sefydliadau addysg sy’n cael eu hystyried yn fusnesau
- rhinweddau, profiad a chymwysterau personol
- geirdaon, datganiadau a wneir (yn enwedig yn gysylltiedig â cheisiadau i gofrestru gyda CGA, a chyflogaeth), ac wrth lofnodi dogfennau
- asesu a thasgau’n gysylltiedig ag arholiadau, gan sicrhau bod canlyniadau’n adlewyrchu gallu a gwybodaeth ymgeiswyr yn gywir
- eiddo a chyfleusterau eu cyflogwr
- cyfathrebu â CGA, gan ei hysbysu am unrhyw euogfarn droseddol neu rybuddiad cofnodadwy, neu gyfyngiad a osodir ar eu hymarfer gan unrhyw gorff arall
- eu cyflogwr, ac adrodd am unrhyw fater sy’n ofynnol yn ôl telerau ac amodau eu cyflogaeth
- eu hymddygiad yn y gweithle a thu allan iddo
- yn ymdrin â gwybodaeth a data mewn modd priodol, gan gymhwyso’r protocolau angenrheidiol i faterion yn ymwneud â chyfrinachedd, sensitifrwydd a datgelu
- yn glynu wrth safonau ymddygiad cyfreithlon, mewn modd sy’n cyd-fynd â’u statws fel un o gofrestreion CGA
3. Cydweithio
Mae cofrestreion:
- yn parchu, yn cynorthwyo ac yn cydweithio â chydweithwyr, dysgwyr, pobl ifanc ac eraill i gyflawni’r deilliannau dysgu gorau
- yn rhannu profiad a gwybodaeth i helpu eu hunain ac ymarferwyr eraill i ddatblygu a chynnal arfer gorau (gweler Adran B)
- yn ceisio datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith proffesiynol ac ymatebol â rhieni, gwarcheidwaid, gofalwyr a rhanddeiliaid eraill
- yn cyfathrebu mewn modd priodol ac effeithiol gyda phob un sy’n gysylltiedig ag addysg dysgwyr a phobl ifanc
4. Arweinyddiaeth
Mae cofrestreion â chyfrifoldebau arwain a rheoli yn:
- yn ymgorffori’r Cod ac yn arwain trwy esiampl
- yn hyrwyddo ac yn annog diwylliant sefydliadol cadarnhaol o barch, unplygrwydd, atebolrwydd a phroffesiynoldeb
- yn rheoli staff, adnoddau a risg yn effeithiol, gan gynnwys er mwyn sicrhau bod yr holl staff yn gallu cael at y cymorth, yr hyfforddiant a’r oruchwyliaeth angenrheidiol i fodloni’r safonau disgwyliedig
- yn atebol am benderfyniadau ac am ddirprwyo tasgau
B. Ymarfer Proffesiynol
5. Gwybodaeth a Dealltwriaeth Broffesiynol
Mae cofrestreion:
- yn gwybod y safonau proffesiynol sy’n berthnasol i’w proffesiwn/sector penodol mewn addysg, ac yn eu bodloni, drwy gydol eu gyrfa
- yn gwybod, yn deall ac yn cydymffurfio â pholisïau, gweithdrefnau a chanllawiau cyfredol sy’n berthnasol i’w hymarfer
- yn gwybod, yn deall ac yn cydymffurfio â pholisïau, gweithdrefnau a chanllawiau diogelu cyfredol sy’n berthnasol i’w hymarfer
- lle bo angen, yn ceisio cymorth, cyngor ac arweiniad ac yn agored i adborth, gan ymateb iddo mewn modd cadarnhaol ac adeiladol
6. Dysgu Proffesiynol
Mae cofrestreion:
- yn dangos ymrwymiad ar y cyd i’w dysgu proffesiynol parhaus drwy fyfyrio ar eu hymarfer a’i werthuso, sicrhau bod eu gwybodaeth a’u sgiliau proffesiynol yn gyfredol a chymryd camau i wella ansawdd eu hymarfer, lle bo angen
Cyhoeddi ac adolygu
Mae’r Cod ar gael yn rhad ac am ddim ar ein gwefan ar ffurf hawdd ei ddarllen, testun bras a fformatau eraill, os oes angen.
Mae’r Cod hwn yn disodli’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol ar gyfer cofrestreion, a gyhoeddwyd gennym ar 10 Mai 2024. Yn unol â’r Ddeddf, byddwn yn adolygu’r Cod hwn bob tair blynedd.
Mae ein canllawiau arfer da yn ategu’r Cod hwn ac maent ar gael ar ein gwefan.